Mae’n bwysig gwybod sut i reoli’ch arian fel myfyriwr, neu fel arall ni fydd yn para drwy’r tymor a’r gwyliau. Rydym wedi creu rhestr wirio o awgrymiadau cyllidebu hanfodol i’ch helpu i wneud y mwyaf o’ch arian yn y brifysgol neu’r coleg.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Costau byw fel myfyriwr
I amrhyw o fyfyrwyr, mynd i brifysgol yw eu profiad cyntaf o fyw i ffwrdd o’u cartrefi.
Gyda’r amser cyffrous hyn daw cyfrifoldebau newydd, yn cynnwys yr angen i reoli eich arian.
Gall eich benthyciad myfyrwyr fod y mwyaf o arian a gawsoch erioed, ond cofiwch – mae rhaid iddo bara’r holl dymor.
Sut i gyllidebu yn y brifysgol
Os cewch eich benthyciadau cynhaliaeth a dyfarniadau eraill neu gyllid ar sail prawf modd ar ddechrau pob tymor, gall ymddangos fel llawer iawn o arian.
Ond gall gwneud iddo bara drwy gydol y flwyddyn academaidd ac yn ystod y gwyliau fod yn anodd.
Mae’n syniad da i chi weithio allan cyllideb rheolaiadd yn seiliedig ar faint o arian sydd gennych yn dod i mewn a mynd allan.
Cofiwch
Os ydych yn rhannu llety, gwnewch yn siŵr fod y biliau’n cael eu rhannu’r deg a’u talu’n brydlon. Cysylltwch â’ch darparwr yn gynnar os rhagwelwch y bydd taliad hwyr oherwydd gallai’ch statws credyd neu’ch gallu i gael credyd yn y dyfodol gael ei effeithio.
Yn gyntaf, ychwanegwch eich incwm cyfan fel myfyriwr.
Er enghraifft:
- benthyciadau cynhaliaeth
- incwm o swydd
- bwrsariaethau, ysgoloriaethau neu grantiau
- arian gan rieni neu deulu
- unrhyw gynilion neu fuddsoddiadau.
Unwaith rydych yn gwybod cyfanswm eich incwm, cyfrifwch eich gwariant:
- bwyd a diod
- unrhyw filiau – nwy, trydan, dŵr, ffôn, wifi, trwydded deledu, tanysgrifiadau cerddoriaeth neu adloniant, aelodaeth campfa ac ati
- ffioedd llety, fel rhent ac yswiriant pethau gwerthfawr
- costau teithio, gan gynnwys tanwydd, cynnal a chadw ac yswiriant os ydych yn gyrru.
Gwnewch yn siwr bod eich incwm un ai’n uwch na’ch gwariant neu’n cyfateb iddo, yn wythnosol neu’n fisol.
Os ydych yn gwario mwy nag ydych yn ei ennill
Mae hon yn broblem a wynebir gan filoedd o fyfyrwyr.
Dylech ystyried y canlynol:
- Cynyddu’ch incwm – yn ddibynnol ar eich amserlen astudio, gall cymryd swydd ran-amser i gynyddu’ch incwm wneud gwahaniaeth mawr i’ch cyllideb.
- Siaradwch â chynghorwr – dylai bod gan eich prifysgol neu goleg gynghorwr arian myfyrwyr neu wasanaethau cymorth a all roi cymorth i reoli eich incwm.
- Lleihau’ch costau – gwiriwch ar beth rydych yn gwario. A oes rhai pethau y gallwch wario llai arnynt? Gall prynu bwyd gyda label yr archfarchnad ei hun neu rannu costau prydau bwyd arbed arian i chi.
- Ystyriwch fenthyca – a ydych wedi rhoi cynnig ar bopeth arall? Ystyriwch opsiynau benthyca fel gorddrafft di-log a awdurdodwyd neu gerdyn credyd a ddaw gyda’ch cyfrif myfyriwr. Ond dylech ond benthyca beth rydych ei angen a’r hyn allwch ei dalu’n ôl.
Benthyciadau cynhaliaeth a grantiau
Gellir ddefnyddio benthyciadau cynhaliaeth i dalu’ch costau byw, fodd bynnag mae beth mae gennych hawl iddo yn seiliedig ar ble rydych yn byw a lleoliad eich prifysgol neu goleg.
Yn ddibynnol ar ba wlad rydych yn byw ynddi ar asiantaeth cyllid myfyrwyr sy’n berthnasol i chi, efallai y bydd grantiau prawf modd ac opsiynau cyllid eraill ar gael i chi.
Nid oes rhaid i chi ad-dalu grantiau a bwrsariaethau fel arfer ond, byddwch ond yn gymwys amdanynt os ydych yn cwrdd a meini prawf penodol.
