Os ydych yn gweithio'n rhan amser, ni ddylech gael eich trin yn wahanol na chyflogai llawn amser sy'n gwneud yr un swydd.
Ymrestru awtomatig
Nid yw gweithio'n rhan-amser yn golygu y dylid eich trin yn wahanol na rhywun sy'n gwneud yr un swydd sy'n gweithio'n llawn amser.
Mae hyn yn golygu bod gennych yr un hawliau i ymuno â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr neu i gael eich ymrestru'n awtomatig, os ydych yn gymwys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig – cyflwyniad
Cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio
Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio (gan gynnwys pensiwn ‘cyflog terfynol’ neu ‘gyfartaledd gyrfa’), telir incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i'ch cyflogwr.
Fel arfer byddwch yn gwneud cyfraniadau i’r pensiwn yn seiliedig ar eich enillion pensiynadwy.
Mae enillion pensiynadwy yn golygu faint o'ch cyflog y mae eich pensiwn yn seiliedig arno. Bydd rhai cynlluniau yn eu seilio ar ganran o'ch cyflog, ac efallai na fyddant yn cynnwys taliadau bonws na goramser.
Cynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
A ydych yn aelod o gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio? Yna byddwch yn cronni cronfa bensiwn a all roi incwm ymddeol i chi sy'n seiliedig ar faint rydych chi a'ch cyflogwr yn ei gyfrannu a faint mae hyn yn tyfu.
Mae'r cyfraniadau a wnewch i'r pensiwn yn seiliedig ar eich enillion pensiynadwy.
Mae enillion pensiynadwy yn golygu faint o'ch cyflog mae eich pensiwn yn seiliedig arno.
Bydd rhai cynlluniau yn eu seilio ar ganran o'ch cyflog, ac efallai na fyddant yn cynnwys taliadau bonws na goramser.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn gweithle
Eich hawliau pensiwn fel gweithiwr rhan-amser
Gan fod eich enillion fel gweithiwr rhan-amser yn debygol o fod yn is na rhywun sy'n gweithio'n llawn amser – mae'r hyn a gewch ar ôl ymddeol hefyd yn debygol o fod yn is.
Ond, os credwch nad ydych yn derbyn yr un hawliau pensiwn â chyflogai amser llawn sy'n gwneud yr un gwaith â chi – gallwch wneud cais am yr hawliau y dylech fod wedi'u cael.
Mae'r hawliau hyn yn cynnwys::
- cael cyfle i ymuno â chynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr
- cael eich ymrestru'n awtomatig yng nghynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr, os ydych yn gymwys.
Ond cyn i chi wneud cais, mae'n syniad da ei drafod yn gyntaf â'ch cyflogwr neu gynrychiolydd undeb llafur.
Mae gennych hawl i gael datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y driniaeth gan eich cyflogwr. Bydd angen i chi wneud y cais yn ysgrifenedig, a bydd rhaid i'r cyflogwr ysgrifennu yn ôl cyn pen 21 diwrnod.
Os nad ydych yn fodlon bod cyfiawnhad gwrthrychol i'r rheswm a roddwyd - efallai y gallwch fynd ag achos i dribiwnlys cyflogaeth.