Beth mae’r gyllideb fach yn ei olygu i chi

23 Medi 2022
Mae nifer ohonom yn poeni am y cynnydd yn y costau byw, felly mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi ‘cyllideb fach’ (mae’r un ‘arferol’ fel arfer yn y gwanwyn), gyda’r bwriad o daclo hyn.
Ynni
Y broblem fawr i’r rhan fwyaf ohonom yw’r twf yn ein costau biliau ynni; fodd bynnag, wnaeth y canghellor newydd, Kwasi Kwarteng, ailadrodd y gefnogaeth a gyhoeddwyd yn y Gwarant Pris Ynni ar 8 Medi. Bydd hyn yn cyfyngu cost uned o drydan a nwy fel bod cartref tebygol yn y Deyrnas Unedig yn talu, ar gyfartaledd, tua £2,500 y flwyddyn ar eu bil ynni, am y 2 flynedd nesaf, o 1 Hydref 2022.
Ni chyhoeddwyd unrhyw gymorth newydd ar unwaith, er o Ebrill 2023 bydd rhaid i gyflenwyr ynni helpu cwsmeriaid sy’n agored i niwed ac incwm is gyda mesurau arbed ynni a allai arbed hyd at £200 y flwyddyn i bobl ar eu biliau ynni.
Bydd eich union swm bil yn parhau i gael ei effeithio gan faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio. Felly, defnyddiwch lai, talwch lai, defnyddiwch fwy, talwch fwy.
Treth Stamp
Newyddion da i brynwyr tai yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gan fod toriadau treth stamp yn dechrau’n syth. O heddiw, ni fydd unrhyw un sy’n cwblhau pryniant tŷ yn talu unrhyw dreth stamp ar y £250,000 cyntaf o bris eich eiddo (cyn y cyhoeddiad hwn roedd yn £125,000).
Ni fydd rhaid i brynwyr tro cyntaf sy’n gymwys dalu treth stamp ar £425,000 cyntaf o bris eu heiddo (roedd yn £300,000). Cyn heddiw, roedd dim ond modd i brynwyr tro cyntaf hawlio’r rhyddhad os oedd cyfanswm pris yr eiddo yn llai na £500,000 ond mae hyn bellach wedi ei gynyddu i £625,000.
Toriadau parhaol yw’r rhain, felly does dim pwysau arnoch i brynu a gwerthu eich cartref cyn terfyn amser i gael yr arbedion toriad treth stamp.
Treth
Bydd y cynnydd yn y gyfradd Yswiriant Gwladol a ddigwyddodd yng ngwanwyn 2022 yn cael ei gwrthdroi o 6 Tachwedd, i drethdalwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd y gyfradd sylfaenol o dreth incwm sy’n cael ei dalu ar enillion dros £12,571 yn gostwng i 19c o 20c yn y bunt o Ebrill 2023. Ar gyfartaledd, mae hyn yn golygu y byddwch £130 y flwyddyn yn well eich byd os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol a £360 y flwyddyn yn well eich byd os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch.
Bydd y gyfradd dreth uchaf o 45% sy’n berthnasol i’r rhai sy’n ennill £150,000 a throsodd yn cael eu dileu o fis Ebrill 2023. Mae hwn yn golygu bod y gyfradd uchaf sy’n cael ei thalu gan enillwyr uchel yn stopio ar 40%. Bydd y rhai a fyddai fel arall wedi bod yn drethdalwyr cyfradd ychwanegol hefyd nawr yn elwa o Lwfans Cynilion Personol o £500 o Ebrill 2023, yn unol â threthdalwyr cyfradd uwch.
Gyda chyfradd llog uwch Banc Lloegr, nawr yw’r amser i adolygu’ch morgais a deall y goblygiadau.
Am sut i wneud hyn, edrychwch ar ein canllaw Pam ei fod yn talu i adolygu’ch morgais yn rheolaidd
Treth Alcohol
Mewn ymgais i helpu’r diwydiant lletygarwch, caiff treth alcohol ei rhewi o fis Chwefror 2023. Dylai hyn arbed 7c ar bob peint o gwrw, 4c ar beint o seidr, 38c ar botel o win a £1.35 ar botel o wirodydd.