Nid yw Covid-19 wedi ein heffeithio yn gorfforol yn unig, ond mae wedi arwain at rai ohonom yn mynd drwy broblemau a phryderon ariannol am y tro cyntaf erioed. Rydym yn deall hyn, a p’un a ydych yn edrych am gymorth gan eich bod yn cael trafferthion ac mae gennych bryderon ariannol, neu os ydych ond angen arweiniad ynghylch budd-daliadau, cyllido, cael babi, morgeisi neu eich pensiwn, rydym eisiau i chi deimlo yn gyfforddus wrth gysylltu â HelpwrArian.
Mae HelpwrArian yn cynnig arweiniad diduedd ac am ddim am arian a phensiynau y gallwch ymddiried ynddo ac mae’n ei wneud yn gyflymach a’n haws i chi gael y cymorth cywir. Gallwch gael mynediad i HelpwrArian drwy ffôn, ar-lein, WhatsApp neu we-sgwrs. Rydym yma i helpu.
Os ydych yn cysylltu â ni dros y ffôn, bydd ein cydweithwyr canolfan gyswllt yno i’ch arwain ar unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch eich arian a phensiynau.
Fe wnaeth Medwen Roberts, o Ruthun, ein ffonio bythefnos yn ôl a siaradodd â Lawrence gan ei fod eisiau siarad â rhywun yn Gymraeg am ei bensiwn.
Dywed Medwen:
“Fe roeddwn yn ceisio cael cymorth wrth benderfynu beth i’w wneud efo fy mhensiwn. Ni allai ddweud fy mod yn actif wrth edrych ar ôl fy mhensiwn. Mae’n hynod o ddryslyd a dwi’n gweld fod llawer o bethau mwy diddorol i wneud efo fy amser….!
“Pan ffoniais linell gymorth Cymraeg pensiynau HelpwrArian, fe welais fod trafod fy opsiynau pensiwn yn Gymraeg yn llawer mwy naturiol a phwyllog. Dwi’n fwy cyfforddus yn siarad am bethau pwysig, yn enwedig pethau cymhleth fel arian, yn Gymraeg. Roedd Lawrence, fy arbenigwr pensiwn, yn arbennig, ac fe wnaeth fynd drwy lawer o bethau ychwanegol nad oeddwn wedi deall fy mod angen gwybod. Buaswn yn ei argymell i unrhyw un.”