Sut i adnabod ac osgoi sgamiau 101

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
11 Mehefin 2024
Mae sgamiau wedi dod yn fwy cyffredin, yn fwy soffistigedig, ac yn anoddach i’w hadnabod, yn enwedig wrth dargedu pobl ar-lein a thrwy ddyfeisiau symudol. Yn y blog hwn, rydym yn siarad am beth yw sgam, sut i'w adnabod, y sgamiau diweddaraf, beth i'w wneud os ydych chi wedi cael eich twyllo, a ble i gael help.
Beth yw sgam?
Mae sgam yn fath o dwyll a all fod ar sawl ffurf, megis neges destun, e-bost, llythyr, galwad ffôn, neu hyd yn oed ymweliad o ddrws i ddrws. Mae sgamiau wedi'u cynllunio i ddwyn eich arian.
Maen nhw'n gwneud hyn trwy eich cael chi i ddatgelu eich manylion personol, dwyn eich gwybodaeth, neu hyd yn oed eich twyllo i drosglwyddo'r arian parod.
Bydd sgamwyr yn esgus bod yn sefydliad, eich banc neu hyd yn oed aelod o'r teulu neu ffrind.
Gall sgamiau fod ar sawl ffurf wahanol. Felly, mae’n bwysig i fod yn ymwybodol o’r arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt a beth i’w wneud os ydych wedi cael eich targedu.
Sgam drws-i-ddrws HelpwrArian
Yn ddiweddar, mae twyllwyr wedi bod yn gwneud ymweliadau cartref yn dynwared HelpwrArian. Maen nhw wedi bod yn curo ar ddrysau gan honni eu bod yn dod o HelpwrArian, ond sgam yw hwn. Peidiwch â'u gadael i mewn. Fydden ni byth yn dod i'ch cartref.
Sut i adnabod sgam
Mae’n bwysig gwybod sut i adnabod neges destun, galwad neu e-bost sgam ac i ddysgu i wirio a yw unrhyw gyfathrebiad rydych wedi’i dderbyn yn dwyllodrus.
Er y gall rhai sgamiau fod yn hawdd i’w adnabod a’u hosgoi, mae eraill yn llawer mwy soffistigedig. Mae sgamwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bethau yn y newyddion ac yn defnyddio cynlluniau’r llywodraeth y gallai pobl fod wedi clywed amdanynt ond nad ydynt yn gyfarwydd â nhw i greu sgamiau newydd neu fusnesau sy’n mynd i ddwylo’r gweinyddwyr i greu math o sgam gwerthiant cau i lawr ffug.
Mae’n bwysig gwybod sut i adnabod sgam i amddiffyn eich hun rhag twyllwyr. Felly dyma rai ffyrdd o adnabod un.
- Rhywbeth sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir – tocynnau cyngerdd, gwyliau gwych, bargen siopa dda, ac ati.
- Sefydliad neu gwmni yn cysylltu â chi'n annisgwyl. Yna gofynnir am wybodaeth bersonol fel eich PIN neu gyfrinair.
- Mae rhywun neu gwmni nad ydych yn ei adnabod yn cysylltu â chi yn ddirybudd.
- Mae'r cwmni rydych yn delio ag ef yn anodd iawn ei gyrraedd – nid oes ganddynt gyfeiriad post a/neu maent bron yn amhosibl eu cyrraedd dros y ffôn.
- Gofynnwyd i chi dalu am rywbeth mewn ffordd anarferol – er enghraifft, trwy gardiau rhodd neu dalebau.
- Gofynnwyd i chi ac rydych dan bwysau i drosglwyddo arian yn gyflym.
- Gofyn i chi dalu am rywbeth nad oes angen taliad arno fel arfer – h.y. gwneud cais am swydd a chael cais i dalu ffi.
Er mai dyma'r ffyrdd mwyaf cyffredin o adnabod sgam, nid dyma'r unig ffyrdd, felly mae'n well aros yn wyliadwrus bob amser.
Y sgamiau diweddaraf
Wrth i sgamiau barhau i fod ar gynnydd ac ar sawl ffurf, bydd twyllwyr yn parhau i dargedu pobl ddiniwed. Ond lle gallwch chi, ceisiwch amddiffyn eich hun a chadw'n ddiogel trwy ddysgu mwy am y sgamiau diweddaraf, fel y rhai rydyn ni wedi'u rhestru yma.
- Sgamiau rhamantus – sgam sy’n ymwneud â thwyllwyr yn mabwysiadu persona ar-lein ffug i feithrin ac ennill ymddiriedaeth person, fel arfer am resymau ariannol. Darganfyddwch fwy am sgamiau rhamantus ar Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd
- Sgamiau swyddi – twyll cyflogaeth pan fydd twyllwyr yn eich ‘cyflogi’ am swydd nad yw’n bodoli neu’n gofyn i chi dalu ffi ar ôl i chi gael eich ‘cyflogi’. Darganfyddwch fwy am sgamiau swyddi ar Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd
- Sgamiau pensiwn – sgam sy'n ymwneud â thwyllwr yn ceisio cael mynediad at eich pensiwn i'w ddwyn, fel arfer drwy wneud addewidion proffidiol ffug o dwf pensiwn afrealistig. Darllenwch fwy am sut i ddod o hyd i sgam pensiwn.
