A ydych yn ystyried gadael y DU i fyw mewn gwlad arall, neu a ydych wedi bod yn gweithio yn y DU am gyfnod ac yn awr yn symud dramor? Yna efallai hoffech edrych ar yr opsiwn o symud eich pensiwn i wlad arall.
Os symudwch dramor, nid oes rhaid i chi drosglwyddo’ch pensiwn o’r DU. Gallwch ddewis ei adael yn y DU ac yna cymryd incwm ohono. Fodd bynnag, gallai fod buddion o symud eich pensiwn dramor. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau, beth allai'r buddion fod a beth sydd angen i chi feddwl amdano.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pam gallech ystyried symud eich pensiwn dramor?
- Beth yw’r opsiynau ar gyfer trosglwyddo pensiwn dramor?
- Treth wrth drosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS)
- QROPS a’r lwfans oes
- Beth fydd yn digwydd os trosglwyddaf i gynllun tramor nad yw'n QROPS?
- A wyf yn rhydd o reolau a threthi y DU ar fy mhensiynau os trosglwyddaf?
- QROPS a diogelu defnyddwyr
- Dewis ymgynghorydd ariannol
- Trosglwyddo pensiynau i'r DU o wlad arall
- A fydd rhaid i mi dalu treth pan drosglwyddaf fy mhensiwn?
- A fydd Brexit yn cael effaith arnaf wrth drosglwyddo fy mhensiwn i’r DU ?
- Pryd a sut allai gael mynediad i arian yn y DU?
Pam gallech ystyried symud eich pensiwn dramor?
Os ydych yn byw dramor neu’n ystyried symud dramor, efallai y byddwch yn ystyried symud neu ‘drosglwyddo’ i bensiwn y tu allan i’r DU:
- Efallai hoffech i’ch pensiynau fod yn y wlad rydych yn ymddeol iddi, fel na fyddwch yn derbyn incwm mewn punnoedd ac yn gwario mewn arian breiniol gwahanol (oherwydd gall cyfraddau cyfnewid amrywio).
- Efallai y bydd yn haws i chi hefyd gadw golwg ar newidiadau treth a rheoleiddio os ydynt yn digwydd yn y wlad lle rydych yn byw.
- Efallai eich bod yn gweithio y tu allan i’r DU i gyflogwr sy’n cynnig pensiwn ac rydych yn hoffi’r buddion a gynigir.
Beth yw’r opsiynau ar gyfer trosglwyddo pensiwn dramor?
Os ydych yn ystyried symud eich pensiwn dramor, argymhellir yn gryf eich bod yn cael cyngor ariannol rheoledig cyn trosglwyddo'ch pensiwn y tu allan i'r DU.
Efallai y bydd angen i chi ddod o hyd i ymgynghorydd yn y DU a all eich helpu, yn ogystal ag ymgynghorydd yn y wlad rydych am symud eich pensiwn iddi.
Os ydych am drosglwyddo’ch pensiwn dramor, mae nifer o reolau a chyfyngiadau mae rhaid i chi gydymffurfio â hwy, fel y gosodir gan CThEM.
Bydd angen i chi drosglwyddo i ‘gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys’ (QROPS). Cynllun pensiwn tramor yw QROPS sy’n cwrdd â rheolau CThEM i dderbyn trosglwyddiadau o gynlluniau pensiwn cofrestredig yn y DU.
Darganfyddwch fwy am drosglwyddo i bensiwn QROPS ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r amodau’n cynnwys bod ar gael i drigolion y wlad honno a pheidio â gallu cymryd arian ohoni cyn 55 oed heblaw o dan amgylchiadau arbennig.
I wirio a yw pensiwn yn QROPS, gwelwch y rhestr o gynlluniau sydd wedi dweud wrth CThEM eu bod yn cwrdd â'r amodauYn agor mewn ffenestr newydd i fod yn Gynllun Pensiwn Tramor Cydnabyddedig (ROPS) ar GOV.UK
Pethau i feddwl amdanynt
Os symudwch dramor, nid oes rhaid i chi drosglwyddo’ch cronfa bensiwn yn y DU. Gallwch ddewis ei adael yn y DU ac yna cymryd incwm ohono yn y DU:
- Gellir rheoli risg arian breiniol a chomisiwn cyfnewid trwy sefydlu cyfrif cyfnewid tramor a throsglwyddo arian i'ch arian lleol, yn ôl yr angen.
