Sut y gall bargeinio eich helpu i dalu llai am gar ail-law
Diweddarwyd diwethaf:
01 Medi 2021
Nid yw bargeinio’n Brydeinig, cywir? Anghywir. Mae mwy na chwech o bob 10 o bobl yn cael rhywfaint o arian oddi ar bris car ail-law dim ond trwy ofyn. Mae’n ymddangos o ran prynu car ail law nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn ofni ceisio cael y fargen orau.
Mae ymchwil gan HelpwrArian yn dangos bod dynion yn fwy parod i negodi dros bris, gyda 67% yn cael gostyngiad o gymharu â 60% o fenywod, ond nid oes unrhyw reswm pam na all unrhyw un roi cynnig arni.
Beth yw’r cargorau i chi?
Mae'n debyg y bydd gennych derfyn uchaf i'w wario ar fodel penodol. Ond mae mwy i gost car na’r hyn rydych chi’n ei dalu amdano - mae costau rhedeg gan gynnwys tanwydd, treth ac yswiriant hefyd yn bwysig i’w ystyried.
Siopwch o gwmpas yn gyntaf bob amser
Siopwch o gwmpas unwaith y bydd gennych syniad clir o'r gyfradd gyfredol ar gyfer car penodol. Gwiriwch ar-lein i weld beth mae gwerthwyr cystadleuol yn eich ardal yn ei gynnig ar fodelau tebyg gan y gall hyn fod yn arf bargeinio da pan fyddwch chi'n chwilio am eich car nesaf.
Os ydych chi’n gwerthu eich car presennol, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ei werth, fel eich bod chi’n cael y pris gorau i’w roi tuag at eich pryniant newydd. Gall canllawiau moduro fel Glass’s a Parkers helpu yma. Mae'n debyg y byddwch chi'n cael mwy os byddwch chi'n gwerthu'ch car yn breifat, ond gall y dull hwn gymryd mwy o amser.
Cwblhewch y cytundeb gyda garej
Byddwch yn gyfeillgar ac yn gwrtais wrth drafod gyda delwriaeth gerbydau, ond peidiwch byth â gadael i'r gwerthwr wybod eich terfyn uchaf. Dechreuwch gyda chynnig is fel y gallwch chi drafod a chyfarfod yn y canol.
Byddwch yn gadarnhaol bob amser pan fyddwch yn gwneud cynnig. Peidiwch â gofyn am ostyngiad, ond yn hytrach gofynnwch beth allant ei wneud i chi ar y pris - a pheidiwch â siarad eto nes bod y gwerthwr yn ateb.
Os ydych yn brynwr arian parod, peidiwch â dweud hyn wrth y gwerthwr ar unwaith. Mae delwyr yn gwneud mwy o elw ar gytundebau cyllid, felly gadewch iddynt drafod gwerth y car ar y sail honno. Gallwch wrthod y fargen gyllid unwaith y byddwch wedi cytuno ar bris. Os ydych chi’n cael trafferth cael gostyngiad ond yn wirioneddol eisiau’r car, cynigiwch ei brynu yn y fan a’r lle. Gall gwerthiant cyflym eich helpu i gytuno ar bris.
A pheidiwch â bod ofn cerdded allan os na fydd y deliwr yn negodi - nid oes prinder gwerthwyr ceir.
Manteision ac anfanteision prynu car o werthwyr preifat
Ni fyddwch yn cael gwarant car ail law os byddwch yn prynu gan werthwr preifat, sy’n golygu bod gennych lai o ddychweliad cyfreithiol os oes problem. Ond ni fydd ganddynt dargedau gwerthu i’w cyrraedd ac felly gallent fod yn barod i ollwng eu pris, yn enwedig os ydynt eisoes wedi clustnodi eu car nesaf ac angen dadlwytho eu hen gar i ryddhau rhywfaint o arian parod.