Angen mwy o help? Cysylltwch â ni am arweiniad ariannol sy’n ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio, boed ar-lein neu dros y ffôn. Beth bynnag eich cwestiwn rydym yma i helpu. Os nad ydym yn gwybod yr ateb, gwnawn eich cyfeirio at rywun sydd yn gwybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Gwesgwrs
A oes gennych gwestiwn? Bydd ein cynghorwyr yn rhoi’r arweiniad cywir i chi. Gallwch ddechrau Gwesgwrs ar-lein i siarad â ni yn fyw.
Oriau agor gwesgwrs
- Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
- Ar gau ar ddydd Sadwrn, Sul a gwyliau’r banc.
A ydych angen help i ddelio â’ch dyledion, a oes gennych gwestiynau am gredyd neu a ydych angen arweiniad pensiynau? Gallwch siarad â ni yn fyw ar WhatsApp.
- Ychwanegwch +44 7593 572 874 i’ch WhatsApp ac anfonwch neges atom
- AM bopeth arall dylech gysylltu â ni drwy Wesgwrs neu ffôn.
Ffôn
Angen help i glirio'ch dyledion, lleihau gwariant neu wneud y gorau o'ch incwm a byddai'n well gennych ddefnyddio'r ffôn? Ffoniwch ni am ganllaw ariannol diduedd am ddim.
- 0800 138 0555 (Cymraeg)*
- 0800 138 7777 (Saesneg)*
- Typetalk: 18001 0800 915 4622*
- O dramor: +44 20 3553 2279.
*Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant.
Oriau agor llinellau ffôn
- Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
- Ddydd Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau banc, ar gau.
Gweffurflen
Gallwch anfon cwestiwn drwy ein ffurflen ymholiad ar-lein.
Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.
Cyfryngau cymdeithasol
Yn nhroedyn y wefan hon, byddwch yn gweld dolenni at ein holl brif sianelau cyfryngau cymdeithasol. O'r fan honno, byddwch yn gallu ymuno â chymuned sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
Galwadau ffôn digymell
Ni fyddwn byth yn gwneud galwadau digymell atoch nac yn gofyn am wybodaeth ariannol bersonol fel manylion banc neu ddogfennau pensiwn.
Os ydych yn derbyn galwad annisgwyl gan rywun sy'n honni i fod o HelpwrArian, Pension Wise, Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, gwnewch yn siŵr nad ydych yn trosglwyddo unrhyw fanylion personol a rhowch wybod am y galwad i'r FCA.