Os ydych yn symud i gartref gofal a bod y rhan fwyaf o’ch arian ynghlwm â’ch cartref, efallai y bydd eich awdurdod lleol yn cynnig cytundeb talu gohiriedig i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Egluro cytundebau taliad gohiriedig
- Pryd allech ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
- A ydw i’n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
- A oes unrhyw ffioedd gyda chytundeb taliad gohiriedig?
- Beth yw’r manteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
- Beth yw’r anfanteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
- Gosod eich cartref i’w rentu os ydych yn cytuno i gytundeb taliad gohiriedig
- Pethau eraill i’w hystyried gyda chytundeb taliad gohiriedig
- Y Lwfans Incwm Gwario
- Cael cyngor ariannol am dalu am ofal hirdymor
Egluro cytundebau taliad gohiriedig
Awgrym da
Mae cytundeb talu gohiriedig yn gweithio mewn ffordd debyg i gynllun rhyddhau ecwiti gan ddarparwr masnachol. Efallai yr hoffech gymharu’r rhain i weld pa rai sy’n addas i chi.
Mae cytundeb talu gohiriedig yn drefniant â’r cyngor lleol sy’n caniatáu i bobl ddefnyddio gwerth eu cartrefi i helpu i dalu costau cartref gofal.
Os ydych yn gymwys, bydd eich cyngor lleol yn helpu i dalu biliau eich cartref gofal ar eich rhan. Gallwch oedi eu had-dalu’n ôl nes i chi ddewis gwerthu’ch cartref, neu tan ar ôl eich marwolaeth.
Byddwch yn llofnodi cytundeb cyfreithiol, gan nodi y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu pan werthir eich cartref.
Fel arfer mae’r cyngor yn sicrhau bod yr arian sy’n ddyledus gennych mewn ffioedd gofal yn cael eu had-dalu trwy roi arwystl cyfreithiol ar eich eiddo. Mae’n gwneud hyn trwy gysylltu â’r Gofrestrfa Dir i osod yr arwystl. Mae’r arwystl yn cael ei ddiddymu pan fydd y ddyled wedi ei had-dalu.
Fel arfer ni allwch ddefnyddio mwy na 70%-80% o werth eich cartref i dalu am ffioedd.
Mae hyn er mwyn gadael digon o arian i chi, neu ysgutor eich ewyllys, i dalu am unrhyw daliadau llog a gweinyddu, a chost gwerthu’r eiddo. Mae hefyd yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cael eu harian yn ôl hyd yn oed os yw prisiau tai yn gostwng.
Pan fydd 70% o werth eich cartref yn cael ei ohirio, dylai'r awdurdod lleol adolygu cost eich gofal gan gynnwys ai cytundeb talu gohiriedig yw'r ffordd orau o hyd i dalu'ch costau gofal.
Ni ddylai cytundeb talu gohiriedig gymryd mwy na 12 wythnos i’w sefydlu. Felly dylai’r cytundeb fod yn barod erbyn i chi ddechrau cyfrannu at y ffioedd. Pwrpas y cytundeb talu gohiriedig yw osgoi bod perchennog tŷ yn gorfod gwerthu ei eiddo lle caiff ei gynnwys yn yr asesiad ariannol.
Nid yw’r cynllun hwn yn berthnasol i gyfnodau byr mewn cartref gofal.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Mae cyllid gofal yn gweithio’n wahanol ledled y DU. Mae talu ffioedd cartrefi gofal yn gymhleth, ac mae’n dibynnu ar lawer o bethau sy’n unigryw i chi.
Am fwy o wybodaeth:
Yr Alban
- Ffoniwch llinell gymorth Age Scotland am wybodaeth fwy manwl neu gyngor personol – ffoniwch 0800 12 44 222 (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm). Am fwy o fanylion cyswllt, ewch i wefan Age Scotland
- Am amrywiaeth o daflenni gwybodaeth, ewch i wefan Age Scotland
- Mae mwy o wybodaeth ar wefan Care Information Scotland
Cymru
- Am arweiniad a gwasanaethau, ewch i wefan Llywodraeth Cymru
- Gallwch hefyd ffonio Age Cymru ar 08000 223 444 (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm) neu ewch i wefan Age Cymru
Gogledd Iwerddon
- Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes system daliadau gohiriedig ffurfiol. Ond gallai fod ar gael o hyd - gofynnwch i'ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol leol
- Cysylltwch â’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Darganfyddwch eich ymddiriedolaeth leol ar wefan nidirect
- Ffoniwch Age NI ar 0808 808 7575 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm) neu ewch i wefan Age NI
Pryd allech ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
Y sefyllfa fwyaf cyffredin lle efallai yr hoffech ystyried cytundeb taliad gohiriedig yw pan fydd eich cynilion ac asedau eraill (ar wahân i’ch cartref) yn isel, ond mae gwerth eich cartref yn mynd â chi dros y trothwy ar gyfer talu rhan neu’r cyfan o’ch gofal cartref eich hun.
