Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i roi gwybod am sgam neu dwyll

Cyhoeddwyd ar:

Mae sgamiau a thwyll ar gynnydd, ac os ydych yn ddigon anlwcus i gael eich dal mewn un, y peth gorau y gallwch ei wneud i ddechrau'r broses adennill yw rhoi gwybod amdano. Dyma beth i’w wneud.

Beth i’w wneud ar unwaith

Cyn i chi roi gwybod am sgam neu dwyll, a’ch bod yn meddwl y gallech fod wedi cael eich twyllo eich hun, mae dau beth y mae angen i chi eu gwneud:

  1. Rhoi terfyn ar anfon arian ar unwaith. Os yw’r taliad wedi’i sefydlu fel Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â’ch banc i atal hyn ar unwaith.
  2. Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau dilynol. Weithiau ar ôl i chi gael eich sgamio efallai y cewch eich targedu eto gan dwyllwr sy’n dweud y gallant gael eich arian yn ôl.

Rhoi gwybod i’r heddlu am sgamiau peryglus a thwyll

Ar gyfer y rhan fwyaf o sgamiau, byddech yn mynd i Action Fraud yn gyntaf. Os yw sgam yn eich rhoi chi neu rywun arall mewn perygl a’i fod yn argyfwng, fodd bynnag, mae angen i chi ffonio’r heddlu ar 999.

Dylech hefyd ffonio’r heddlu os:

  • mae twyll yn digwydd neu wedi digwydd o fewn y 24 awr ddiwethaf
  • ydych yn adnabod y sawl sydd dan amheuaeth a’u bod yn byw yn y DU
  • mae’r dioddefwr yn agored i niwed oherwydd oedran, nam meddyliol neu gorfforol, neu angen gofal a chymorth
  • ydych yn meddwl bod angen i’r heddlu gadw tystiolaeth neu atal colled, megis teledu cylch cyfyng, neu adennill symiau mawr o arian a drosglwyddwyd o gyfrifon banc cyn y gellir ei drosglwyddo i ffwrdd.

Rhoi gwybod am e-byst sgam a thwyll ar-lein

Mae ceisio twyllo pobl trwy ddefnyddio e-byst neu wefannau yn dod yn boblogaidd. Os ydych wedi dod o hyd i wefan sy’n ceisio gwneud hyn, neu wedi cael eich dal mewn sgam, dyma beth i'w wneud:

  • Os cawsoch e-bost, gallwch gysylltu â'r darparwr gwasanaeth a anfonodd yr e-bost atoch, megis Yahoo! neu Outlook. Yn aml bydd gan rai fotwm ‘Rhoi gwybod am we-rwydo’ neu ‘Rhoi gwybod am sgam’. Yna gellir cau'r cyfeiriad e-bost.
  • Os yw’n wefan neu os ydych wedi cael eich dal mewn sgam, rhowch wybod i Action Fraud sydd â theclyn rhoi gwybod ar-lein (Agor mewn ffenestr newydd) sy’n gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
  •  Gallwch hefyd rhoi gwybod am y twyll i gwmnïau sy'n hysbysebu gwasanaethau twyllodrus, megis pan fydd hysbysebion yn ymddangos ar Google neu Bing.
  • Weithiau mae twyllwyr yn dynwared sefydliadau, fel esgus bod e-byst neu alwadau ffôn gan Gyllid a Thollau EM. Gallwch gysylltu â’r cwmnïau sy’n cael eu dynwared hefyd.

Sgamiau gwasanaeth ariannol, gan gynnwys morgeisi acyswiriant

Dylai bron pob gwasanaeth ariannol - gwasanaethau sy'n delio â chyfranddaliadau, credyd, yswiriant, morgeisi - gael eu hawdurdodi neu eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

Os cewch eich targedu gan sefydliad sy’n ceisio rhoi’r mathau hyn o wasanaethau i chi, gallwch roi gwybod amdanynt i'r FCA i ymchilio iddynt (Agor mewn ffenestr newydd)

Rhoi gwybod am sgamiau pensiwn

Sgamiau pensiwn yw rhai o’r mathau mwyaf peryglus o dwyll oherwydd eu bod yn targedu symiau mawr o arian, arian sy’n gynilion oes pobl.