- Os ydych yn trosglwyddo'ch pensiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y nodweddion a’r opsiynau yn y cynllun newydd rydych yn trosglwyddo iddo a sut mae’n wahanol i’ch pensiwn cyfredol.
- Cadwch lygad am unrhyw daliadau y gallech eu talu i wneud y trosglwyddiad a gwirio beth yw’r taliadau sefydlu a pharhaus ar y pensiwn newydd.
- Ymhob achos, argymhellir y dylech gael cyngor ariannol rheoledig cyn trosglwyddo'ch pensiwn y tu allan i’r DU oherwydd gall rhai o’r materion hyn fod yn gymhleth. Mae rhaid i chi gael cyngor ariannol rheoledig os ydych am drosglwyddo o’r rhan fwyaf o bensiynau buddion wedi’u diffinio ac o rai cronfeydd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy’n cynnwys gwarant ar faint o incwm y byddwch yn ei gael. Mewn rhai achosion, gallai hyn arwain at gael cyngor rheoledig yn y DU a'r wlad rydych yn trosglwyddo iddi. Gall safonau cyngor amrywio mewn gwahanol wledydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hyderus o statws proffesiynol, cymwysterau a phrofiad unrhyw ymgynghorydd rydych yn siarad ag ef.
- Ers 2013, ni chaniateir i ymgynghorwyr rheoledig yn y DU godi comisiwn ac mae rhaid iddynt fod yn agored ynghylch y ffioedd y byddant yn eu codi arnoch am gyngor pensiynau. Nid yw hyn yn wir ym mhob gwlad.
- Dylech hefyd gadw llygad am ffioedd eraill, megis comisiwn parhaus o’ch buddsoddiadau a newid taliadau.
- Darganfyddwch hefyd sut y bydd y QROPS yn buddsoddi'ch arian ac a oes gennych unrhyw ddewis yn y math o fuddsoddiadau. Ystyriwch lefel y risg rydych yn hapus â hi. Cofiwch y gallech fod yn waeth eich byd os trosglwyddwch eich pensiwn dramor.
- Mae'r rheolau ynghylch faint y byddwch yn cael eich trethu a phryd y gallwch dynnu arian o'r pensiwn yn wahanol o wlad i wlad. A gall trosglwyddiadau i QROPS fod yn destun nifer o daliadau treth fel y’u rhestrir isod.
Treth wrth drosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys (QROPS)
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch drosglwyddo heb dalu unrhyw dreth. Ond mewn eraill, bydd rhaid i chi dalu treth o 25% ar y trosglwyddiad.
Fel rheol, byddwch yn gallu trosglwyddo’n ddi-dreth os :
- ydych yn preswylio yn y wlad rydych yn ei throsglwyddo i QROPS ynddi
- ydych yn preswylio mewn gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac mae’r QROPS rydych yn trosglwyddo iddo wedi ei leoli mewn gwlad AEE arall neu Gibraltar
- yw'r cyflogwr sy’n noddi yn darparu’r QROPS rydych yn trosglwyddo iddo .
Os nad yw'r cynllun rydych yn trosglwyddo allan ohono yn derbyn y gwaith papur cywir, mae rhaid iddynt godi’r 25% ar drosglwyddo beth bynnag. A bydd rhaid i chi wneud cais am ad-daliad trwy eich cynllun yn nes ymlaen.
Os ydych wedi'ch eithrio o’r tâl wrth drosglwyddo ond bydd eich amgylchiadau’n newid o fewn pum mlynedd, megis symud i wlad arall neu symud eich QROPS i wlad arall, efallai bydd rhaid i chi dalu’r tâl treth o 25% ar y pwynt hwnnw.