Mae cytundeb taliad gohiriedig yn golygu na fydd yn rhaid i chi werthu eich cartref yn ystod eich oes i dalu am gostau gofal.
Os yw’ch partner, plentyn dibynnol, perthynas dros 60 oed, neu rywun sy’n sâl neu’n anabl yn dal i fyw yn eich cartref, ni fydd yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch asedau. Felly does dim rhaid i chi ddefnyddio’r cyfoeth sydd ynghlwm yn eich cartref i dalu am ofal, ac nid oes angen cytundeb taliad gohiriedig arnoch.
Ad-dalu’r cyngor lleol
Rhaid ad-dalu unrhyw arian sy’n ddyledus ar y cytundeb talu a ohiriwyd, gan gynnwys llog a chostau gweinyddu os byddwch yn gwerthu’ch cartref.
Os byddwch yn marw, ysgutor eich ewyllys fydd yn gyfrifol am ad-dalu’r swm sy’n ddyledus ar ba bynnag un o’r dyddiadau canlynol sydd gynharaf:
- y dyddiad y caiff yr eiddo neu’r ased ei werthu neu ei waredu; neu
- 90 diwrnod ar ôl dyddiad y farwolaeth.
Gall eich cyngor lleol roi cyfnod hirach i’r ysgutor ad-dalu’r swm os ceir anawsterau neu oedi wrth ad-dalu.
Dylai’ch ysgutor gysylltu â nhw os yw’n credu y bydd problem.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllid awdurdod lleol am gostau gofal - a ydych yn gymwys?
A ydw i’n gymwys i ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
I gymryd rhan mewn cynllun taliad gohiriedig:
- Dylech gael cynilion a chyfalaf sy’n werth llai na swm penodol, heb gynnwys gwerth eich cartref. Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon mae hyn yn £23,250. Yn yr Alban mae’n £18,500. Ac yng Nghymru mae’n £50,000.
- Rhaid eich bod yn berchen ar eich cartref neu ased arall y gall y cyngor lleol ddefnyddio fel sicrwydd
- Mae gwerth eich cartref yn cael ei ystyried wrth asesu’r hyn y dylech ei dalu am ffioedd eich cartref gofal. Er enghraifft, oherwydd ni fydd unrhyw bartner na dibynnydd yn byw yno.
- Mi ddylech fod neu’n cynllunio i fod mewn cartref gofal yn hirdymor. Ni fyddwch yn gallu cymryd cytundeb taliad gohiriedig am gyfnodau dros dro mewn gofal
- Byddai angen i chi gytuno â thelerau'r cytundeb talu gohiriedig
Os ydych chi'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd, rhaid i'ch awdurdod lleol drafod yr opsiwn o gytundeb talu gohiriedig gyda chi. Rhaid i chi ofyn am gytundeb talu gohiriedig - ni ellir ei orfodi arnoch chi.
Os oes gennych forgais o hyd, gwiriwch y telerau ac amodau a siaradwch â’ch benthyciwr. Ni fydd rhai benthycwyr yn gadael i chi gymryd benthyciad arall wedi’i warantu ar y cartref.
A oes unrhyw ffioedd gyda chytundeb taliad gohiriedig?
Gall yr cyngor lleol godi ffioedd gweinyddu arnoch i dalu costau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cost sefydlu’r cynllun - er enghraifft, ffioedd y Gofrestrfa Tir, cael eich cartref wedi’i brisio, ffioedd cyfreithiol, postio, ffôn ac argraffu
- ffioedd unwaith ac am byth yn nes ymlaen - er enghraifft, os yw’r swm sy’n ddyledus gennych i’r cyngor lleol yn cyrraedd hanner gwerth eich cartref, bydd angen i’ch cartref gael ei ailbrisio’n rheolaidd. A bydd ffi brisio bob tro.
Rhaid i ffioedd cyngor lleol fod yn rhesymol a pheidio â bod yn fwy na’u costau nhw. Rhaid iddynt sicrhau bod rhestr o’r ffioedd hyn ar gael i’r cyhoedd.
Costau llog ar daliadau gohiriedig
Gallai’ch cyngor lleol, ond does dim rhaid iddynt, godi llog ar y taliadau gohiriedig i dalu am eu costau.
