Y ffordd fwyaf cyffredin o brynu a gwerthu eiddo yw trwy asiant tai. Gallant dynnu llawer o straen y proses. Gwelwch sut mae asiantau tai yn gweithio, mae rhai gwahaniaethau ar draws gwledydd y DU, felly mae’n bwysig eich bod yn gwirio.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth y mae asiantau tai yn ei wneud?
- Asiantau tai a ffioedd
- Sut mae delio gyda asiantau tai wrth brynu
- Cadwch gofnod o’r broses pan fyddwch yn edrych am dŷ
- Cwestiynau i’w gofyn
- Gwneud cynnig
- Beth yw cynnig wedi’i selio a sut y mae’n gweithio?
- Gwerthu gydag asiant tai
- Sut i gwyno am asiant tai
- Ffyrdd eraill o brynu a gwerthu eiddo
Beth y mae asiantau tai yn ei wneud?
Edrychwch o gwmpas
Efallai bydd rhai asiantau tai yn argymell broceri morgais, syrfewyr neu gyfreithwyr i chi.
Gallwch siarad â hwy, ond nid oes rhaid i chi ddefnyddio’u gwasanaethau.
Mae bob amser yn werth edrych o gwmpas, gan y gall yr arbedion fod yn sylweddol.
Mae asiantau tai yn marchnata ac yn gwerthu eiddo, ond maent hefyd yn:
- delio gyda gwaith papur
- monitro’r gadwyn (o brynwyr yn gwerthu eu hen gartref a gwerthwyr yn prynu eu cartref newydd)
- cysylltu gyda’ch cyfreithiwr
- trafod rhwng prynwyr a gwerthwyr.
Nid yw asiantau tai yn delio gydag arolygon – byddwch chi angen syrfëwr ar gyfer hynny, ond efallai y bydd ganddynt bartneriaethau i argymell syrfëwr i chi.
Faint o amser mae’n ei gymryd?
Nid oes amserlen bendant ar gyfer prynu tŷ. Mae gan brynwyr a gwerthwyr wahanol anghenion a gall problemau godi sy’n achosi oedi.
Asiantau tai a ffioedd
Os ydych yn prynu eiddo, ni ddylech orfod talu unrhyw ffioedd asiant tai.
Os ydych yn gwerthu, fel arfer bydd angen i chi dalu rhwng 0.75% a 3.5% o’r pris gwerthu i’ch asiant tai. Bydd rhai asiantau tai ar-lein yn cynnig ffi syml am eu gwasanaethau. Gallai arbed arian i chi, ond bydd rhaid i chi ei dalu hyd yn oed os nad yw’ch cartref yn cael ei werthu.
Edrychwch o gwmpas, a thrafodwch unwaith yr ydych wedi canfod asiant tai yr hoffech weithio â hwy.
Gwiriwch a yw’r ffi yn cynnwys TAW neu bydd angen i chi ychwanegu 20% arall ar bris y ffi.
Sut mae delio gyda asiantau tai wrth brynu
Cadwch mewn cysylltiad
Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’ch asiant tai, fel byddant yn cofio amdanoch pan fydd yr eiddo perffaith yn cyrraedd y farchnad.
Gallwch gofrestru gyda nifer o asiantau tai.
Er mwyn dewis pa un fydd orau, edrychwch ar y math o eiddo sydd ganddynt i’w cynnig, gofynnwch am eu ffioedd (os yw’n gymwys) a siaradwch â ffrindiau a theulu am eu hargymhellion.
Cadwch gofnod o’r broses pan fyddwch yn edrych am dŷ
Gwnewch gofnod o sgyrsiau rydych wedi’u cael, gan gynnwys gyda phwy rydych wedi siarad, y dyddiad a’r amser.
Mae hyn yn golygu y bydd gennych reolaeth ar bopeth ac mae’n ffordd dda i’ch atgoffa o’r hyn sydd wedi’i drafod a’i gytuno.
Cwestiynau i’w gofyn
Prynwyr tro cyntaf
Os ydych yn brynwr tro cyntaf gyda ‘morgais mewn egwyddor’, cofiwch grybwyll hyn pan fyddwch yn cwrdd â’r gwerthwyr gan y bydd hyn yn eich rhoi chi mewn sefyllfa gref i symud pethau yn eu blaen yn gyflym.
Pan fydd eiddo yn dal eich sylw, peidiwch â bod ofn gofyn llawer o gwestiynau.
Cofiwch y gallai gofyn y cwestiynau cywir yn awr arbed tipyn o arian i chi yn y dyfodol.
Mae dyletswydd ar asiantau tai i ddweud y gwir felly holwch hwy am fanylion.
Nid dyma’r amser i fod yn swil. Gofynnwch gwestiynau fel:
- Pa mor hir y mae’r eiddo wedi bod ar y farchnad?
- A oes disgwyl unrhyw waith ar yr eiddo?
- Beth fydd yn cael ei gynnwys yn y gwerthiant? (Llenni? Gosodiadau golau? Dodrefn?)
Gwneud cynnig
Nid yw’n rhy hwyr
Gallwch chi neu’r gwerthwr dynnu yn ôl unrhyw bryd cyn i’r cytundebau gael eu cyfnewid.
Dylai’ch cynnig fod yn:
- Amodol ar gytundeb (STC) – ni fydd y gwerthiant terfynol yn digwydd hyd nes y bydd y cyfreithwyr wedi cyfnewid cytundebau.
