Os oes angen incwm rheolaidd arnoch i dalu am ofal yn y cartref neu gartref gofal, gall blwydd-dal anghenion brys (neu gynllun talu ffi gofal angen brys), gynnig yr ateb. Mae’r incwm o’r math hwn o flwydd-dal yn ddi-dreth os caiff ei dalu’n uniongyrchol i’r darparwr gofal.
Beth yw blwydd-dal anghenion brys?
Yn syml, math o bolisi yswiriant yw blwydd-dal sy’n rhoi incwm rheolaidd yn gyfnewid am fuddsoddiad cyfandaliad cychwynnol.
Pan gânt eu defnyddio ar gyfer gofal hirdymor, maent yn rhoi sicrwydd o incwm am oes i ariannu gofal hirdymor.
Gellir galw’r math hwn o flwydd-dal yn:
- cynllun gofal brys
- blwydd-dal anghenion brys
- cynllun talu ffi gofal anghenion brys.
Mae’n bwysig iawn chwilio am y fargen orau gyda blwydd-dal. Gall cynghorydd arbenigol roi help i chi osgoi hynny.
I helpu i ddod o hyd i ymgynghorydd arbenigol, defnyddiwch ein Cyfeiriadur dod o hyd i gynghorydd ymddeoliad
Sut mae blwydd-dal anghenion brys yn gweithio
Mae pris y cynllun yn seiliedig ar faint o incwm rydych ei angen ac aseisad y cwmni yswiriant am ba hyd y bydd ei angen arnoch.
Bydd y swm rydych yn ei dalu yn y cychwyn yn dibynnu ar:
- eich oedran
- cyfraddau blwydd-dal cyfredol
- faint o incwm rydych ei angen
- os ydych angen icwm sy'n aros yr un fath neu'n codi dros amser
- eich iechyd a disgwyliad oes (bydd y cynllun yn rhatach os yw eich iechyd yn wael a’ch disgwyliad oed yn fyrrach)
Mae’r incwm o’r cynllun yn ddi-dreth os caiff ei dalu’n uniongyrchol i’r darparwr gofal.
Mae’r rhan fwyaf o gynlluniau gofal yn darparu incwm sydd unai’n cynyddu gyda chwyddiant neu o swm penodol bob blwyddyn i’ch helpu i ymdopi gyda chodiadau mewn costau gofal yn y dyfodol.
Am bris ychwanegol cewch hefyd roi cymal ‘diogelu cyfalaf’ ynddo. Mae hyn yn galluogi’ch teulu gael peth o’r cyfandaliad yn ôl petaech yn marw’n gynnar.
Beth yw blwydd-dal anghenion gofal gohiriedig?
Mae hwn yn fath o flwydd-dal anghenion brys lle telir cyfandaliad ar y cychwyn, ond ni dderbynnir unrhyw incwm o'r blwydd-dal tan ar ôl cyfnod aros penodol, fel arfer unrhyw beth rhwng 12 a 60 mis.
Bydd angen talu ffioedd gofal sy’n ddyledus yn ystod y cyfnod ‘gohiriedig’ hwn o adnoddau eraill.
Mantais blwydd-dal anghenion gofal gohiriedig yw y gall y gost fod yn sylweddol is na blwydd-dal anghenion brys ar gyfer yr un lefel o ffioedd gofal, ond mae'n dal i gwmpasu'r risg o orfod talu ffioedd gofal am gyfnod hir o amser ar ôl y cyfnod gohiriedig a ddewiswyd.
Gall fod blwydd-dal anghenion brys yn addas i chi os
- ydych mewn cartref gofal yn barod, ar fin symud i mewn i un, neu yn cael gofal yn eich cartref
- rydych y dymuno cael tawelwch meddwl drwy wybod bod gennych incwm rheolaidd am weddill eich bywyd all gael ei ddefnyddio tuag at gostau gofal beth bynnag wnaiff ddigwydd
- mae’r arian ar gael gennych i brynu’r cynllun.
Yn aml mae pobl yn talu am y cynllun drwy gymryd allan cynllun rhyddhau ecwiti neu leihau maint eu cartref.
Nid yw flwydd-dal anghenion brys i chi os:
- na fyddwch angen talu am ofal yn syth
- rydych yn credu mai dim ond gofal dros dro fydd ei angen arnoch
- efallai y byddwch angen eich arian yn ôl yn y dyfodol
- mae siawns dda y byddai gennych hawl i gyllid Gofal Parhaus y GIG. Gweler ein canllaw ar A ydych yn gymwys am gyllid gofal iechyd parhaus y GIG?
Os credwch y gallech fod angen talu costau gofal yn y dyfodol, dewis arall yw flwydd-dal ffioedd angen gofal gohiriedig. Mae hyn yn gweithio yn yr un modd â blwydd-dal angen brys heblaw nad yw’r incwm yn cychwyn yn syth. Yn lle hynny bydd yn cychwyn rhai misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd yn y dyfodol.
Risgiau
Unwaith y byddwch wedi cychwyn ar flwydd-dal anghenion brys, mae cyfnod ystyried (fel arfer 30 diwrnod) ble y gallwch newid eich meddwl. Ond ar ôl hynny, nid oes troi yn ôl.
Ni fyddwch yn gallu canslo’r cynllun a chael peth o’r arian yn ôl os, er enghraifft, rydych yn stopio bod angen gofal.
Rhaid i chi hefyd bwyso a mesur cael incwm rheolaidd, diogel i helpu i dalu am ofal yn erbyn colli’r cyfandaliad a fuddsoddwyd gennych petaech yn marw’n gynnar.
Efallai y bydd eich costau gofal yn cynyddu’n gyflymach na’r incwm o’ch cynllun. Mae hyn yn golygu y gallai fod gennych ddiffyg yn y dyfodol y bydd angen i chi ei gwrdd mewn ffyrdd eraill.
Ffyrdd eraill i gyllido’ch gofal hirdymor
Mae blwydd-dal anghenion brys ond yn un ffordd o dalu am ofal hirdymor
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Hunangyllido’ch gofal hirdymor – eich dewisiadau
Cael help a chyngor
Mae'r opsiynau ar gyfer ariannu eich gofal tymor hir yn gymhleth. Mae'n bwysig bob amser cael cyngor proffesiynol i sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o'ch arian a pheidio â buddsoddi mewn cynnyrch nad yw'n diwallu'ch anghenion.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cyngor annibynnol gan gynghorydd ffioedd gofal arbenigol a gweld beth arall sydd ar gael cyn prynu cynllun anghenion brys. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor
- Defnyddiwch ein Cyfeiriadur Cynghorydd Ymddeoliad i ddod o hyd i gynghorydd ariannol rheoledig sydd â’r achrediad ‘Society of Later Life Advisers (SOLLA). Mae cynghorwyr SOLLA yn arbenigwyr.
- Gallwch ddod o hyd i gynghorwyr SOLLA ar wefan Society of Later Life Advisers hefyd.