  • Os ydych eisoes wedi cytuno neu lofnodi rhywbeth nad ydych yn siŵr amdano nawr, cysylltwch â'ch darparwr pensiwn ar unwaith. Efallai y gallant atal trosglwyddiad cyn iddo ddigwydd.
  • Gallwch hefyd rhoi gwybod am sgamiau buddsoddi yr ydych wedi bod yn darged iddynt i’r FCA gan ddefnyddio eu ffurflen rhoi gwybod (Opens in a new window)
  • Os ydych wedi colli arian oherwydd amheuaeth o dwyll buddsoddi, dylech roi gwybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ddefnyddio’r teclyn rhoi gwybod ar-lein Action Fraud
  • Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch beth i’w wneud, gofynnwch i’r arbenigwyr pensiynau yn HelpwrArian. Ffoniwch ni ar 0800 011 3797 i gael cyngor a gwybodaeth am ddim am bensiynau.

Rhoi gwybod am sgamiau buddsoddi

Yn debyg iawn i sgamiau pensiwn, gall y rhain fod yn frawychus iawn i bobl gan fod y symiau o arian dan sylw yn aml yn fawr iawn.

Rhoi gwybod am sgamiau sy’n defnyddio’r Post Brenhinol

Efallai eich bod hefyd wedi derbyn papurau twyllodrus yn y post. Mae yna ychydig o gamau y gallwch eu cymryd. Gallwch chi:

  • anfon y llythyrau ymlaen at y Post Brenhinol gyda llythyr eglurhaol yn egluro beth sydd wedi digwydd i: Post Sgam Rhadbost, PO Box 797, Exeter EX1 9UN
  • anfon e-bost neu ffonio 0345 611 3413 yn egluro’r twyll
  • cysylltu â’r Gwasanaeth Dewis Post (MPS) a fydd yn tynnu eich enw a’ch cyfeiriad oddi ar restrau postio. Gallwch eu ffonio ar 0845 703 4599 neu ddefnyddio Gwefan MPS

Rhoi gwybod am alwadau ffôn sgam

Os ydych yn amau ​​​​eich bod yn cael eich targedu gan sgam gwasanaeth ffôn cyfradd premiwm:

  • gallwch wneud cwyn a’i hadrodd i’r Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PSA), rheolydd biliau ffôn y DU, trwy eu ffonio ar 0300 303 0020, neu drwy ymweld â Gwefan PSA

Rhoi gwybod am sgamiau siopa ar-lein a thwyll talu

Weithiau gall fod yn anodd gweithio allan a ydych wedi dioddef sgam ai peidio. Ond, os bydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda phryniant ar-lein, dyma'r camau i'w cymryd:

  • Os anfonwyd eitem ddiffygiol atoch, neu’r cynnyrch anghywir, cysylltwch â’r gwerthwr ar-lein y cawsoch hi ganddo.
  • Os na fyddwch yn clywed yn ôl, neu os nad ydych yn hapus â’u hymateb, dylech gysylltu â darparwr eich cerdyn, er enghraifft VISA neu Mastercard.
  • Os nad ydych yn cofio prynu ac yn meddwl y gallai fod yn rhywun sy’n defnyddio’ch cerdyn ar gyfer twyll, rhowch wybod i’ch banc ar unwaith. Yna gallant rwystro’r cerdyn fel na all rhagor o daliadau gael eu gwneud. Fel arfer y byddwch yn cael ad-daliad o’ch arian gan eich cwmni cardiau os defnyddir manylion eich cerdyn ar-lein heb eich caniatâd ar gyfer twyll. 
  • Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, gallwch hefyd roi gwybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ddefnyddio teclyn rhoi gwybod ar-lein Action Fraud
Tagiau
Sgamiau pensiwn Pob postiadau blog Sgamiau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.