- Amodol ar arolwg – mae hyn yn caniatáu i gostau unrhyw ddiffygion neu broblemau gael eu hystyried unwaith y mae’r syrfëwr wedi gwirio’r eiddo.
Unwaith y mae’ch cynnig wedi’i dderbyn, cofiwch sicrhau bod yr asiant tai wedi tynnu’r eiddo oddi ar y farchnad ac nad yw bellach yn ei hysbysebu ar gyfer ymweliadau pellach.
Os oes gan rywun arall ddiddordeb ac yn mynd i’w weld, rydych wrth risg y bydd rhywun arall yn dod i mewn gyda chynnig uwch, sy’n cael ei alw yn gasympio.
Dylech dderbyn llythyr gan yr asiant tai yn cadarnhau’ch cynnig. Os na fyddwch yn derbyn un, cofiwch ofyn am un.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Y broses o brynu tŷ: camau i brynu tŷ neu fflat newydd yn Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon
Beth yw cynnig wedi’i selio a sut y mae’n gweithio?
Gwneud cynnig gyda chynnig wedi’i selio, ble mae’r pris yn cael ei gynnig yn gyfrinachol, yw’r arfer yn yr Alban ond nid yw mor gyffredin mewn man arall.
Nid yw cynigion wedi’u selio yn rhwymo mewn cyfraith.
Y tu allan i’r Alban fel arfer ni ofynnir am gynigion wedi’u selio dim ond pan fydd cystadleuaeth am eiddo.
Bydd darpar brynwyr yn derbyn pris arweiniol, a disgwylir y bydd eu cynnig wedi’i selio yn uwch na hyn.
- Mae croeso i chi ofyn i’r asiant tai am gyngor ar beth i’w gynnig, ond cofiwch eu bod yn gweithio i’r gwerthwr, ac nid i chi.
- Osgowch greu ffigwr crwn o’ch cynnig. Er enghraifft, os ydych chi’n meddwl bod yr eiddo werth £250,000, dylech roi cynnig wedi’i selio o £251,500.
- Rhowch wybod iddynt ba mor gyflym y gallwch symud.
Mae dyddiad yn cael ei osod i dderbyn cynigion wedi’u selio, naill ai gan yr asiant tai neu gyfreithiwr y gwerthwr - fel arfer maent i gyd yn cael eu hagor ar yr un pryd.
Yna bydd y prynwr llwyddiannus yn cael gwybod bod ganddo’r cynnig buddugol.
Gwerthu gydag asiant tai
Unwaith rydych wedi penderfynu gwerthu gan ddefnyddio asiant tai, dewiswch un trwy ofyn cwestiynau am eu hanes wrth werthu eiddo fel yr eiddoch.
Holwch sut y maent yn bwriadu marchnata’ch eiddo ar-lein, oherwydd dyna ble mae llawer o bobl yn dechrau chwilio. A chofiwch, bydd rhaid i chi dalu ffi. Gwiriwch y rhestriad unwaith ei fod ar-lein, os yw’r manylion yn anghywir ganddynt am eich tŷ neu fflat, gallai wneud i brynwyr colli diddordeb.
Sut i gwyno am asiant tai
Os bydd pethau yn mynd o’i le, mae gennych hawl i gwyno. Siaradwch â’ch asiant tai yn gyntaf, mynegwch eich pryderon a rhowch gyfle iddynt ymateb.
Os nad ydych chi’n fodlon â’u hymateb gallwch gysylltu â’r ombwdsmon eiddo sy’n gyfrifol am eich asiant.
Ffyrdd eraill o brynu a gwerthu eiddo
Gwerthu ar-lein
Mae gwefannau i’w cael a fydd yn eich helpu chi i ganfod prynwr, neu werthu’ch eiddo, gan arbed swm sylweddol o arian i chi.
Ar gyfer gwasanaeth rhestrau gwerthu yn unig, cofiwch mai chi sy’n gyfrifol am:
- codi arwydd ‘Ar Werth’ ac ychwanegu’ch rhif ffôn
- tynnu lluniau o’r tu fewn a’r tu allan
- negodi pris gyda phrynwyr posibl
- dangos prynwyr posibl o amgylch eich eiddo
- trefnu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs)
- rhoi manylion a mesuriadau am faint yr ystafelloedd.
Mae costau gwerthu ar-lein yn amrywio rhwng gwefannau, felly cofiwch sicrhau eich bod yn deall beth rydych yn ei gael am eich arian. Efallai y codir tâl arnoch p’un a ydych yn gwerthu eich eiddo neu beidio.
Mae rhaid i asiantau tai ar-lein fod yn aelodau o gorff rheoleiddio proffesiyno
The Property OmbudsmanYn agor mewn ffenestr newydd
Ombudsman Services: PropertyYn agor mewn ffenestr newydd
Arwerthiannau
Gall hyn fod yn ffordd boblogaidd (a chynt) o brynu neu werthu eiddo a allai fod angen eu hadnewyddu neu sydd wedi’u hailfeddiannu.
Fel prynwr, bydd angen i chi, yn ôl pob tebyg, dalu blaendal o 10% gyda’r gweddill yn daladwy o fewn 28 diwrnod felly bydd angen i’r arian fod yn barod.
Cofiwch y bydd costau i’w hystyried fel ffi gosod ar gyfer y catalog a ffioedd arwerthiant, comisiwn a chyfreithwyr a chostau arolwg.