Gallwch ailgyhoeddi – a elwir hefyd yn syndiceiddio neu osod – ein herthyglau cyngor a gwybodaeth diduedd ar eich gwefan eich hun am ddim. Gallwch hefyd greu dolen iddo neu ei rannu pryd bynnag y mae ei angen arnoch.
Mae ein cynnwys yno i wneud dewisiadau arian a pensiwn eich cynulleidfa yn gliriach - p'un ai dyna'ch staff neu'ch cwsmeriaid.
Mae yno i dorri trwy gymhlethdod eu cyllid, i egluro beth sydd angen iddynt ei wneud a sut y gallant ei wneud. Mae yno i'w rhoi mewn rheolaeth â chyngor diduedd sydd wedi'u cefnogi gan y llywodraeth ac i argymell cefnogaeth bellach y gellir ymddiried ynddo os oes ei angen arnynt.
Pan fyddwch yn syndiceiddio ein cynnwys ar eich gwefan, rydym yn sicrhau ei fod yn aros yn gyfredol. Gallwn hefyd eich cynghori ar y cynnwys mwyaf perthnasol o bob rhan o'n gwefan i weddu i'ch anghenion a'ch cynulleidfa.
Mae'r holl adnoddau hyn hefyd ar gael yn Gymraeg.
Darganfyddwch sut y gallwn weithio â'n gilydd trwy ebostio ein tîm PartneriaethauYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gael ein cynnwys ar eich gwefan
Erthyglau cyngor a gwybodaeth
Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o'n herthyglau cyngor a gwybodaeth ar eich gwefan, ebyst neu fewnrwyd, ebostiwch ein tîm Partneriaethau yn uniongyrchol.
Byddwn yn gallu darparu cynnwys mewn unrhyw fformat porthiant gwe safonol neu byddwn yn gallu gweithio â chi i archwilio unrhyw ofynion gweithredu eraill.
Fideos
I osod fideo HelpwrArian ar eich gwefan drwy ddefnyddio YouTube:
- Ewch i'n sianel YouTube a darganfyddwch y fideo rydych eisiau ei osod.
- Ar y dudalen fideo (o dan y fideo) mae botwm 'Rhannu’. Pan fyddwch yn clicio Rhannu, byddwch yn gweld yr opsiwn i 'embed'. O dan y cod gosod, gallwch ddewis maint y fideo fel bydd yn ymddangos ar eich tudalen.
- Yna copiwch y cod gosod a'i phastio i mewn i'ch tudalen we.