Cyfrifiannell morgais – cyfrifwch ad-daliadau
2 funud i’w gwblhau
Mae morgais yn ymrwymiad mawr. Mae ein cyfrifiannell syml yn eich helpu i gael syniad o’r hyn y gallai morgais ei gostio i chi bob mis.
Cyfrifwch ad-daliadau ar gyfer morgeisi newydd, morgeisi llog yn unig a chodiadau cyfradd llog yn unig
Mae’r gyfrifiannell ad-daliad morgais hwn yn gweithio orau os ydych chi’n:
brynwr tro cyntaf sy’n cyllidebu ar gyfer eu cartref cyntaf
perchennog tŷ sy’n wynebu newid yn ei dymor morgais neu sy'n ystyried ailforgeisio.
Defnyddiwch y gyfrifiannell morgais hon i:
gyfrifo’ch ad-daliadau misol
gweld effaith newidiadau cyfraddau llog neu newidiadau hyd tymor.
Gallwch hefyd gymharu costau:
morgais ad-dalu cyfalaf: lle byddwch yn talu’r benthyciad morgais ynghyd â llog bob mis
morgais llog yn unig: lle rydych ond yn ad-dalu’r llog ar eich benthyciad.
Dylid defnyddio’r gyfrifiannell hon fel canllaw. Bydd yr union swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar eich cytundeb morgais.
I ddechrau, y cyfan sydd ei angen arnoch yw syniad o faint rydych chi ei eisiau ar gyfer eich morgais, neu’r pris prynu eiddo a’ch blaendal.
Pethau i’w nodi
- Rhowch gynnig ar ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgaisi i weld faint y gallech ei fenthyg.
- Gwiriwch a ydych yn gwmwys am gynlluniau’r llywodraeth ar gyfer prynwyr tai tro cyntaf a pherchnogion tai presennol.
- Dysgwch sut mae llog yn effeithio ar eich morgais: deall cyfraddau llog morgais.
- Cynlluniwch ar gyfer ffioedd a chostau sy’n gysylltiedig â morgais fel Treth Stamp, ffioedd cyfreithiol, a chostau symud.