Gwneud Un Peth – Diogelwch Ariannol
Last updated:
06 Tachwedd 2023
Mae Dan, o flog Cyllid Personol y DU, The Financial Wilderness, yn ysgrifennu am “un peth” i'ch annog i gymryd eiliad i ystyried a yw lefel y diogelwch ariannol sydd gennych yn iawn i chi.
Darllenwch flog Dan The Financial WildernessYn agor mewn ffenestr newydd
Beth yw diogelwch ariannol?
Yn y bôn, math o yswiriant yw diogelu ariannol. Ystod o gynhyrchion sy’n eich diogelu rhag ofn na fyddwch yn gallu gweithio am gyfnod estynedig, neu'n wynebu sefyllfa drist fel partner yn marw ydyw.
Rwy'n ysgrifennu hyn oherwydd bod diogelwch ariannol yn tueddu i fod yn rhan ddigariad o gyllid personol – er bod cynilion a buddsoddiadau yn cael llawer o ffocws, mae diogelu yn tueddu i fod yn ôl-ystyriaeth.
Dwi'n meddwl hyn yn aml am yr un rheswm nad yw ffactorau pwysig fel ewyllys yn cael yr un lefel o sylw gennym ni i gyd - mae’n bwnc eithaf diflas, a dy’n ni wir ddim yn hoffi meddwl am ein hunain yng nghyd-destun marwolaeth neu anaf, hyd yn oed os ydyn ni'n gwybod yn y bôn ei fod yn synhwyrol cynllunio ar ei gyfer.
Mae ar fy meddwl oherwydd fel dyn sydd newydd briodi, mae sefyllfa fy nheulu wedi newid, felly rydw i wedi bod yn edrych ar yr diogelwch sydd gennyf yma!
Mae’n bwysig iawn peidio â syrthio i’r fagl o dybio na fydd byth yn digwydd, ac yn lle bod yn gyfforddus, mae gennym gynllun ar gyfer y risg isel y bydd yn digwydd.
Pam mae Diogelwch Ariannol yn bwysig?
Nid yw pawb angen diogelwch ariannol ac ni fydd yn werth chweil i bawb. Y cam cyntaf synhwyrol yw meddwl beth yw eich costau sy’n “rhaid eu talu” yn fisol, a pha mor gyfforddus y byddech chi'n gallu cwrdd â'r rhain pe bai eich incwm eich hun yn cael ei ddileu.
Mae hefyd yn synhwyrol meddwl am eich iechyd a’ch oedran cyffredinol eich hun, oherwydd yn anffodus gall ein rhwymedigaethau a'n problemau iechyd posibl ddechrau cynyddu wrth i ni heneiddio.
Rwy’n credu bod digwyddiadau allweddol bywyd fel priodas, genedigaeth a cherrig milltir mawr lle mae strwythur eich teulu yn newid yn bwyntiau synhwyrol iawn i wneud adolygiad o ddiogelwch.
Pa fathau o ddiogelwch ariannol sy’n bodoli?
Sicrwydd Bywyd: Yn gyffredinol, mae Sicrwydd Bywyd yn talu cyfandaliad (mae rhai cynhyrchion yn talu incwm rheolaidd) i’ch teulu os byddwch yn marw.
Gallwch hefyd gael amrywiad o hyn, a fydd yn eich talu pe bai’ch priod yn marw, neu bolisïau ar y cyd sy’n cwmpasu’r llall pe bai marwolaeth.
Yswiriant Salwch Critigol: Bydd yn talu cyfandaliad arian parod i chi pe bai salwch critigol yn cael ei ddiagnosio, fel cancr.
Yswiriant Anabledd: Bydd yn talu incwm misol i chi os ydych yn cael eich anafu’n ormodol i weithio. Gall polisïau fod yn wahanol yma ar gyfer os yw ynghylch gwneud yr un swydd ag yr ydych yn ei gwneud nawr neu swydd wahanol, felly mae angen i chi wirio’r manylion.
Yn aml, bydd y rhain hefyd yn dod â chymorth ychwanegol ar gyfer adsefydlu os nad yw'ch anabledd yn barhaol (mae er budd y cwmni yswiriant i’ch cael yn ôl i’r gwaith cyn gynted ag sy’n bosibl!)
Yswiriant Damweiniau Personol: Yn debyg i’r uchod, ond mae’n cynnwys cyfandaliad os bydd anafiadau penodol amrywiol yn digwydd.
Gall y cynhyrchion uchod gael enwau gwahanol mewn rhai achosion - yn fwyaf cyffredin efallai y byddwch hefyd yn gweld y rhain y cyfeirir atynt fel cynhyrchion diogelu incwm neu fudd-dal incwm teuluol.
Sut alla i gael diogelwch ariannol?
Os ydych chi’n gweithio i gwmni, mae’n bendant yn werth ymchwilio i’r pecyn budd-daliadau sydd ar gael i weld a yw diogelwch yn rhan o’r opsiynau y gallwch eu dewis. Yn aml, gall hyn fod y rhataf wrth i gwmnïau brynu'r polisïau ar raddfa fawr a chael gostyngiadau sylweddol i yswirio’n effeithiol ar draws grŵp o bobl.
Y tu hwnt i hynny, byddem yn awgrymu dechrau gyda safleoedd cymharu poblogaidd i ddeall y cynhyrchion sydd ar gael a'u prisiau perthnasol a gwneud ymchwil ar y cwmnïau o fewn hynny.
Os nad ydych yn siŵr beth allai fod ei angen arnoch ac eich bod eisiau rhywfaint o arweiniad, mae hwn yn faes y gallai fod yn werth ei drafod gydag ymgynghorydd ariannol fel rhan o gynllunio hirdymor.