Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Beth yw Cynllun Rheoli Dyled (DMP)?

Mae Cynllun Rheoli Dyled (DMP) yn caniatáu i chi dalu'ch dyledion ar gyfradd y gallwch ei fforddio. Darganfyddwch fwy am sut mae'n gweithio a pha ddyledion y gallwch eu defnyddio ar eu cyfer. Gallwch hefyd siarad ag ymgynghorydd dyled am ddim ynghylch ai dyma'r ffordd orau i dalu neu glirio'ch dyledion.

Siaradwch ag ymgynghorydd dyled, am ddim

Defnyddiwch ein Teclyn i ddod o hyd i ymgynghorydd dyled i ddod o hyd i gyngor ar ddyled sydd am ddim ac yn gyfrinachol ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at lle’r ydych chi’n byw.

Bydd ymgynghorydd dyled:

  • yn trin popeth rydych chi’n ei ddweud yn gyfrinachol
  • byth yn eich beirniadu chi nac yn eich gwneud i deimlo’n wael am eich sefyllfa
  • yn awgrymu ffyrdd o fynd i’r afael â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
  • yn gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.

Mae tri chwarter o bobl sy’n cael cyngor ar ddyled yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian ar ôl hynny.

Sut mae Cynllun Rheoli Dyled yn gweithio

Gallai Cynllun Rheoli Dyled (DMP) fod i chi os oes gennych ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth fel cardiau credyd neu siop, gorddrafftiau a benthyciadau personol.

Bydd eich darparwr DMP yn helpu cyfrifo taliad fforddiadwy i chi ac yn siarad gyda’ch credydwyr.

Fel arfer mae angen i chi gael o leiaf £5 neu fwy i'w dalu i bob un o'ch credydwyr, er y gall y swm hwn amrywio rhwng darparwyr.

Byddwch yn gwneud un taliad misol i’r darparwr DMP, sydd yn ei dro yn talu credydwyr ar eich rhan.

Pa ddyledion allaf i eu talu gyda Chynllun Rheoli Dyled?

Gallwch ond defnyddio Cynllun Rheoli Dyled ar gyfer dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gorddrafftiau
  • benthyciadau personol
  • benthyciadau banc neu gymdeithas adeiladu
  • arian wedi’i fenthyca gan ffrindiau neu deulu
  • dyledion cerdyn credyd, cerdyn siop neu fenthyciadau diwrnod cyflog
  • dyledion catalog, credyd cartref neu gredyd mewn siop.

Pa ddyledion na allaf i eu talu gyda Chynllun Rheoli Dyled?

Ni allwch ddefnyddio Cynllun Rheoli Dyled i dalu dyledion blaenoriaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • dirwyon llys
  • Trwydded Deledu
  • Treth Cyngor
  • biliau nwy a thrydan
  • cynhaliaeth a chynnal plentyn
  • Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a TAW
  • morgais, rhent ac unrhyw fenthyciadau a sicrhawyd yn erbyn eich cartref
  • cytundebau hurbwrcas, os yw’r hyn rydych yn ei brynu â nhw yn hanfodol.

Darganfyddwch fwy am beth sy’n ddyledion blaenoriaeth ac sydd ddim yn flaenoriaeth Sut i flaenoriaethu eich dyledion.

Pwy sy’n cynnig Cynlluniau Rheoli Dyled?

Gall llawer o sefydliadau cynghori ar ddyledion am ddim eich helpu i benderfynu a yw DMP yn iawn i chi a gall rhai hefyd drefnu cynllun i sicrhau bod yr holl arian rydych chi'n ei dalu ynddo yn mynd tuag at ad-dalu'ch dyledion.

Os byddwch yn dewis darparwr sy’n codi ffi, dylech fod yn ymwybodol bod yn rhaid i bob darparwr DMP gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i sicrhau eu bod yn bodloni’r safonau a gytunwyd.

Cyn eich bod yn cytuno i dderbyn cynllun gyda darparwr sy’n codi ffi, gwiriwch eu bod wedi eu hawdurdodi. Gwiriwch os yw darparwr Cynllun Rheoli Dyled wedi ei awdurdodi drwy ddefnyddio gwefan y Financial Services RegisterYn agor mewn ffenestr newydd

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.