Mae Treth Car (VED), a elwir yn gyffredinol yn dreth ffordd, yn gost uchel iawn ar gyfer ceir. Gall fod yn unrhyw swm hyd at £1,000 neu fwy bob blwyddyn, gan ddibynnu ar ba mor ecogyfeillgar yw’r car.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Trethu car - y ffeithiau sylfaenol
- Perchnogion ceir sydd wedi’u heithrio rhag treth car
- Faint yw treth car?
- Gwahanol ffyrdd o dalu, gan gynnwys bob mis, pob chwe mis, a thrwy Ddebyd Uniongyrchol
- Treth ffordd ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn
- Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd
- Treth cerbyd wrth brynu a gwerthu cerbyd
- Costau a thollau
Trethu car - y ffeithiau sylfaenol
Arbedwch amser - drethu’ch cerbyd ar-lei
Gallwch drethu'ch cerbyd ar-lein, neu wirio a yw'r dreth yn gyfredol, 24 awr y dydd gan ddefnyddio'r Cyfrifiannell cyfraddau treth cerbyd ar GOV.UK Byddwch angen manylion eich cerbyd, fel ei wneuthuriad a’r model
Rhaid talu treth car ar bob cerbyd a gofrestrir yn y DU, sy’n cael ei yrru neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Gall dewis y car iawn wneud gwahaniaeth mawr i’ch costau treth.
Yn ogystal, gallai dewis car â threth isel olygu bod y car yn cadw ei werth yn well, gan y bydd ganddo gostau rhedeg is yn y dyfodol, hefyd.
Rhaid trethu cerbyd a gedwir oddi ar y ffordd neu mae’n rhaid iddo gael Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (SORN).
Gallwch wirio faint o dreth ffordd fydd yn ddyledus ar fodelau ceir newydd a hŷn ar un o’r dolenni isod.
Darganfyddwch sut i gyfrifo cyfraddau treth cerbydau
Darganfyddwch ba VED y dylech fod yn ei dalu drwy ddefnyddio’ch rhif cyfeirnod V5C
Perchnogion ceir sydd wedi’u heithrio rhag treth car
Rhaid ei adnewyddu bob blwyddyn hyd yn oed os yw eich cyfradd dreth yn £0. Gallwch ei wneud ar-lein gyda'r gyfrifiannell cyfraddau treth cerbydau ar GOV.uk (Opens in a new window)
Nid yw’r mathau canlynol o berchnogion ceir yn talu unrhyw dreth car:
- perchnogion ceir newydd sy’n cynhyrchu 0 gram o allyriadau carbon deuocsid (CO2) ac sydd â phris o lai na £40,000
- perchnogion ceir a gofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2001 a chyn 1 Ebrill 2017 sy’n cynhyrchu hyd at 100 gram o CO2 am bob cilomedr a yrrir.
Os oes gennych anabledd, gallech fod yn gymwys i gael treth car am ddim:
- os oes gennych chi gerbyd i berson anabl, fel sgwter symudedd
- os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiynwr Rhyfel
- os ydych yn cael yr Elfen Symudedd Uwch y Taliad Annibyniaeth Personol.
Dim angen trethu eich car?
Os nad oes angen i chi drethu’ch cerbyd bydd dal angen i chi ddweud wrth y DVLA ar GOV.UK a rhaid ei adnewyddu bob blwyddyn hyd yn oed os yw eich cyfradd dreth yn £0. Gallwch ei wneud ar-lein gyda'r gyfrifiannell cyfraddau treth cerbydau ar GOV.UK
Nid oes rhaid i chi dalu treth car ar ‘gerbydau hanesyddol’ sy’n golygu car sy’n hŷn na 40 mlwydd oed.
Darganfyddwch ba gerbydau eraill sydd wedi’u heithrio o drethYn agor mewn ffenestr newydd ar y wefan GOV.UK
Faint yw treth car?