Fel arfer bydd rhaid i chi dalu tâl treth o 25% am drosglwyddo os:
- ydych yn trosglwyddo i QROPS sydd wedi’i leoli yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu Gibraltar ac nad ydych yn preswylio yn y DU, yr AEE neu Gibraltar ar yr adeg rydych yn trosglwyddo neu’n dod yn ddibreswyl o fewn pum mlynedd i’r trosglwyddiad
- ydych yn trosglwyddo i QROPS sydd wedi’i leoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu Gibraltar ac nad ydych yn preswylio yn y wlad y mae’r QROPS wedi'i lleoli ynddi. (Gallwch wneud cais am ad-daliad os byddwch yn symud i’r wlad mae eich QROPS wedi’i lleoli ynddi cyn pen pum mlynedd ar ôl trosglwyddo).
QROPS a’r lwfans oes
Y lwfans oes yw’r terfyn y gallwch ei gronni mewn buddion pensiwn dros eich oes wrth barhau i fwynhau'r buddion treth llawn.
Am y flwyddyn dreth 2023-24, y lwfans oes yw £1,073,100.
Os ewch dros y lwfans, yn gyffredinol byddwch yn talu tâl treth ar y swm dros ben os byddwch:
- yn ei gymryd fel incwm
- yn ei drosglwyddo dramor, neu
- yn cyrraedd 75 oed â phensiwn heb ei gyffwrdd .
Os ydych o dan 75 oed ac yn trosglwyddo allan o bensiynau cofrestredig yn y DU i QROPS, bydd gwerth y trosglwyddiad yn cael ei brofi yn erbyn y lwfans oes. Os yw dros eich lwfans heb ei ddefnyddio, gallai hyn arwain at dâl treth o 25% ar y gormodedd.
Os ydych o dan 75 oed ac yn trosglwyddo i bensiwn cofrestredig yn y DU o QROPS, bydd hyn fel arfer yn arwain at gynnydd yn eich lwfans oes.
Os gallai'r naill neu'r llall o'r sefyllfaoedd hyn fod yn berthnasol i chi, rydym yn argymell eich bod yn siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig .
Beth fydd yn digwydd os trosglwyddaf i gynllun tramor nad yw'n QROPS?
Os trosglwyddwch i bensiwn tramor ac nid yw’n QROPS, fel arfer cewch eich dosbarthu fel gwneud taliad anawdurdodediwg o’ch pensiwn. Gallai hyn arwain at dâl treth anawdurdodedig o 55%, â'r posibilrydd o gosbau ychwanegol.
Mae trosglwyddiad o’r fath hefyd yn annhebygol o gael ei reoleiddio ac mae’n debygol o'ch gadael yn methu â chael iawndal.
Efallai y byddwch hefyd yn cael eich hun mewn buddsoddiadau peryglus. Yn fyr, y gwaethaf a allai ddigwydd yw eich bod yn colli'ch holl arian ac yn dal i gael eich hun â thâl treth i’w dalu.
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau – peidiwch â gweithredu ar gyngor rhywun sydd wedi cysylltu â chi yn annisgwyl, a delio â chynghorydd ariannol rheoledig bob amser.
Darganfod sut i adnabod, osgoi a rhoi gwybod am sgamiau pensiwn yn ein canllaw Sut i adnabod sgam pensiwn
A wyf yn rhydd o reolau a threthi y DU ar fy mhensiynau os trosglwyddaf?
Wrth drosglwyddo, bydd gan eich QROPS ofyniad rhoi gwybod am ddeng mlynedd i CThEM. Felly os byddwch yn torri rheolau QROPS, fel cymryd arian o’r pensiwn cyn 55 oed, gallech orfod talu tâl treth o 55% ynghyd â chosbau.
Ar gyfer pobl sydd wedi trosglwyddo i QROPS cyn 6 Ebrill 2017, mae rhaid i chi fod wedi bod yn preswylio y tu allan i’r DU am bum mlynedd dreth yn olynol erbyn i chi ddod i gymryd arian o’r pensiwn. Estynnwyd y cyfnod preswylio y tu allan i'r DU i ddeng mlynedd dreth yn olynol ar gyfer y rhai sy’n trosglwyddo ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.
Hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn breswylydd am fwy na 10 mlynedd dreth lawn, gall taliadau treth y DU fod yn berthnasol o hyd os cymerwch arian o QROPS lai na phum mlynedd ers i'r cronfeydd gael eu trosglwyddo o gynllun pensiwn cofrestredig yn y DU.
