Os bydd rhywun gwir yn methu â rheoli ei faterion ei hunan, gallwch drefnu i wneud hynny ar ei ran. Fel arfer, cewch eich monitro’n ofalus i sicrhau eich bod bob amser yn gweithredu er lles gorau’r person, a byddwch yn cael eich cyfyngu o ran y mathau o benderfyniadau ariannol y gallwch eu gwneud.
Beth yw galluedd meddyliol?
Gallu meddyliol yw’r gallu i wneud penderfyniad amserol neu gymryd cam penodol ar gyfer eich hun. Dywedir bod pobl na all gwneud hyn â ‘diffyg galluedd’.
Dylai pawb cael yr hawl i wneud dewisiadau cywir amdan fywyd ei hun. Ond weithiau gall anaf, salwch neu anabledd effeithio ar ddealltwriaeth rhywun a’u gallu i wneud penderfyniadau da. Gall hyn fod am adeg fer yn unig neu barhaol.
Gall galluedd meddyliol eu heffeithiol gan:
- dementia
- anabledd dysgu difrifol
- anaf i’r ymennydd
- salwch iechyd meddwl
- strôc
- anymwybyddiaeth a achoswyd trwy anaesthetig neu ddamwain sydyn.
Gwirio a yw rhywun wedi colli galluedd meddyliol
Yn gyffredinol, oni bai ei fod yn berson sydd â galluedd meddyliol ac sy’n rhoi caniatâd trwy atwrneiaeth i weithredu ar ei ran, ni allwch gymryd dros reoli materion rhywun oni bai ei fod wedi colli galluedd meddyliol. Felly’r peth cyntaf i’w wneud yw gwirio a yw hyn wedi digwydd ai peidio.
Yng Nghymru a Lloegr, y gyfraith sy’n sail i asesiadau galluedd meddyliol yw Deddf Galluedd Meddyliol (2005) sy’n dweud wrth benderfynu a yw rhywun yn gallu gwneud penderfyniad, y dylid ystyried y pedwar ffactor canlynol:
- A all y person ddeall y wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad?
- A all y person gadw’r wybodaeth yn ddigon hir i wneud y penderfyniad?
- A all y person bwyso a mesur y wybodaeth fel rhan o’r proses penderfynu?
- A all y person gyfathrebu ei benderfyniad – boed hynny trwy siarad, iaith arwyddion, neu unrhyw ddull arall?
Os gall wneud y pethau hyn, y sefyllfa gyfreithiol yw ei bod yn debyg bod ganddo alluedd i wneud ei benderfyniadau ei hun a dylid cael gwneud hynny.
Efallai bydd rhai pethau y gallwch wneud i helpu rhywun gwneud penderfyniad ei hun. Er enghraifft, gallwch ystyried:
- a yw’n cael yr holl wybodaeth eu hangen iddo wneud penderfyniad
- a yw’n deall yn well os eglurodd y wybodaeth mewn ffordd arall
- a oes amseroedd yn ystod y dydd pan yw’n deall yn well
- a oes lleoliadau lle mae’n teimlo’n fwy cyfforddus i wneud penderfyniadau
- a ellir gohirio’r penderfyniadau hyd nes ei fod yn teimlo y gallai eu gwneud
- a all unrhyw arall ei helpu i wneud dewisiadau (er enghraifft, aelod o’u teulu, gofalwr, cyfieithydd neu eiriolwr).
O dan y Cod Ymddygiad sy’n sail i Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) cyfeirir at y sawl sy’n penderfynu a oes gan rywun y galluedd i wneud penderfyniad penodol mewn unrhyw gyfnod penodol fel ‘aseswyr’. Nid yw hwn yn deitl cyfreithiol ffurfiol. Gall unrhyw un fod yn asesydd – er enghraifft, aelodau o'r teulu, gweithwyr gofal, nyrsys, meddygon, neu weithwyr cymdeithasol. Ond cyfrifoldeb unrhyw un sy’n gwneud penderfyniadau ar ran pobl eraill yw cydnabod eu rôl a’u cyfrifoldebau o dan y Cod Ymddygiad.
Cymru a Lloegr
Gallwch ddarganfod mwy am wirio a yw rhywun wedi colli galluedd meddyliol ar wefan GOV.UK
Yr Alban
Cwmpesir galluedd iechyd meddwl yn yr Alban gan Adults with Incapacity (Scotland) Act 2000.
Gallwch gysylltu â’r Mental Welfare Commission i ddarganfod mwy. Am help â’r gyfraith ynghylch iechyd meddwl ac analluedd, a gofal a thriniaeth:
- ffoniwch eu Llinell Gymorth ar 0800 389 6809 (mae galwadau am ddim)
- e-bostio [email protected], neu
- ewch i wefan Mental Welfare Commission for Scotland
Gogledd Iwerddon
Creodd Gogledd Iwerddon Mental Capacity Act (Northern Ireland) 2016 i gwmpasu’r ddau fater, iechyd meddwl a galluedd, o fewn un darn deddfwriaeth.
Daeth adran 1 y ddeddf, sy’n cwmpasu materion ‘colled rhyddid’, i rym ar 1 Hydref 2019, ond nid yw ran fwyaf y ddeddf mewn grym er hynny.
Mae’r gyfraith gyffredin yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd yn dweud bod rhaid i’r penderfyniadau a wnaed fod er lles gorau’r claf os yw’r claf wedi colli galluedd.