Yng Nghymru a Lloegr, gall y cyngor lleol osod y swm y mae’n ei godi. Ond ni all fod yn fwy na chyfradd safonol a gymeradwywyd gan y llywodraeth, yn gysylltiedig â ‘chyfradd gilt y farchnad’ ynghyd â 0.15%.
Nid yw’r gyfradd llog yn sefydlog - mae’n cael ei adolygu bob chwe mis ym mis Ionawr a mis Gorffennaf.
Yn yr Alban, nid oes unrhyw gostau llog tra bod gennych y cytundeb talu gohiriedig. Codir llog dim ond pan ddaw’r cytundeb i ben gan yr unigolyn neu o 56 diwrnod ar ôl eu marwolaeth. Yna dylid codi llog ar ‘gyfradd resymol’ a bennir gan y cyngor lleol.
Os nad yw’r arian yn cael ei ad-dalu’n brydlon ar ddiwedd y cytundeb, gallai’r cyngor lleol godi llog ychwanegol hyd nes bod y ddyled wedi’i thalu. Mae’n bosib hefyd y bydd ffioedd gweinyddu parhaus ar ben y llog.
Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes system daliadau gohiriedig ffurfiol. Ond gallai fod ar gael – gofynnwch i’ch Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol.
Darganfyddwch eich ymddiriedolaeth leol ar wefan nidirect
Beth yw’r manteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
- Bydd y cyngor lleol naill ai’n talu’r cartref gofal yn uniongyrchol neu’n rhoi benthyg yr arian i chi wneud y taliadau eich hun. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddod o hyd i’r arian ar unwaith.
- Dim ond am yr amser rydych mewn gofal rydych yn cronni dyled yn erbyn gwerth eich cartref. Os yw’n debygol efallai mai dim ond am amser byr y bydd angen i chi ei dreulio mewn gofal, er enghraifft oherwydd bod eich cyflwr yn derfynol, gallai hwn fod yn opsiwn sy’n werth ei ystyried.
- Efallai y bydd gwerth eich cartref yn parhau i gynyddu mewn gwerth, gan dalu tuag at eich costau gofal i bob pwrpas.
- Efallai y bydd yn bosibl rhentu eich eiddo a defnyddio’r rhent tuag at eich ffioedd.
Os oes gennych hawl i’r budd-daliadau hyn, gallwch barhau i’w hawlio:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i’r Anabl (elfen gofal)
- Taliad Annibyniaeth Personol (elfen bywyd bob dydd).
Ond gallwch hefyd barhau i’w cael os gwnaethoch dalu am eich gofal trwy werthu eich cartref neu ddefnyddio cynnyrch rhyddhau ecwiti.
Beth yw’r anfanteision o ddefnyddio cytundeb taliad gohiriedig?
- Byddwch yn dal i orfod talu am gynnal a chadw eich cartref.
- Efallai y bydd rhaid i chi ddal i dalu am wresogi a biliau goleuo fel nad yw’r tŷ yn edrych yn wag.
- Bydd rhaid i chi ddal i dalu i yswirio eich cartref ac fe allai hyn fod yn broblem os nad oes neb yn byw yno.
- Os oes gennych forgais ar yr eiddo o hyd, byddwch yn dal angen ei dalu.
- Gall prisiau tai ostwng gan eich gadael gyda llai o arian i dalu’r ffioedd yn ôl.
- Mae’n gallu bod yn anodd gweinyddu’r gwaith o osod eich eiddo.
- Os oes gennych gynllun rhyddhau ecwiti yn barod, efallai na fyddwch yn gallu mynd i mewn i gynllun taliad gohiriedig.
Efallai yr hoffech hefyd gymharu defnyddio cytundeb talu gohiriedig gyda’r dewis arall, er enghraifft, gwerthu’ch cartref a rhoi’r enillion mewn cyfrif cynilo.
Yn dibynnu ble mae’ch cartref, gallai’r enillion o’i rentu amrywio rhwng 3% a 7% y flwyddyn.
O hyn, byddai angen i chi ddidynnu:
- llog a’r ffioedd ar gyfer y cynllun taliad gohiriedig
- costau cynnal ac yswirio’r cartref, a
- ffioedd unrhyw asiant gosod rydych yn ei ddefnyddio.
Er hynny, gallai’r enillion ar ôl yr holl gostau fod yn uwch o hyd na’r enillion isel iawn sydd ar gael ar gynilion arian parod. A gallai fod elw ar werthiant y cartref yn y pen draw os yw prisiau tai wedi codi.
