Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pwy sydd â hawl i Daliadau Tywydd Oer? 

Cyhoeddwyd ar:

Wedi'i ddiweddaru diwethaf:

Pan fydd y tymheredd yn gostwng, gall eich biliau godi’n uchel iawn. Mae Taliadau Tywydd Oer yn un o'r ffyrdd y gallwch gael ychydig o arian yn ôl i wrthbwyso'r gost ychwanegol a ddaw yn sgil gaeaf oer.

Beth yw Taliadau Tywydd Oer?

Os ydych yn gymwys iddynt, gallwch ddefnyddio'r taliadau hyn i'ch helpu i fforddio cynhesu'ch cartref neu brynu dillad cynnes neu ddillad gwely ychwanegol. Os yw'r tymheredd yn eich ardal yn gostwng o dan 0°C am saith diwrnod neu fwy yn olynol rhwng y 1af o Dachwedd a 31ain o Fawrth, gallech fod â hawl i daliad o £25 am bob wythnos o dywydd oer iawn. Dim ond pobl ar rai budd-daliadau sy'n gallu hawlio, ac nid yw Taliadau Tywydd Oer yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill. 

Sut i wneud cais am Daliadau Tywydd Oer

Dylai pobl sydd eisoes yn derbyn mathau penodol o fudd-daliadau gael eu cofrestru'n awtomatig i gael Taliadau Tywydd Oer. Bydd £25 ar gyfer pob wythnos o dywydd is na'r rhewbwynt yn cael ei dalu i'r un cyfrif banc â'ch budd-daliadau eraill.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, ac mae gennych un ai fabi neu blentyn o dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi, yna dylech ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith. Efallai eich bod nawr yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer pan na fyddech wedi bod cyn i'ch sefyllfa fyw newid.

Sut alla i wirio os oes Taliad Tywydd Oer yn ddyledus yn fy ardal i?

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i weld faint o gyfnodau saith diwrnod o dywydd oer iawn sydd wedi digwydd yn eich ardal leol yw rhoi hanner cyntaf eich cod post i mewn i wiriwr Taliadau Tywydd OerYn agor mewn ffenestr newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau

Pryd fydda i'n cael fy Nhaliad Tywydd Oer?

Dylech dderbyn eich Taliad Tywydd Oer yn awtomatig o fewn 14 diwrnod i'r cyfnod o dywydd oer. Os nad ydych yn cael taliad pan fyddwch yn disgwyl, cysylltwch â Chanolfan Byd Gwaith neu eich canolfan bensiwn.

Pwy sydd â'r hawl i Daliadau Tywydd Oer?

Efallai eich bod yn gymwys i Daliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Cefnogaeth ar gyfer Llog Morgeisi.

Fodd bynnag, nid yw bod ar unrhyw un o'r budd-daliadau uchod yn gwarantu y byddwch yn gymwys ar gyfer Taliadau Tywydd Oer.

Ydych chi'n cael Taliadau Tywydd Oer ar Gredyd Cynhwysol?

Os byddwch yn cael Credyd Cynhwysol ac nad ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig, byddwch fel arfer yn derbyn Taliadau Tywydd Oer os yw un o'r canlynol hefyd yn berthnasol:

  • mae gennych blentyn o dan 5 oed yn byw gyda chi
  • mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd ac nid oes gennych gapasiti cyfyngedig i weithio
  • mae gennych swm plentyn anabl yn eich cais (p'un a ydych yn cael eich cyflogi ai peidio).

Ydych chi'n cael Taliad Tywydd Oer ar PIP?

Nid yw Taliad Annibyniaeth Personol yn un o'r budd-daliadau a allai eich gwneud yn gymwys i Daliadau Tywydd Oer. Mae'r math yma o daliad ond ar gael i bobl sydd ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm.

A fydda i'n cael Taliadau Tywydd Oer ar ESA?

Fel arfer bydd derbynnydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm (ESA) yn gallu cael Taliadau Tywydd Oer os ydynt mewn grŵp gweithgaredd neu grŵp cymorth sy'n gysylltiedig â gwaith. Os ydych yn cael ESA sy'n gysylltiedig ag incwm ac nad ydych yn y naill grŵp neu'r llall fe allech gael Taliadau Tywydd Oer o hyd os oes gennych:

  • premiwm anabledd difrifol neu uwch
  • premiwm pensiynwr
  • plentyn sy'n anabl
  • Credyd Treth Plant sy'n cynnwys anabledd neu elfen anabledd difrifol
  • plentyn o dan 5 oed yn byw gyda chi.

Ydy gofalwyr yn cael Taliad Tywydd Oer?

Gallai gofalwyr neu'r unigolyn y maen nhw'n gofalu amdanynt fod yn gymwys am Daliadau Tywydd Oer os ydyn nhw'n cael budd-daliadau penodol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriwch gyda'r Ganolfan Byd Gwaith neu'ch canolfan bensiwn i weld a ydych yn gymwys.

Ffyrdd eraill o arbed arian ar ynni

Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys ar gyfer Taliadau Tywydd Oer, mae ffyrdd eraill y gallech gael rhywfaint o ryddhad ar filiau gaeaf uchel.

Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes

Gall rhai grwpiau hawlio arbediad o £150 oddi ar eu bil ynni rhwng mis Medi a mis Mawrth drwy'r Cynllun Gotyngiad Cartrefi Cynnes.

Gallech fod yn gymwys os byddwch yn cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn, neu os ydynt ar incwm isel a chael budd-daliadau penodol sy'n seiliedig ar brawf modd.

Darllenwch fwy am y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes a sut y gallwch ei ddefnyddio ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd

 

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn y 26ain Medi 1956 gallech gael rhwng £250 a £600 y flwyddyn i'w roi tuag at eich biliau ynni gaeaf.

Darganfyddwch os ydych yn gymwys a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd

Newid cyflenwyr ynni

Gall newid cyflenwyr nwy neu drydan, neu hyd yn oed newid tollau o fewn eich cyflenwr presennol neu i ddull gwahanol o dalu arbed swm sylweddol o arian i chi. Mae hyn yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud.

Tagiau
Budd-daliadau Biliau Anabledd Pob postiadau blog

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.