Sut i adnabod ac osgoi sgamiau PayPal
05 Mai 2021
Mae'n ymddangos nad yw sgamiau PayPal yn diflannu unrhyw bryd yn fuan, ac mae rhybuddion newydd amdanynt bob amser wrth i e-byst sgam newydd ymddangos ym mlychau e-byst pobl, yn rheolaidd.
Gallwn ddweud wrthych sut i adnabod sgam PayPal o e-bost yn dweud bod gweithgaredd rhyfedd ar eich cyfrif i e-bost yn dweud bod angen gwirio'ch cyfrinair, gallwn ddweud beth i'w wneud os ydych wedi cael eich sgamio.
Sut mae e-bost sgam PayPal yn ymddangos?
Gyda'r rhan fwyaf o negeseuon e-bost sgam yr arwyddion amlwg yw'r cymeriadau od neu'r rhifau ar hap yng nghyfeiriad e-bost yr anfonwr, yn dechrau gydag 'Annwyl Gwsmer' a'r ymdeimlad o frys y mae'n ei greu.
Os gallwch weld llythrennau a rhifau ar hap yng nghyfeiriad yr anfonwr, yna dylai hyn wneud i chi amau yr e-bost. Yn yr un modd, mae e-byst yn dweud: 'bu gweithgaredd amheus ar eich cyfrif' neu 'gwnaethoch anfon taliad at XXX, os na wnaethoch chi wneud y taliad hwn cliciwch yma' mae rhain yn cael eu hysgrifennu i achosi panig.
Mae twyllwyr yn manteisio ar gwsmeriaid sy'n gweithredu mewn panig. Bydd yr ofn bod rhywun wedi hacio'ch cyfrif yn seiliedig ar yr hyn y mae'r e-bost yn ei ddweud yn achosi i bobl glicio ar y ddolen ffug honno heb feddwl.
Gallwch hefyd weld lle bydd y ddolen yn mynd â chi os ydych yn cadw’r lygoden dros y ddolen, ond peidiwch â'i glicio ar ddamwain!
Sut ydw i'n gwybod os yw'r e-bost PayPal yn ddilys?
Mae PayPal eu hunain yn dweud, os oes problem gyda'ch cyfrif, yna byddent yn rhoi gwybod i chi drwy'r wefan/ap yn y ganolfan negeseuon. Byddai e-bost dilys gan PayPal hefyd yn eich cyfeirio yn ôl enw ac nid yn dechrau gyda 'Annwyl Gwsmer'.
Mewngofnodi i'ch cyfrif yn uniongyrchol a pheidio â chlicio ar unrhyw ddolen yn yr e-bost yw’r ffordd fwyaf diogel o wirio beth sy'n digwydd (os yw rhywbeth). Peidiwch ag ateb nac agor unrhyw atodiadau, ac os oes amheuaeth, cysylltwch â PayPal i fod yn 100% yn sicr.
Sgamiau cyffredin PayPal
Mae gan PayPal restr hir o'r mathau o sgamiauYn agor mewn ffenestr newydd y maent yn ymwybodol ohonynt ac yn cynghori ar sut i'w hosgoi.
Dyma rai y gallech fod wedi'u derbyn eich hun:
- Enillydd y wobr – rydych yn derbyn e-bost yn datgan bod angen i chi anfon ffi fach er mwyn hawlio gwobr. Yn gyntaf, os nad ydych yn cofio cystadlu yn y gystadleuaeth hon, yna mae'n fwy na thebyg yn sgam. Mae cyngor gan PayPal yn dweud na fyddai gwobr gyfreithlon yn gofyn i chi dalu i'w dderbyn ac i beidio ag anfon unrhyw arian at rywun nad ydych yn ei adnabod.
- Rydych chi wedi cael eich talu - os ydych chi'n gwerthu eitem yna gall e-bost sgam gael ei anfon yn dweud wrthych eich bod wedi derbyn y taliad. Ond mewn gwirionedd mae'r sgamiwr eisiau'r hyn rydych yn ei werthu am ddim. Mewngofnodwch i'ch cyfrif PayPal bob amser a gwiriwch i weld a ydych wedi derbyn taliad cyn cludo unrhyw beth.
Sut i roi gwybod am e-bost ffug PayPal
Mae gan PayPal e-bost pwrpasol lle gallwch anfon unrhyw negeseuon e-bost ffug a byddant yn ymchwilio iddo - [email protected].
Os ydych wedi darparu unrhyw wybodaeth bersonol ar ôl derbyn e-bost sgam yna mewngofnodwch i PayPal a newidiwch eich cyfrinair a'ch cwestiynau diogelwch ar unwaith.
Gallwch hefyd roi gwybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ddefnyddio eu teclyn rhoi gwybodYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein
Gall eich darparwr e-bost helpu hefyd. Mae gan y rhan fwyaf o ddarparwyr swyddogaeth i roi gwybod lle y gallwch farcio'r e-bost fel sothach, yna unwaith yn eich ffolderi sothach, gallwch ei farcio fel sgam gwe-rwydo, a fydd wedyn yn rhoi gwybod am yr anfonwr.
Am fwy o fanylion gweler ein blog ar Sut i roi gwybod am sgam neu dwyll
Sut alla i amddiffyn fy hun rhag sgamiau?
Mae'n fwyfwy anodd adnabod y gwahaniaeth rhwng e-bost/gwefan ffug a dilys ond bydd gwybod pa ragofalon y gallwch eu cymryd yn sicrhau bod eich cyfrif PayPal a'ch gwybodaeth bersonol yn parhau i fod yn ddiogel.
- Os ydych chi'n derbyn e-bost yn dweud bod problem gyda'ch cyfrif ar-lein, yna ewch i PayPal yn uniongyrchol a mewngofnodwch i wirio.
- Os yw'r e-bost yn creu’r ymdeimlad o frys trwy ddweud os na fyddwch chi'n diweddaru'ch cyfrinair nawr, yna bydd eich cyfrif yn cau, yna mewngofnodwch eto i PayPal yn uniongyrchol.
- Peidiwch â chlicio ar unrhyw atodiadau o unrhyw ffynonellau anhysbys nac ymateb i'r e-bost.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw hidlwyr sbam wedi'u troi ymlaen trwy'ch darparwr e-bost, bydd y rhan fwyaf yn rhoi e-byst o ffynonellau anhysbys yn awtomatig i ffolderi sothach/sbam.
- Ychwanegwch gyfeiriadau e-bost unrhyw negeseuon e-bost amheus i'ch rhestrau blocio anfonwr, ni fyddwch wedyn yn cael e-bost o'r cyfeiriad hwnnw eto.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw cofnod o'ch cyfrif PayPal, hyd yn oed os nad ydych yn ei ddefnyddio'n aml mae'n well mewngofnodi ar adegau i wirio bod popeth yn iawn. Gwiriwch hanes eich taliadau a gwnewch yn siŵr eich bod yn creu cyfrinair cryf i helpu i sicrhau eich cyfrif.