Ceir a gofrestrwyd cyntaf ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017
Ym mlwyddyn gyntaf y car, bydd cyfraddau trwydded yn newid yn seiliedig ar allyriadau carbon deuocsid y cerbyd
Allyriadau CO2 | Ceir petrol (TC48) a cheir diesel (TC49) sy'n cwrdd â safon RDE2 | Pob car diesel arall (TC49) | Ceir tanwydd amgen (TC59) |
---|---|---|---|
0g/km |
£0 |
£0 |
£0 |
1 to 50kg/km |
£10 |
£30 |
£0 |
51 to 75g/km |
£30 |
£130 |
£20 |
76 to 90g/km |
£130 |
£165 |
£120 |
91 to 100g/km |
£165 |
£185 |
£155 |
101 to 110g/km |
£185 |
£210 |
£175 |
111 to 130g/km |
£210 |
£255 |
£200 |
131 to 150g/km |
£255 |
£645 |
£245 |
151 to 170g/km |
£645 |
£1,040 |
£635 |
171 to 190g/km |
£1,040 |
£1,565 |
£1,030 |
191 to 225g/km |
£1,565 |
£2,220 |
£1,555 |
226 to 255g/km |
£2,220 |
£2,605 |
£2,210 |
Dros 255g/km |
£2,605 |
£2,605 |
£2,595 |
Ar ôl blwyddyn gyntaf y car, ar gyfer ceir sydd â phris gwerthu dan £40,000, y costau treth car yw:
Allyriadau CO2 (g/km | Cerbyd trydan | Tanwydd arall | Petrol neu ddiesel |
---|---|---|---|
0 |
0 |
0 |
0 |
1 - dros 255 |
£0 |
£170 |
£180 |
Ar gyfer ceir sy’n costio mwy na £40,000, byddwch yn talu £355 yn ychwanegol am y pum mlynedd nesaf o'r ail dro i'r cerbyd gael ei drethu. Nid oes rhaid i chi dalu hwn o fis Ebrill 2020 os oes gennych gerbyd sydd ag allyriadau sero. Ar ôl chwe mlynedd o ddyddiad y cofrestriad cyntaf, byddwch yn talu’r gyfradd flynyddol safonol yn ddibynnol ar y math o danwydd a ddefnyddir gan eich cerbyd.
Felly, er enghraifft, byddai car petrol gyda phris prynu dros £40,000 yn talu £520 (£165+£355) am y pum mlynedd nesaf.
Y pris prynu yw’r pris a gyhoeddir cyn unrhyw ostyngiadau ar y cofrestriad cyntaf. Gwiriwch y pris prynu gyda’ch gwerthwr ceir er mwyn i chi wybod faint o dreth cerbyd fydd yn rhaid i chi ei dalu.
Math o danwydd | Sengl 12 mis |
---|---|
Petrol neu ddiesel |
£570 |
Amgen |
£560 |
Mae costau treth cerbydau ychydig yn wahanol os ydych yn talu bob mis, pob chwe mis, neu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Gallwch ddarllen am y gwahanol ffyrdd o dalu ar safle GOV.UK(Opens in a new window)
Ceir a gofrestrwyd cyntaf ym mis Mawrth 2001 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2017
Mae cyfradd y dreth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar allyriadau CO2 swyddogol y car a’r math o danwydd mae’n ei ddefnyddio.
Mae’r cyfraddau wedi eu rhannu yn fandiau, yn seiliedig ar faint o ramau o garbon deuocsid (CO2) mae car yn eu hallyrru am bob cilometr a yrrir:
Allyriadau CO2 (g/km) | Cyfanswm am 12 mis |
---|---|
Hyd at 100 |
£0 |
101-110 |
£20 |
111-120 |
£35 |
121-130 |
£150 |
131-140 |
£180 |
141-150 |
£200 |
151-165 |
£240 |
166-175 |
£290 |
176-185 |
£320 |
186-200 |
£365 |
201-225 |
£395 |
225-255 |
£675 |
Over 255 |
£695 |
Gallwch rannu’r taliadau hyn er mwyn helpu i reoli’r costau ond bydd angen i chi dalu ychydig yn fwy i wneud hyn.
Darganfyddwch fwy am gyfraddau treth cerbyd ar GOV.UK Yn agor mewn ffenestr newydd
Maint yr injan (cc) | Cyfradd 12 mis |
---|---|
Dim mwy na 1549 |
£200 |
Dros 1549 |
£325 |
Mae cyfradd y dreth yn seiliedig ar faint y peiriant yn unig. Mae un gyfradd ar gyfer peiriannau hyd at 1549cc ac un ar gyfer 1549cc a drosodd.
Darganfyddwch geir newydd yn ôl band treth ar y wefan GOV.UK Yn agor mewn ffenestr newydd
Cyfrifwch dreth ar eich car trwy ddefnyddio’r gyfrifiannell syml ar y wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Gwahanol ffyrdd o dalu, gan gynnwys bob mis, pob chwe mis, a thrwy Ddebyd Uniongyrchol
Gallwch ledaenu cost treth car trwy dalu bob mis, pob chwe mis neu drwy Ddebyd Uniongyrchol blynyddol.
Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trethu'ch cerbyd (Opens in a new window) ar-lein neu mewn Swyddfa Bost.
Nid oes angen i chi fod yn geidwad cofrestredig y cerbyd i sefydlu Debyd Uniongyrchol.
Anfonir e-byst a llythyrau am daliadau Debyd Uniongyrchol at ddeiliad y cyfrif.
Faint mae'n ei gostio
Mae'r swm rydych yn ei dalu (Opens in a new window) yn dibynnu ar ba mor aml rydych am wneud taliad. Mae gordal o 5% os ydych yn talu:
yn fisol
pob 6 mis.
