Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Beth yw cynlluniau AVC a FSAVC?

Os oes gennych bensiwn gweithle, mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) a Chynlluniau Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol (FSAVC) yn caniatáu i gynyddu faint o fuddion rydych yn eu derbyn ar ar ymddeol trwy dalu cyfraniadau ychwanegol. Mae yna wahanol ffyrdd o wneud hyn ac mae pob un yn prynu gwahanol fuddion i chi. Mae gwahanol bensiynau hefyd yn cynnig gwahanol opsiynau.

Sut y mae cynlluniau AVC a FSAVC yn gweithio

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC)

Mae pensiwn AVC yn caniatáu i aelodau cynlluniau pensiwn gweithle gronni buddion pensiwn yn ychwanegol at y buddion safonol a ddarperir gan eu cynllun. Meddyliwch amdano fel rhywbeth sy'n ychwanegu at eich cynilion pensiwn.

Sefydlir y rhain gan gyflogwr neu ymddiriedolwyr cynllun pensiwn cyflogwr. Fe'u dyluniwyd i eistedd ochr yn ochr â'r prif gynllun pensiwn gweithle.

Gyda phensiwn AVC, mae'r cyfraniadau fel arfer yn cael eu tynnu o'ch cyflog a'u hanfon i'r cynllun pensiwn gan eich cyflogwr.

Mae dau brif fath o gynllun AVC:

Cynllun AVC cyfraniadau wedi’u diffinio

Gyda chynllun AVC Cyfraniadau Wedi’u Diffinio (DC), rydych yn gwneud cyfraniadau sydd wedyn yn cael eu buddsoddi i roi cronfa o arian i chi ar gyfer ymddeol.

Gallwch chi ddechrau cymryd arian o'r cronfa hwn, o bosibl, o 55 oed, ar yr un pryd neu ar ôl i chi ddechrau cymryd incwm o'r prif gynllun. Bydd yr union amseriadau yn dibynnu ar reolau eich cynllun.

Bydd gwerth eich cronfa pensiwn yn dibynnu ar:

  • faint rydych wedi'i gyfrannu at y cynllun AVC
  • pa mor hir y buddsoddwyd pob cyfraniad
  • sut mae'ch buddsoddiadau'n perfformio dros amser.

Bydd rhai cyflogwyr yn ychwanegu at (neu'n cyfateb) a'ch cyfraniadau i'ch cynllun DC.

Cynllun AVC Buddion wedi’u diffinio (a elwir weithiau yn ‘ychwanegu blynyddoedd AVC’)

Mae pensiynau buddion wedi’u diffinio yn talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir roeddech yn aelod o'r cynllun pensiwn gyda chyfraniadau pensiwn yn cael eu gwneud.

Dylech siarad â'ch cyflogwr i gael mwy o fanylion am y cynllun a'r hyn y byddech chi'n ei gael.

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Annibynnol (FSAVC)

Mae FSAVCs yn debyg i gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol ac maent hefyd wedi'u cynllunio i eistedd ochr yn ochr â'ch pensiwn cwmni.

Y gwahaniaeth yw, yn lle bod y cyflogwr yn sefydlu'r cynllun ac yn tynnu cyfraniadau o'ch cyflog, rydych chi'n ei sefydlu'ch hun trwy ddarparwr pensiwn a chaiff y FSAVCs eu casglu gennych chi'n uniongyrchol.

Yna buddsoddir eich cyfraniadau i roi cronfa o arian i chi ar gyfer ymddeol.

Gan fod FSAVCs ar wahân i'ch prif gynllun, fel rheol gallwch chi ddechrau cymryd arian o'r cronfa hwn ar unrhyw adeg ar ôl 55 oed. Gall hyn amrywio yn dibynnu ar reolau eich cynllun, felly gwiriwch â'ch darparwr.

Bydd gwerth eich cronfa bensiwn yn dibynnu ar:

•      faint rydych wedi'i gyfrannu at y cynllun FSAVC

•      pa mor hir y buddsoddwyd pob cyfraniad

•      sut mae'ch buddsoddiadau'n perfformio dros amser.

A yw AVCs a FSAVCs yn fuddsoddiad da?

Mae hynny'n wir yn dibynnu arnoch chi. Bydd y trefniant a'r math o bensiwn sydd gennych, lle mae'ch cynllun yn buddsoddi'ch taliadau, unrhyw daliadau ac unrhyw amgylchiadau eraill sy'n effeithio ar eich ymddeoliad i gyd yn ffactor o ran ai y taliadau hyn fydd y defnydd gorau o'ch arian.