- Sgamiau ynni – mae rhai sgamwyr bellach yn esgus mai Ofgem ydynt, gan gynnig arbed arian i chi neu eich helpu i newid i ddarparwr ynni arall. Dysgwch fwy am sgamiau Ofgem a sut i roi gwybod amdanyntYn agor mewn ffenestr newydd
- Sgamiau banc – mae’r rhain yn cynnwys defnydd twyllodrus o gerdyn person i brynu pethau i ddwyn arian. Darllenwch fwy am sut i adnabod ac osgoi sgamiau banc.
- Sgamiau cyfryngau cymdeithasol – math o dwyll a gyflawnir ar-lein trwy wefannau cyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau fel TikTok, Whatsapp, Instagram a Facebook.
- Sgamiau cryptoarian – mae sgam cryptoarian yn fath o dwyll buddsoddi sy'n ymwneud â chryptoarian. Weithiau, gall sgamwyr ddynwared busnesau newydd neu rai sy'n bodoli eisoes sy'n gynnig arian digidol. Darllenwch fwy am sgamiau cryptoarian neu risgiau buddsoddi a sgam gyda cryptoarian.
Er y gall y sgamiau uchod fod y rhai mwyaf cyffredin, mae llawer mwy o fathau yn bodoli. Felly, byddwch yn ofalus a chymerwch saib os ydych chi'n amau bod rhywbeth yn amheus neu ddim yn teimlo'n iawn.
Awgrymiadau i osgoi sgamiau
Mae'n debygol eich bod eisoes wedi dod ar draws y math mwyaf cyffredin o sgamiau. Fodd bynnag, mae sawl ffordd o osgoi sgamiau, a dyma rai ffyrdd y gallwch eu defnyddio ar unwaith.
- peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol a allai helpu sgamiwr yn ddiangen
- gwnewch eich ymchwil
- cadwch eich dyfais symudol a/neu gyfrifiadur yn ddiogel gydag amddiffyniad rhag firysau
- defnyddiwch gyfrineiriau gwahanol i gael mynediad at wasanaethau ar-lein
- peidiwch ag ymddiried mewn cyswllt annisgwyl.
Er y gall rhai sgamiau fod yn eithaf hawdd i’w adnabod a’u hosgoi, mae eraill yn llawer mwy soffistigedig. Mae sgamwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bethau sydd yn y newyddion, ac yn defnyddio cynlluniau’r llywodraeth y gallai pobl fod wedi clywed amdanynt ond nad ydynt yn gyfarwydd â nhw i greu sgamiau newydd.
Dysgwch fwy am Ddwyn hunaniaeth a sgamiau: sut i gael eich arian yn ôl
Sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau
Y ffordd orau o osgoi sgamiau yw gwybod sut i amddiffyn eich hun oddi ar ac ar-lein.
Gall y tactegau a ddefnyddir gan sgamwyr a thwyllwyr amrywio. Felly, mae'n well bod yn wyliadwrus bob amser.
Ceisiwch osgoi rhoi gwybodaeth bersonol allan, cadwch gyfrineiriau cryf ar gyfer eich holl gyfrifon, defnyddiwch WiFi diogel a sicr, ac osgowch drosglwyddo arian i wasanaethau amheus yw ychydig o fesurau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich hun rhag sgamwyr.
Hefyd, ffordd arall o amddiffyn eich hun rhag sgamiau yw trwy gofrestru ar gyfer rhybuddion e-bost gan Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd i ddysgu am sgamiau yn eich ardal leol.
Wedi cael eich sgamio? Rhoi gwybod am sgam a chael cymorth
Mae sgamiau a thwyll yn cynyddu, ac os ydych chi'n ddigon anlwcus i gael eich dal mewn un, y peth gorau y gallwch chi ei wneud i ddechrau'r broses adfer yw rhoi gwybod amdano.
Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam neu eich bod wedi dioddef sgam, dylech roi gwybod amdano fel y gellir ymchwilio iddo. Gallwch wneud hyn drwy Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd (neu 101 yn yr Alban) a gwefan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol gan ddefnyddio eu ffurflen adroddYn agor mewn ffenestr newydd
Gyda sgamiau’n dod yn fwy cyffredin nag erioed o’r blaen, cofiwch fod yn ddiogel a meddyliwch neu cymerwch eiliad cyn gwneud trafodiad neu rannu rhywbeth a allai fod yn gamgymeriad.