Os ydych yn preswylio yn y DU pan fyddwch yn cymryd arian o’ch QROPS, mae’n debygol y bydd hyn yn destun Treth Incwm y DU.
Os ydych yn preswylio dramor, bydd angen i chi wirio’r rheolau treth ar gyfer y wlad honno a’r wlad lle mae’ch QROPS wedi'i seilio hefyd. Cyn i chi drosglwyddo, gwiriwch pa dreth y byddwch yn ei thalu ar yr incwm pensiwn.
QROPS a diogelu defnyddwyr
Pan gewch gyngor ariannol rheoledig yn y DU, rydych yn cael eich diogelu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a gallwch gwyno yn erbyn cyngor gwael i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS).
Os oes gennych gŵyn mewn perthynas â sut mae’ch cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU yn cael ei redeg, gallwch hefyd gwyno i'r FOS neu'r Ombwdsmon Pensiynau.
Os cewch gyngor gan ymgynghorydd a reoleiddir mewn gwlad arall, bydd rhaid cyflwyno unrhyw gŵyn a wnewch yn erbyn y cyngor i'r awdurdodau yn y wlad honno.
Os oes gennych gŵyn ynglŷn â sut mae’ch QROPS yn cael ei redeg, bydd rhaid i chi gwyno i'r rheolydd yn y wlad mae'r QROPS wedi'i lleoli.
Dewis ymgynghorydd ariannol
Ar gyfer ymgynghorwyr yn y DU, gallwch chwilio yn ôl cod post ac yna defnyddio hidlydd i chwilio am y rhai sydd ag arbenigedd mewn cyllid alltud yn y cyfeirlyfrau canlynol:
Y tu allan i’r DU, efallai y gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd Saesneg ei iaith .
Trosglwyddo pensiynau i'r DU o wlad arall
Os ydych wedi cronni pensiwn mewn gwlad arall ac yn byw yn y DU bellach, efallai eich bod yn meddwl a allwch ddod â hyn â chi.
A gaf i drosglwyddo fy mhensiynau o wlad arall i'r DU?
Mae'n bosibl trosglwyddo i gynllun pensiwn cofrestredig y DU o gynllun pensiwn tramor (y tu allan i’r DU). Fodd bynnag, bydd yn dibynnu ar delerau’r cynllun pensiwn rydych am drosglwyddo iddo a ydynt am dderbyn y trosglwyddiad. Ac efallai y bydd yn anodd i chi ddod o hyd i ddarparwr pensiwn sy’n barod i dderbyn yr arian.
Efallai y bydd angen i’r darparwr pensiwn gynnal gwiriadau gwrth-wyngalchu arian i wirio ffynhonnell yr arian sy'n cael ei drosglwyddo.
Pan fydd pensiwn eisoes yn cael ei dalu dramor, gallai fod cymhlethdodau ychwanegol wrth ddod o hyd i ddarparwr yn y DU sy’n barod i dderbyn y trosglwyddiad a pharhau â’r taliadau yn y DU.
Hefyd, gwiriwch â darparwr y pensiwn yn y wlad dramor rydych am drosglwyddo ohoni. Er enghraifft, fel rheol ni all dinasyddion Awstralia drosglwyddo cynlluniau pensiwn Awstralia i wlad dramor cyn 55 oed. (Mae’r oedran y gall dinesydd Awstralia drosglwyddo pensiynau dramor yn amrywio yn ôl eu dyddiad geni.)
A yw’n syniad da trosglwyddo fy mhensiwn?
Mae trosglwyddo pensiwn yn gwestiwn pwysig ac mae’n bwysig gwirio a ydych yn debygol o fod yn well neu'n waeth eich byd ar ôl trosglwyddo .
Bydd p’un a yw trosglwyddiad yn addas yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch amcanion unigol.
Pethau i’w hystyried
Os symudwch i’r DU, gwiriwch a ydych yn gallu gadael eich pensiwn yn y wlad y gwnaethoch ei gronni ynddi.
- Gellir rheoli comisiwn risg arian a chyfnewid trwy sefydlu cyfrif cyfnewid tramor a throsglwyddo arian i'ch arian lleol, yn ôl yr angen .