Darganfyddwch fwy am galluedd iechyd meddwl yng Ngogledd Iwerddon ar y wefan Department of Health
Os ydych yn siŵr nad oes gan y person alluedd meddyliol
Os ydych yn siŵr nad oes gan rywun alluedd meddyliol ar ôl ystyried ffyrdd eraill o’u helpu, gallwch gael yr hawl i reoli eu harian ar eu rhan o hyd.
Byddai rhaid i chi wneud cais ffurfiol i naill ai'r Llys Gwarchod (Cymru neu Loegr), The Office of the Public Guardian (yr Alban), neu The Office of Care and Protection (Gogledd Iwerddon) i ddod naill ai'n ddirprwy (Cymru a Lloegr), guardian (yr Alban) neu controller (Gogledd Iwerddon).
Ni chewch eich galw'n atwrnai er bydd gennych yr un pwerau ag atwrnai fel arfer. Ni fyddwch yn ymdrin â sefydlu atwrneiaeth, ond bydd gennych ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau’r pwerau rydych wedi'u cael i’w gweithredu.
Serch hynny, bydd rhaid i chi wneud cais i’r llys gan fod atwrneiaeth yn ddogfen cyfreithiol-rwym.
Mae rhai camau i’w dilyn i wneud hyn:
Cam 1 – gwirio am atwrneiaeth sy’n bodoli eisoes
Efallai y bydd y person eisoes wedi sefydlu atwrneiaeth barhaus neu arhosol, yn cyfarwyddo i rywun reoli ei arian yn ffurfiol a gwneud penderfyniadau ar ei gyfer os na all wneud yn hwy.
Gofynnwch iddo, i’w deulu neu i’w gyfreithiwr, ac os na all ddweud wrthych, gallwch wirio â chorff swyddogol lle mae’n byw:
- Cymru neu Loegr: Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
- Yr Alban: The Office of the Public Guardian (Scotland)
- Gogledd Iwerddon: The Office of Care and ProtectionYn agor mewn ffenestr newydd
Os canfyddwch bod atwrneiaeth o’r fath eisoes yn ei lle, ac os ydych wedi’ch enwi’n atwrnai dylech ei chofrestru (os oes rhaid), neu fel arall gysylltu â’r atwrnai. Gall y swyddfa neu’r atwrnai ddweud wrthych sut i wneud hyn.
Cam 2 – gwneud cais am y grym i reoli materion ariannol rhywun os nad oes atwrneiaeth yn bodoli
Os nad oes atwrneiaeth gan y person rydych eisiau ei helpu eisoes, bydd rhaid i chi ddechrau’r proses am wneud cais amdano.
Bydd rhaid i chi wneud cais ffurfiol i’r asiantaeth gywir, gan ddibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU.
Byddant yn awyddus i weld tystiolaeth bod y person rydych yn gwneud cais ar ei ran wedi colli galluedd meddyliol ac y byddwch yn gweithredu er lles gorau’r person.
Mae cyfarwyddiadau a gwaith papur ar gael ar gyfer eich cais ar y gwefannau hyn:
- Cymru a Lloegr: Y Llys GwarchodYn agor mewn ffenestr newydd
- Yr Alban: The Office of the Public Guardian (Scotland)
- Gogledd Iwerddon: The Office of Care and ProtectionYn agor mewn ffenestr newydd
Bydd rhaid i chi dalu ffi ymgeisio a gall gymryd sawl mis i drefnu’r gwaith papur yn briodol.
Er mwyn osgoi dryswch, mae'n bwysig gwybod na chewch eich galw’n atwrnai os gwnewch y math hwn o gais. Fodd bynnag fel arfer bydd gennych yr un pwerau a chyfrifoldebau ag atwrnai i reoli materion y person sydd wedi colli galluedd meddyliol.
- Yng Nghymru a Lloegr, fe’ch gelwir yn ddirprwy.
- Yn yr Alban, fe’ch gelwir yn guardian.
- Yng Ngogledd Iwerddon, fe’ch gelwir yn controller.
Am fwy o wybodaeth am beth sy’n digwydd os nad oes gennych atwrneiaeth, gwelwch wefan Age UK
Cam 3 – dangos y ddogfen i’r cyflenwyr ariannol perthnasol
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r broses gais, byddwch yn cael dogfen swyddogol yn cadarnhau eich bod wedi cael y grym i weithredu.
Bydd rhaid i chi ddangos copïau ardystiedig o’r ddogfen (wedi’u copïo gan rywun mewn banc neu swyddfa gyfreithiwr) i unrhyw sefydliadau ariannol rydych am roi cyfarwyddiadau iddynt. Er enghraifft, banc neu gwmni yswiriant y person.
Gallwch wneud hyn yn ôl yr angen, ond mae’n syniad da dangos y ddogfen i bob sefydliad rydych am ddelio ag ef cyn gynted ag y byddwch yn ei chael.
Byddant yn cadw’r manylion ar ffeil, a fydd yn arbed amser i chi yn nes ymlaen.
Cam 4 – rheoli’r arian yn unol â’r rheolau
Pan fyddwch yn rheoli arian ar ran person arall fel hyn mae rhaid i chi bob amser:
- gwneud penderfyniadau er lles gorau’r person
- dim ond gwneud y penderfyniadau y gallwch eu gwneud yn ôl y llys
- cymryd gofal wrth wneud eich penderfyniadau.
Weithiau, gellir camddefnyddio’r math hwn o rym dros faterion ariannol rhywun, felly bydd ar y swyddfa sy’n ei sefydlu eisiau gwirio bod popeth yn gyfreithiol ac yn dderbyniol bob hyn a hyn.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gadw cyfrifon clir a nodi’r rhesymau eich bod wedi gwneud penderfyniad penodol.