Dyma fanteision cynilo i mewn i AVC:

  • Gallant eich helpu i adeiladu buddion ychwanegol ar gyfer ymddeol.
  • Gallant fod yn rhatach o'u cymharu â chostau sefydlu pensiwn eich hun.
  • Gallant gynnig yr hyblygrwydd i chi allu stopio neu newid y symiau rydych chi'n eu cyfrannu dros amser.
  • Cewch ryddhad treth ar eich cyfraniadau (hyd at derfynau penodol). Am fwy o wybodaeth gweler ein canllaw Rhyddhad treth a’ch pensiwn.

Mae yna lawer o fuddion i gynilo gydag AVCs a FSAVCs (fel y nodir uchod), ac mae rhoi rhywbeth o'r neilltu ar gyfer eich ymddeoliad bob amser yn werth chweil, hyd yn oed os penderfynwch gynilo mewn ffordd nad yw'n cynnwys AVCs a FSAVCs.

Mae gwahanol bensiynau'n cynnig gwahanol opsiynau

Dyma drosolwg o rai o'r opsiynau mwyaf cyffredin a gynigir:

Blynyddoedd ychwanegol

Yn lle cyfrannu arian ychwanegol i'w fuddsoddi fel gyda chynllun Cyfraniadau Wedi’u Diffinio, defnyddir yr arian rydych yn ei dalu i mewn i fuddion wedi’i diffinio i brynu amser ychwanegol yng nghynllun pensiwn buddion wedi’i diffinio y cyflogwr. Mae’r ‘blynyddoedd ychwanegol’ hyn yn cynyddu’r buddion pensiwn y gallwch eu cael pan fyddwch yn ymddeol.

Pensiwn ychwanegol

Rydych yn gwneud cyfraniadau ychwanegol a ddefnyddir i brynu swm o bensiwn cynllun gwarantedig, er enghraifft £15k i brynu £1,000 o incwm blynyddol ychwanegol am oes. Nid yw'n newid y ffordd mae'ch prif incwm pensiwn yn cael ei gyfrifo - rydych ond yn cael swm ychwanegol o bensiwn pan fydd eich prif gynllun pensiwn yn cael ei dalu.

Prynu cyfandaliad

Yn debyg i'r uchod - rydych yn gwneud cyfraniadau ychwanegol i brynu cyfandaliad di-dreth ar ymddeol. Y syniad yma yw bod angen i chi ildio llai o'ch pensiwn i gael lwmp swm di-dreth pan gyrhaeddwch eich ymddeoliad.

Croni uwch

Mae swm y pensiwn rydych yn ei ennill bob blwyddyn yn cael ei bennu gan yr hyn a elwir yn gyfradd ‘cronni’ neu ‘gronnol’ a ddangosir fel arfer fel ffracsiwn o’ch enillion.

Rydych yn gwneud cyfraniadau uwch yn gyfnewid am groni eich pensiwn yn gyflymach na'r arfer o dan y cynllun. Er enghraifft, efallai eich bod mewn cynllun sy'n cronni ar gyfradd o 1/57 felly rydych yn ennill pensiwn o 1/57fed o'ch enillion bob blwyddyn. Ond gallwch dalu lefel uwch o gyfraniadau i’w croni'n gyflymach, fel 1/55fed neu 1/50fed o'ch enillion, er enghraifft.

Pe byddech chi'n ennill £28,000 mewn blwyddyn, er enghraifft, byddech yn ennill pensiwn am y flwyddyn honno o 1/57fed o £28,000 sy'n £491. Pe bai'r gyfradd gronni o ganlyniad i wneud cyfraniadau uwch yn 1/55fed yna byddech yn ennill pensiwn o £509 yn lle hynny am y flwyddyn honno. 

Gwrthbwyso oedran ymddeol cynharach

Mae gan y mwyafrif o gynlluniau buddion wedi’i diffinio ddyddiad ymddeol arferol y byddant yn talu'ch incwm ymddeol ohono. Os ydych am ddechrau derbyn eich incwm yn gynharach na hyn, bydd y cynllun yn aml yn lleihau'r incwm maent yn ei gynnig i chi oherwydd y disgwyliad y bydd angen iddo eich talu am gyfnod hirach.

Gyda'r opsiwn hwn, bydd gwneud cyfraniadau ychwanegol yn golygu y gallwch gymryd eich pensiwn yn gynharach nag y byddech fel arfer yn gallu ei gymryd, heb iddo gael ei leihau. 

Opsiynau eraill

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr - mae yna opsiynau eraill na chrybwyllir uchod. Siaradwch â'ch darparwr pensiwn/gweinyddwr cynllun a all esbonio'r holl opsiynau sydd ar gael i chi a sut maent yn gweithio. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.