- Os ydych yn trosglwyddo’ch pensiwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y nodweddion a'r opsiynau yn y cynllun newydd rydych yn trosglwyddo iddo a sut mae'n wahanol i'ch pensiwn cyfredol.
- Cadwch lygad am unrhyw daliadau y gallech eu talu i wneud y trosglwyddiad a gwirio beth yw'r taliadau sefydlu a pharhaus ar y pensiwn newydd.
- Darganfyddwch sut y bydd eich arian yn cael ei fuddsoddi ym mhensiwn y DU ac a oes gennych unrhyw ddewis yn y math o fuddsoddiadau. Ystyriwch lefel y risg rydych yn hapus â hi. Efallai y byddwch yn waeth eich byd os trosglwyddwch eich pensiwn i’r DU.
- Mae’r rheolau ynghylch faint y byddwch yn cael eich trethu a phryd y gallwch dynnu arian o'r pensiwn yn wahanol o wlad i wlad ac y gall trosglwyddiadau i QROPS fod yn destun nifer o daliadau treth (a restrir isod).
- Ymhob achos, argymhellir eich bod yn cael cyngor ariannol rheoledig cyn trosglwyddo'ch pensiwn i’r DU oherwydd gall rhai o’r materion hyn fod yn gymhleth. Mewn rhai achosion, gallai hyn arwain at gael cyngor rheoledig yn y DU a’r wlad rydych yn trosglwyddo ohoni. Gall safonau cyngor amrywio mewn gwahanol wledydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn hyderus o statws proffesiynol, cymwysterau a phrofiad unrhyw ymgynghorydd rydych yn siarad ag ef.
A fydd rhaid i mi dalu treth pan drosglwyddaf fy mhensiwn?
Triniaeth dreth yn y DU
Ni fyddai’r taliad trosglwyddo yn cael ei drin o dan reolau treth fel cyfraniad i’ch pensiwn ac felly:
- ni fyddai rhyddhad treth yn daladwy
- ni fyddai’n cyfrif tuag at eich lwfans blynyddol ar gyfer cyfraniadau pensiwn (y swm y gellir ei gyfrannu at bensiynau bob blwyddyn wrth elwa o ostyngiad treth a chyn y gallai fod rhaid i chi dalu tâl treth).
Gallai eich lwfans oes gael ei effeithio. Y lwfans oes yw’r terfyn y gallwch ei gronni mewn buddion pensiwn dros eich oes wrth barhau i fwynhau'r buddion treth llawn yn y DU.
Ar gyfer y flwyddyn dreth 2023-24, y lwfans oes yw £1,073,100. Os ewch dros y lwfans, yn gyffredinol byddwch yn talu tâl treth ar y swm dros ben ar 55% pan fyddwch yn cymryd cyfandaliad neu 25% os byddwch:
- yn ei gymryd fel incwm
- yn ei drosglwyddo dramor, neu
- yn cyrraedd 75 oed â phensiwn heb ei gyffwrdd.
At ddibenion y lwfans oes, nid yw'r trosglwyddiad yn cael ei gyfrif fel un o'r profion (a elwir yn Ddigwyddiad Crisialu Budd-daliadau).
Felly ni fyddai'r trosglwyddiad yn actifadu tâl treth. Fodd bynnag, bydd y swm a drosglwyddir yn rhan o’ch cynilion pensiwn yn y DU ac felly bydd ei werth yn cael ei brofi yn erbyn y lwfans oes os cymerwch arian o’ch pensiwn yn y DU, neu yn 75 oed os yw’n gynharach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans Oes ar gyfer cynilion pensiwn
Triniaeth dreth yn y wlad dramor
Gwiriwch â'ch darparwr pensiwn a’r awdurdodau treth yn y wlad dramor. Mewn rhai gwledydd, er enghraifft, yr Unol Daleithiau America, mae tâl treth ar unwaith yn aml yn berthnasol ar drosglwyddiad pensiwn i wlad arall.
Trosglwyddo Cynllun Pensiwn Tramor Cydnabyddedig (ROPS)
Mae cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig (ROPS) yn gynllun pensiwn a sefydlwyd y tu allan i’r DU sy'n debyg yn fras i gynllun pensiwn sydd wedi’i gofrestru yn y DU.
