Ymgyrch Don’t Pay UK
Meddwl am ymuno’r ymgyrch Don’t Pay UK ac felly peidio â thalu eich biliau o gwbl?
Darllenwch ein blog ar yr ymgyrch yn gyntaf
Wedi'i ddiweddaru diwethaf:
22 Medi 2022
Mae llawer ohonom yn y DU yn poeni am allu talu cost gynyddol ein biliau ynni. Fodd bynnag, cyhoeddodd y Prif Weinidog Liz Truss (oedd ar y pryd) ‘gwarant ynni’ - o’r 1 Hydref, ni fydd cartrefi ar gyfradd amrywiol safonol (SVR) gyda defnydd tebygol yn talu mwy na £2,500 y flwyddyn am y ddwy flynedd nesaf.
Roedd y cap ar brisiau ynni ar fin codi i £3,549 o Hydref 1 ac yna hyd yn oed yn uwch ym mis Ionawr 2023.
Nid yw hyn yn meddwl na fydd eich biliau yn cynyddu o gwbl, ond mae’n gap ar y gost y gall cwmnïoedd ynni ei godi arnoch. Yn dibynnu ar eich defnydd, gallai eich bil fod yn uwch neu’n is.
Bydd pob cartref yn dal i gael y gostyngiad biliau ynni o £400 o fis Hydref a gafodd ei gyflwyno gan y cyn Ganghellor (Prif Weinidog bellach) Rishi Sunak. Bydd cartrefi yn cael gostyngiad misol o £66 neu £67 ar eu biliau ynni domestig o fis Hydref i fis Mawrth 2023. Mae’r ardoll werdd rydym i gyd yn ei thalu hefyd wedi’i hatal dros dro, gan arbed £150 y flwyddyn. Mae hyn yn golygu y mae disgwyl y bydd bil blynyddol cyfartalog nawr tua £2,100. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw ymrwymiadar hyn o bryd o’r Prif Weinidog i ddarparu’r £400 o gymorth ychwanegol yn 2023.
Peidiwch ag anghofio, bydd hefyd taliad pellach o £324 yn yr hydref i bobl sy’n cael budd-daliadau prawf modd, ynghyd â thaliad o £300 wedi’u dalu ar y cyd â’r taliad tanwydd gaeaf blynyddol ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr i bobl sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae yna hefyd daliad o £150 ar gael i bobl sydd ag anableddau.
Dylai pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, credyd treth a Chredyd Pensiwn hefyd fod yn gymwys am Ostyngiad Cartrefi Cynnes o £150. Os ydych ar incwm isel ac yn poeni am dalu eich biliau ynni, mae’n werth cael gwiriad budd-daliadau i sicrhau eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo.
Mae cronfa wedi’i sefydlu ar gyfer pobl sy’n defnyddio tanwydd oddi ar y grid, gan gynnwys gwres sydd wedi’i thanio gan olew a nwy petrolewm hylifedig (LPG) lle nad yw prisiau wedi’u capio ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn helpu llawer o bobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon yn ogystal ag ardaloedd gwledig Cymru, yr Alban a Lloegr sydd wedi bod yn cael trafferth â biliau uchel iawn.
Mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi cymorth i bobl nad ydynt yn talu biliau ynni domestig, gan eu bod yn byw mewn cartrefi parc, yn talu eu landlord yn uniongyrchol neu’n rhan o rwydwaith gwres ond nid oes unrhyw fanylion ar sut y gallwch hawlio’r cymorth sydd ar gael eto.
Bydd y cyhoeddiadau hyn yn cael eu croesawi gan nifer, ond am eraill, mae eu biliau eisoes yn rhy uchel i ymdopi â nhw. Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian yn yr amseroedd ansicr hyn, edrychwch ar ein hwb trafferthion arian a fydd yn eich helpu i gadw ar ben pethau.
Os ydych yn rhywun sydd wedi sefydlu eich biliau ynni yn ddiweddar, efallai eich bod yn poeni na fyddwch yn buddio o’r cyhoeddiad hwn. Mae gan Martin Lewis flog sydd yn ymdrinYn agor mewn ffenestr newydd â hyn. Os ydych wedi sefydlu eich biliau ynni yn yr 14 diwrnod diwethaf gallwch ganslo eich cytundeb heb dâl.
Er bod cartrefi wedi’u hamddiffyn rhag y costau ynni cynyddol ers dwy flynedd, bydd costau ynni busnesau wedi’u capio am chwe mis ar hyn o bryd.
Bydd hyn yn cael ei adolygu ymhen tri mis i weld a ddylai’r help dargedu at ddiwydiannau mwy bregus, fel lletygarwch.