Cyhoeddwyd ar:
26 Mai 2022
Wedi'i ddiweddaru diwethaf:
05 Mai 2023
Os ydych chi'n pendroni sut y bydd prisiau ynni cynyddol a mwy yn effeithio ar gyllid eich cartref, dyma’r grantiau a thaliadau sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu pob cartref gyda'u biliau.
Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi cael y credyd o £400 tuag at eu biliau ynni a chafodd ei dalu rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023. Os oes gennych fesurydd rhagdaledig mae gennych 90 diwrnod i ddefnyddio’r talebau rydych wedi eu cael. Os oes gennych dalebau sydd heb eu defnyddio ac sydd wedi dod i ben mae gennych tan 30 Mehefin 2023 i ofyn am dalebau newydd.
Mae'r rheoleiddwr ynni Ofgem wedi cwtogi faint o arian gall cyflenwyr ynni godi ar aelwyd am nwy a thrydan. Fodd bynnag, bydd eich biliau yn dal i godi'r gwanwyn hwn, gan fod llawer o'r gefnogaeth Costau Byw y mae'r llywodraeth wedi'i ddarparu yn mynd i leihau ym mis Ebrill.
Mae’r cap prisiau ynni dal yn bodoli, ond ar hyn o bryd nid yw unrhyw un yn talu’r cyfraddau sydd wedi’i sefydlu gan y cap. Mae beth rydym yn talu wedi’i gyfyngu gan y warant prisiau ynni (EPG).
Unwaith bydd y cap prisiau’n cwympo’n is na’r EPG nid yw’r warant prisiau’n berthnasol rhagor gan mai’r cap prisiau ynni sy’n cynnig amddiffyniad yn erbyn prisiau uwch.
Bil ynni cartref tebygol yw £2,500 y flwyddyn nawr o dan y Warant Prisiau Ynni, sy’n para hyd at ddiwedd mis Mehefin. Disgwylir i brisiau gostwng yr haf yma, felly dylai fod bargeinion gwell ar gael pryd hynny.
Mae’n bwysig nodi nid yw gwarant y llywodraeth, fel unrhyw gap pris ynni, yn cyfyngu’r bil cyflawn. Mae’n cyfyngu cost uned o ynni - felly yn dibynnu ar faint rydych yn ei ddefnyddio, gall eich bil fod yn uwch.
Bydd y sawl sy’n defnyddio mesurydd rhagdaledig atodol hefyd yn cael bil sydd tua £45 y flwyddyn yn uwch na chwsmer debyd uniongyrchol tebygol o fis Ebrill, o ganlyniad i gostau sefydlog uwch.
Bydd tri Thaliad Costau Byw yn cael eu hanfon allan dros 2023/24 ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau prawf modd, yn ogystal â thaliadau ychwanegol i bensiynwyr a phobl sydd ag anableddau. Fel y Taliadau Costau Byw blaenorol, bydd y rhain yn mynd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc ac ni fydd angen gwneud cais amdanynt.
Mae’n debyg y byddwch yn gymwys os ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn:
Os nad ydych yn cael y budd-daliadau hyn ac rydych yn byw ar incwm isel, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Caiff tri Thaliad Costau Byw ei wneud i’r sawl sy’n gymwys:
Er y bydd y taliadau hyn yn help mawr i lawer o bobl, bydd eraill yn dal i'w chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Os yw hynny'n wir i chi, nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae help ar gael. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw yn rheoli'ch arian mewn amseroedd ansicr, a all eich pwyntio i'r cyfeiriad cywir.