Gosod eich cartref i’w rentu os ydych yn cytuno i gytundeb taliad gohiriedig
Gall gosod eich eiddo roi incwm ychwanegol i chi i dalu am eich ffioedd, ond rhaid ystyried ambell beth cyn i chi wneud hyn:
- Rhaid i’ch cyngor lleol gytuno y gallwch osod eich eiddo. Weithiau byddant yn cynnig gosod tenantiaid o’u rhestr aros am dai i eiddo gwag a thalu rhent i chi.
- Gallai rhentu’r eiddo leihau’r incwm a gewch o unrhyw fudd-daliadau sy’n ddibynnol ar brawf modd, fel Credyd Pensiwn.
- Efallai y bydd gennych gyfrifoldebau fel landlord na fyddwch yn gallu eu bodloni tra’ch bod mewn gofal. Efallai y bydd rhaid i chi ddefnyddio asiant gosod neu gael aelod o’r teulu neu ffrind i reoli’r eiddo ar eich rhan.
- Mae’n bosibl na fydd tenantiaid ar gyfer yr eiddo o hyd neu gallai costau’r cartref gofal godi’n gynt na’r swm o rent allwch chi godi. Efallai na fydd gennych ddigon o incwm o rent i dalu eich ffioedd neu gostau eraill ar bob adeg.
A fydd yr incwm o rent, wedi’i ychwanegu at eich incwm arall, yn talu'r cyfan neu fwy na ffioedd eich cartref gofal? Yna fe allech ddewis rhentu’r eiddo heb gymryd cytundeb taliad gohiriedig o gwbl.
Dylech gofio hefyd ar ôl gosod eich eiddo am 18 mis y bydd eich eiddo yn dod yn ased trethadwy o safbwynt Treth ar Enillion Cyfalaf os ydych yn ei werthu yn y dyfodol.
Os ydych yn ystyried gosod eich cartref, mae’n syniad da i gael cyngor ariannol annibynnol a siarad ag asiant gosod i weld sut mae’r farchnad rhentu yn eich ardal cyn gwneud penderfyniad.
Pethau eraill i’w hystyried gyda chytundeb taliad gohiriedig
Nid yw cytundeb taliad gohiriedig yn effeithio ar y ffordd yr asesir eich incwm a’ch cynilion i weld faint y dylech ei dalu tuag at eich gofal.
Fel arfer bydd disgwyl i chi gyfrannu tuag at eich costau gofal allan o’ch incwm. Fodd bynnag, rhaid i’ch awdurdod lleol adael i chi gadw o leiaf swm penodol fel y gallwch barhau i fforddio cynnal ac yswirio’ch cartref. Gweler y ‘Lwfans Incwm Gwario’ isod.
Mae’r cytundeb taliad gohiriedig yn golygu, ar ôl i’r awdurdod lleol gael ei ad-dalu, y bydd llai o arian ar ôl o werthu eich cartref. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw un a allai ddisgwyl etifeddu gennych yn derbyn llai.
Oes gennych gytundeb taliad gohiriedig ac mae unrhyw un, ar y cyd, yn berchen eich cartref gyda chi? Yna bydd yn rhaid iddynt gydsynio i’r cytundeb a chytuno y bydd y cartref yn cael ei werthu pan ddaw’r amser i ad-dalu’r cyngor lleol.
Y Lwfans Incwm Gwario
Yn Lloegr yn unig, os oes gennych gytundeb taliad gohiriedig, rhaid i’ch cyngor lleol ystyried cost cynnal a chadw’ch cartref wrth benderfynu faint y mae’n rhaid i chi ei dalu tuag at eich costau gofal.
Mae’n gwneud hyn trwy osod eich cyfraniad ar lefel sy’n eich galluogi i gadw isafswm incwm bob wythnos. Gelwir hyn yn Lwfans Incwm Gwario ac mae wedi’i osod ar £144 yr wythnos.
Mae’r lwfans yn rhoi digon o arian i chi dalu am gostau cadw’ch cartref, fel:
- yswiriant
- biliau ynni
- costau cynnal a chadw.
Gallwch ddewis cyfrannu mwy tuag at gostau eich gofal a chadw llai na £144 yr wythnos os yw’n well gennych. Byddai hynny’n lleihau’r swm sy’n ddyledus gennych i’r awdurdod lleol trwy gytundeb taliad gohiriedig.
Cael cyngor ariannol am dalu am ofal hirdymor
Gyda chymaint o opsiynau i’w ddewis, mae’n bwysig iawn i gael cyngor ariannol cyn i chi wneud penderfyniad terfynol.
Gall cynghorydd ariannol sy’n arbenigo mewn bywyd yn ddiweddarach, ddarparu cymorth arbenigol i ddeall system ofal cymhleth, yn enwedig os ydych yn wynebu straen anghenion gofal brys.