Nid oes unrhyw ordal os ydych yn talu'n flynyddol.
Darganfyddwch fwy am dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol ar GOV.uk (Opens in a new window)
Treth ffordd ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn
Mae allyriadau is yn golygu bod VED ar feiciau modur, mopeds a beiciau modur tair olwyn fel arfer yn is nag ar gyfer cerbydau petrol a diesel.
Maint yr injan (cc) | Cyfanswm am 12 mis |
---|---|
Dim mwy na150 |
£24 |
151-400 |
£52 |
401-600 |
£80 |
Dros 600 |
£111 |
Maint yr injan (cc) | Cyfanswm am 12 mis |
---|---|
Dim mwy na 150 |
£24 |
Dros 150 |
£111 |
Mae costau treth cerbydau ychydig yn wahanol os ydych yn talu bob mis, pob chwe mis, neu drwy Ddebyd Uniongyrchol. Gallwch ddarllen am y gwahanol ffyrdd o dalu ar safle GOV.UK (Opens in a new window)
Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn trethu’ch cerbyd
Nid oes angen i DVLA weld cerbyd heb dreth ar y ffordd i weithredu. Mae unrhyw gerbyd a welir ar y ffordd ac nad yw'n cael ei drethu, neu sy'n cael ei ddatgan yn Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol SORN ac nad yw'n cael ei gadw oddi ar y ffordd, mewn perygl o gael ei glampio neu ei bowndio gan un o dimau gorfodaeth DVLA.
Bydd DVLA yn anfon nodyn atgoffa atoch pan fydd eich treth cerbyd yn ddyledus. Bydd hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i drethu ar-lein.
Os na fyddwch yn trethu ar amser, bydd llythyr cosb trwyddedu hwyr yn dilyn hyn. Mae hon yn ffi o £80 i ddechrau, ond mae'n cael ei ostwng i £40 os caiff ei thalu o fewn 28 diwrnod.
Os na thelir y gosb, anfonir eich gwybodaeth at gasglwr dyledion i adennill y taliad. Efallai y byddwch hefyd mewn perygl o gael eich erlyn trwy'r llys os ydych yn defnyddio cerbyd heb dreth.
Mae gan y DVLA nifer o gamau eraill i atal osgoi talu treth cerbydau. Mae'r rhain yn amrywio o lythyrau atgoffa, cosbau ac erlyniadau llys hyd at ddefnyddio camerâu ANPR, clampio olwynion a symud cerbydau heb drwydded.
Treth cerbyd wrth brynu a gwerthu cerbyd
Nid yw treth ar gerbydau yn cael ei throsglwyddo pan gânt eu gwerthu.
Er enghraifft, pan brynwch gar y mae rhywun arall wedi’i drethu’n flaenorol, nid yw’n cyfrif os oedd dau fis o dreth yn weddill ar y cerbyd ar ôl i chi ei brynu. Bydd angen i chi dalu’r dreth ar y cerbyd cyn i chi fedru ei yrru.
Golyga hefyd, os ydych yn gwerthu cerbyd, gallwch hawlio ad-daliad am unrhyw fisoedd llawn sydd yn weddill. Rhoddir ad-daliad fel mater o drefn pan fyddwch yn dychwelyd y rhan gwerthu neu drosglwyddo o’r ffurflen V5C i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Felly hefyd ar gyfer Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (SORN) ar gerbyd. Os prynwch gerbyd sydd yn SORN, bydd angen i chi ddweud wrth y DVLA ei fod yn cael ei gadw oddi ar y ffordd a chael SORN newydd.
Nawr, pan fyddwch yn prynu cerbyd, ni fydd y dreth car yn cael ei throsglwyddo mwyach gyda’r cerbyd. Felly, rhaid i chi ei drethu cyn y gallwch ei ddefnyddio.
Costau a thollau
Yn ddibynnol ar ble fyddwch yn gyrru a pha ffyrdd ddefnyddiwch, efallai y bydd rhaid i chi dalu tollau a chostau ychwanegol.
Mae tollffyrdd i’w defnyddio sef, ymysg eraill, Croesfan Dartford yn Llundain, a rhan o’r M6 i’r gogledd o Birmingham.
Rhaid talu costau hefyd wrth yrru yng nghanol Llundain, a elwir yn Dâl Atal Tagfeydd Llundain a chost am y Parth allyriadau isel iawn (ULEZ), ac yn Durham, a elwir yn Gost Defnydd Ffordd Durham
O 23 Hydref 2017, bydd cerbydau na fyddant yn bodloni’r safonau allyriadau gofynnol yn talu gordal, a elwir yn Dâl Gwenwyndra neu “T-Charge”.