Mae CThEM yn cyhoeddi rhestr o ROPS. Maent yn diweddaru’r rhestr o hysbysiadau ROPS ar ddechrau a chanol pob mis.
Dewch o hyd i'r rhestr hysbysu lawn o ROPS ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os trosglwyddwch o ROPS, efallai y gallwch wneud cais i CThEM am lwfans oes uwch, lle mae wedi cynyddu gan ffactor trosglwyddo cynllun tramor cydnabyddedig.
Er enghraifft, y lwfans oes ar hyn o bryd yw £1,073,100 (blwyddyn dreth 2023-24).
Os trosglwyddwch £107,310 o gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig ym mlwyddyn dreth 2023-24, byddai hyn yn 10% o’r lwfans oes. Byddai'ch lwfans oes yn cael ei gynyddu 10% i adlewyrchu’r ffaith nad ydych wedi derbyn unrhyw ryddhad treth yn y DU ar eich cyfraniadau. (Os yw’r ROPS yn cynnwys gwerth pensiwn a drosglwyddwyd o’r DU, bydd y ffactor trosglwyddo tramor cydnabyddedig yn cael ei addasu i ystyried hyn.)
Darganfyddwch fwy am y Llawlyfr Treth Pensiynau ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
A fydd Brexit yn cael effaith arnaf wrth drosglwyddo fy mhensiwn i’r DU ?
Gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ffurfiol ddydd Gwener 31 Ionawr 2020.
Trosglwyddiadau i’r DU cyn 31 Rhagfyr 2020
Mae'r Cytundeb Tynnu’n ôl y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth y DU a’r UE yn nodi telerau tynnu’r DU allan o'r UE.
Mae'n darparu ar gyfer cyfnod pontio wnaeth bara tan 31 Rhagfyr 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, nid oedd unrhyw newid i’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo pensiynau i’r DU, gan gynnwys o wledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Swistir.
Trosglwyddiadau i’r DU o 1 Ionawr 2021 ymlaen
Mae trosglwyddiadau o’r AEE neu’r Swistir yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Llywodraeth y DU â’r UE.
Pryd a sut allai gael mynediad i arian yn y DU?
Fel arfer, ni allwch gychwyn cymryd arian allan o bensiwn DU tan yn 55 mlwydd oed (bydd hyn yn cynyddu i 57 mlwydd oed o 2028 ymlaen).
Bydd sut y gallwch gymryd arian allan o’ch pensiwn yn dibynnu ar y pensiwn rydych wedi ei drosglwyddo i mewn i’r DU.
Trosglwyddiadau i Gynllun Buddion wedi ei ddiffinio
Os ydych wedi trosglwyddo i mewn i Gynllun Buddion wedi ei ddiffinio, fel arfer byddwch gyda hawl i incwm am oes o’r oed ymddeoliad a osodwyd gan y cynllun.
Fel arfer, bydd yr incwm yn cynyddu yn flynyddol am weddill eich oes.
Gall cyfandaliad di-dreth gael ei ddarparu. Gall hyn fod yn ychwanegol i unrhyw incwm, neu all fod yn opsiwn yn gyfnewid am dderbyn incwm wedi ei leihau.
Trosglwyddiadau i Gynllun Cyfraniadau wedi ei ddiffinio
Gallwch fel arfer gymryd 25% o werth eich pensiwn fel cyfandaliad di-dreth.
Mae pob arian arall gaiff ei dynnu allan yn cael ei drethu fel incwm. Gallwch fel arfer ddewis i gymryd yr arian fel:
- Un cyfandaliad
- Incwm gwarantedig rheolaidd am oes (blwydd-dal)
- Incwm ymddeoliad hyblyg heb ei warantu (tynnu i lawr pensiwn)
- Nifer o gyfandaliadau
Os ydych yn agos i oed 50 neu drosodd a gyda Cynllun Cyfraniadau wedi ei ddiffinio wedi’i leoli yn y DU gallwch gael apwyntiad Pension Wise yn rhad ac am ddim i siarad drwy eich opsiynau mewn manylder. Mae Pension Wise yn wasanaeth annibynol a diduedd wedi sefydlu gan y llywodraeth.