Help os oes gennych bensiwn wedi'i rewi o swydd flaenorol

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
29 Gorffennaf 2024
Os byddwch yn gadael swydd, mae eich pensiwn gweithle fel arfer yn cael ei 'rewi' heb unrhyw arian ychwanegol yn cael ei dalu i mewn iddo. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod a'ch opsiynau, gan gynnwys sut i ddod o hyd i bensiynau coll.
Beth yw pensiwn wedi'i rewi?
Mae pensiwn gweithle wedi'i rewi, neu 'bensiwn a gadwyd' yn un nad yw'n cael ei dalu i mewn mwyach. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan fyddwch yn gadael swydd, felly rydych chi a'ch cyflogwr yn rhoi'r gorau i gyfrannu.
Mae unrhyw arian sydd ynddo yn dal i fod yn pethyn i chi a bydd yn rhoi incwm i chi pan fyddwch yn ymddeol.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Bensiwn i weld rhagolwg o gyfanswm eich incwm pensiwn pan fyddwch yn ymddeol, gan gynnwys o Bensiwn y Wladwriaeth.
Gall pensiwn wedi'i rewi dyfu neu golli arian o hyd.
Nid yw pensiwn wedi'i rewi, mewn gwirionedd wedi'i rewi, gan y bydd eich darparwr pensiwn yn parhau i reoli a buddsoddi'ch arian.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio (y math mwyaf cyffredin), mae hyn yn golygu y gall yr arian barhau i:
- dyfu, os yw'r buddsoddiadau'n perfformio'n dda
- lleihau, os yw'r buddsoddiadau'n perfformio'n wael neu os nad ydynt yn tyfu digon i dalu am y ffioedd rheoli.
Bydd eich darparwr pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn anfon datganiadau atoch fel y gallwch gadw golwg, fel arfer bob blwyddyn. Mae hyn fel arfer yn cynnwys amcangyfrif o'ch incwm ymddeol.
Os oes gennych fudd-dal wedi'i ddiffinio neu bensiwn cyflog terfynol, byddwch yn cael y swm sefydlog y cytunodd y cynllun i'w dalu, fel arfer ynghyd â thwf yn unol â chwyddiant.
Beth allwch chi ei wneud gyda phensiwn wedi'i rewi – eich opsiynau
Os oes gennych hen bensiynau nad ydych yn talu i mewn iddynt fwyach, ni allwch gymryd yr arian yn ôl fel arian parod fel arfer. Mae hyn yn golygu bod gennych ddau opsiwn cyn i chi ymddeol:
- gwneud dim a gadael i'r darparwr pensiwn ei reoli nes i chi gael yr arian ar oedran ymddeol, neu
- ei drosglwyddo i gynllun pensiwn newydd, fel un yn eich swydd bresennol neu un rydych wedi'i sefydlu eich hun.
Bydd yr opsiwn gorau i chi yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis faint o arian sydd ym mhob pensiwn wedi'i rewi a chost y ffioedd rheoli.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manteision ac anfanteision dod â'ch pensiynau at ei gilydd, gweler ein canllaw Gwneud y mwyaf o'ch pensiynau.
Sut i ddod o hyd i hen bensiynau wedi'u rhewi neu bensiynau wedi’u rewi coll
Os nad oes gan eich darparwr pensiwn eich manylion cyswllt diweddaraf, gall pensiwn fynd ar goll. Mae hyn yn golygu bod yr arian yn dal i fod yn perthyn i chi, ond nid yw'ch darparwr yn gallu anfon datganiadau atoch na gofyn i chi sut rydych am gymryd yr arian pan fyddwch yn ymddeol.
I ddod o hyd ac adennill unrhyw bensiynau yn eich enw, dilynwch y camau hyn:
- Gwnewch restr o'r holl leoedd rydych chi wedi gweithio.
- Edrychwch ar eich gwaith papur am fanylion y cynllun pensiwn ar gyfer pob un. Os yw'ch hen gyflogwr wedi mynd i'r wal, gwiriwch y Pension Protection FundYn agor mewn ffenestr newydd am fanylion gan y gallai eich cynllun pensiwn fod wedi cael ei gymryd drosodd gan ddarparwr gwahanol.
- Cysylltwch â'ch hen gyflogwr os na allwch ddod o hyd i enw'r darparwr pensiwn. Gallwch hefyd ddefnyddio GretelYn agor mewn ffenestr newydd gwasanaeth am ddim i olrhain pensiynau, cyfrifon a buddsoddiadau coll.
- Cysylltwch â'r darparwr pensiwn gyda chymaint o fanylion â phosibl fel y gallant olrhain eich pensiwn, megis y dyddiadau y buoch yn gweithio i'r cwmni, eich Rhif Yswiriant GwladolYn agor mewn ffenestr newydd ac unrhyw enwau a chyfeiriadau blaenorol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt pensiwn ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich manylion cyswllt fel y gall eich darparwr pensiwn anfon datganiadau a gwybodaeth bwysig arall atoch.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Dod o hyd i'm pensiwn coll: olrhain a dod o hyd i bensiynau coll