Am fwy o wybodaeth ar fenthyciadau cynhaliaeth, grantiau, bwrsariaethau a dyfarniadau, ewch i:
Student Finance England ar GOV.UK
Student Awards Agency for Scotland
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Student Finance Northern Ireland
Grantiau eraill
Os ydych yn cael trafferth i gadw i fyny gyda biliau neu dalu’r rhent, mae yna ffyrdd arall i gael grantiau tuag at helpu.
Siaradwch gyda’ch prifysgol am ba cymorth maent yn eu cynnig. Mae gan nifer o sefydliadau gronfa caledi a allai helpu i chi fforddio aros mewn addysg.
Mae nifer o grantiau, bwrsariaethau a dyfarniadau arall y gallech fod yn gymwys i’w cael. Am fwy o wybodaeth amdanynt, ewch i’r wefan Save the Student
Budd-daliadau
Ni all y rhan fwyaf o fyfyrwyr llawn amser hawlio budd-daliadau prawf modd. Ond, os oes gennych anabledd neu rydych yn gofalwr am blentyn ifanc, efallai gallwch hawlio rhai budd-daliadau.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau fel yr un ar y wefan Turn2us er mwyn gwybod beth y gallech fod yn gymwys i’w gael
Siopiwch yn ddoeth gyda gostyngiadau i fyfyrwyr
Mae llawer o ostyngiadau gwych ar gael i fyfyrwyr mewn siopau, tai bwyta, trafnidiaeth ac ati.
Ond peidiwch â defnyddio hyn fel rheswm i wario arian ar bethau nad oes eu hangen arnoch mewn gwirionedd.
Man cychwyn da yw’r cerdyn National Union of Students (NUS) Totum sy’n cynnig gostyngiadau ar nifer o wasanaethau a chynhyrchion. Gallwch hefyd ymuno am ddim â Unidays a Student Beans gyda’ch mewngofnodi prifysgol i gael gostyngiadau ar-lein ac mewn siop drwy eu app.
Dod o hyd i waith rhan amser
Unwaith y byddwch wedi cyfrifo’ch cyllideb, gallwch weld os fydd cymryd gwaith rhan amser yn syniad da.
Gallai hyn fod yn ystod y gwyliau neu’r tymor.
Ond peidiwch â esgeuluso eich astudiaethau — dengys astudiaethau y gall mwy na 20 awr o waith yr wythnos amharu ar berfformiad academaidd.
Felly os ydych yn bwriadu gweithio yn ystod y tymor, yna anelwch at gydbwysedd rhesymol rhwng gweithio ac astudio.
Dyma rhai syniadau i’ch helpu dilyn cyllideb:
- gwnewch restr siopa cyn mynd ac wedyn ei ddilyn
- dysgwch un neu ddau bryd o fwyd hawdd i goginio tipyn ohonno a’u cadw yn y rhewgell
- ceisiwch brynu brand ei hun neu fwyd wedi’i leihau er mwyn cadw’r costau i lawr.
Gall llyfrau prifysgol fod llawer mwy drud na’r rhai rydych wedi arfer eu prynu yn y gorffennol. Pan fyddwch yn derbyn eich rhestr darllen, ceisiwch gael cymaint y gallwch o’r llyfrgell neu brynu ail-law os phosibl.
Trafnidiaeth
Pa un ai’ch bod yn teithio’n ddyddiol i’r dosbarth neu’n dod adref dros y gwyliau, bydd angen i chi ystyried costau teithio yn eich cyllideb.
Mae amryw o gardiau teithio i fyfyrwyr a bargeinion i leihau’r costau, felly gwiriwch beth mae cwmnïau trafnidiaeth yn eu cynnig ble rydych yn astudio a trefnwch ymlaen llaw am arbedion ychwanegol.
Mae enghreifftiau yn cynnwys:
- 16-25 Railcard arbed traean oddi ar brisiau teithio ar drên
- 26-30 Railcard arbed traean oddi ar brisiau teithio ar drên
- Young Persons Coachcard arbed traean oddi ar brisiau teithio ar fws moethus
- Student Oyster Photocard yn arbed 30% oddi ar gostau teithio yn Llundain
- Cerdyn yLink (Gogledd Iwerddon) yn arbed 30% oddi ar gostau teithio ar drên neu fws.
Ystyriwch brynu beic am gynilo hirdymor. Cofiwch gael clod da amdano hefyd.
Cael help gyda dyled
Os credwch fod ad-daliadau yn dechrau dod yn broblem, ceisiwch gael cyngor yn syth am ddim gan defnyddio ein teclyn lleoli cyngor ar ddyledion.
Er bod dyled yn realiti i nifer o fyfyrwyr, gall barhau i achosi straen a phryder.
Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau gynghorwr arian myfyrwyr neu wasanaethau cymorth, ar gael i’ch helpu i ddatblygu technegau cyllidebu a rhoi gwybod i chi am unrhyw opsiynau sydd ar gael i chi fel myfyriwr o ran cymorth ariannol, fel benthyciad caledi