Y cysylltiad rhwng arian ac iechyd meddwl
06 Hydref 2021
Mae coronafeirws wedi achosi argyfwng iechyd meddwl. Arolwg gan Mind ym mis Ebrill 2021 (Opens in a new window), dywedodd 65% o bobl wrthym fod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu oherwydd y pandemig.
Ac i bobl sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol, mae'r darlun yn waeth byth. Dywedodd bron i dri chwarter y bobl mewn cartrefi sy'n cael budd-daliadau wrthym fod y pandemig wedi gwaethygu eu hiechyd meddwl. Ac i'r rheini sydd allan o waith, mae'r pandemig bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl (Opens in a new window)
Os ydych yn wynebu problemau gyda'ch cyllid, neu'ch iechyd meddwl, cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun. Pan fyddwch yn wynebu trafferth gyda'ch iechyd meddwl, gall fod yn anoddach rheoli neu ennill arian. A gall poeni am arian waethugu eich iechyd meddwl. Gall ddechrau teimlo fel cylch dieflig.
P'un a ydych yn wynebu pryderon ariannol, iechyd meddwl, neu'r ddau, gall deimlo'n llethol. Gall fod yn anodd gwybod sut I ymdopi â phopeth. Ac weithiau, efallai y byddwch yn teimlo'n euog am beidio â gwybod ble I ddechrau.
Ond does dim angen teimlo unrhyw gywilydd. Mae ymchwil Mind wedi dangos bod y rhai ohonom sy’n ennill llai nag £20,000 y flwyddyn, neu sy’n methu â gweithio oherwydd anabledd neu salwch, yn fwy tebygol o fod ag iechyd meddwl gwael. Yn yr un modd, mae pobl sydd â salwch meddwl yn fwy tebygol o fod wedi profi tlodi, digartrefedd neu ddiweithdra (Opens in a new window)
Gall clywed am sut mae eraill wedi ymdopi fod yn ddefnyddiol. Yn y fideo hwn, Mae Andrew yn siarad am ei ddibyniaeth ar gamblo ar-lein, a sut mae wedi gallu dechrau talu ei ddyledion yn ôl ar ôl gofyn am help (Opens in a new window). Ac yn y blog hwn, mae Siobhan yn dweud wrthym sut mae gosod nodau realistig ac agor i fyny i ffrindiau wedi ei helpu i deimlo'n llai euog am wario arian (Opens in a new window)
Yn Mind, rydym am eich helpu i fynd i'r afael ag arian ac iechyd meddwl, gyda'n gilydd. Mae llawer o wybodaeth ar ein gwefan (Opens in a new window) am sut mae arian ac iechyd meddwl yn gysylltiedig, yn ogystal ag awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i aros ar ben y ddau. Mae hefyd gan HelpwrArian teclynnau a chyfrifianellau i’’ch helpu rheoli eich arian.
Ac os hoffech gael rhywun i siarad â nhw, ymwelwch â'n cymuned ar-lein, Side by Side. Yno, gallwch rannu'ch pryderon, a chlywed gan eraill mewn sefyllfa debyg. Ymgofrestwch i ymuno â’r sgwrs (Opens in a new window)