Ydych chi wedi gwneud cais am eich Budd-dal Plant?
Last updated:
10 Tachwedd 2023
Fel rhan o Wythnos Siarad am Arian, mae’r blog hwn yn esbonio sut i hawlio Budd-dal Plant os ydych yn gymwys a beth sydd angen i chi ei wybod.
Ydych chi wedi gwneud eich cais eto?
Ydych chi'n rhiant newydd? Neu ydych chi wedi cael babi arall?
Os felly, darllenwch ymlaen i ddarganfod sut i roi hwb i'ch cyllideb trwy hawlio Budd-dal Plant ar-lein.
Mae’n Wythnos Siarad Arian, ac rydym yn annog pawb i fod yn agored a siarad am eu harian gyda ffrindiau, teulu ac arbenigwyr. O arian poced i bensiynau, nid yw byth yn rhy gynnar, i wneud sgyrsiau arian yn rhan o’n bywyd bob dydd.
Mae siarad am ein materion ariannol yn ein helpu i fagu hyder ariannol, gwneud gwell penderfyniadau ynghylch gwario a chynilo, dysgu arferion arian gydol oes dda i’n plant ac yn ein gadael ni’n teimlo llai o straen a mwy o reolaeth.
Eleni, rydyn ni’n gofyn i bawb ‘Wneud Un Peth’ i helpu i wella’ch lles ariannol. Pam na wnewch chi hawlio Budd-dal Plant yr un peth hwnnw, os nad ydych wedi’n barod? Gallwch hefyd lawrlwytho ap CThEF i wneud cais newydd neu reoli eich cais presennol yn gyflym ac yn hawdd.
Felly, beth sydd angen i chi ei wybod?
Mae cymorth i deuluoedd gyda chost magu plant. Mae CThEF eisiau sicrhau bod teuluoedd yn cael yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Gall unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn dan 16 oed hawlio Budd-dal Plant (neu hyd at 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser cymeradwyYn agor mewn ffenestr newydd)
Gallwch hawlio hyd at £1,248 y flwyddyn ar gyfer eich plentyn cyntaf – sy’n gwneud cyfanswm o bron i £20,000 erbyn iddynt gyrraedd 16 oed.
Gallwch hawlio bron £827 ar gyfer unrhyw blant ychwanegol sydd gennych, heb unrhyw gyfyngiad ar faint o blant y gallwch hawlio ar eu cyfer.
Mae Budd-dal Plant yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc bob pedair wythnos. (Gellir ei dalu'n wythnosol mewn rhai amgylchiadau).
Gallwch gyflwyno’ch cais am Fudd-dal Plant ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd o’r diwrnod ar ôl cofrestru genedigaeth y plentyn.
Pwysig: Dim ond tri mis y gallwch ôl-ddyddio taliadau Budd-dal Plant, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl fel nad ydych yn colli allan. Gwnewch gais ar-lein a gallech hyd yn oed dderbyn eich taliad cyntaf o fewn tri diwrnod!
Pethau i'w cadw mewn cof
Os yw eich incwm chi neu eich partner dros £50,000, efallai eich bod wedi clywed am y Tâl Budd-dal Plant Incwm UchelYn agor mewn ffenestr newydd Peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro – trwy wneud cais gallwch gael Credydau Yswiriant Gwladol tuag at Bensiwn y Wladwriaeth. Gallwch optio allan o daliadau pan fyddwch yn hawlio, neu eu derbyn a thalu’r tâl – y dreth yw 1% o Fudd-dal Plant am bob £100 o incwm dros y trothwy, felly os ydych yn ennill rhwng £50,000 a £60,000 gallai dal fod werth chweil yn ariannol i wneud cais.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Mae’n hawdd i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd a gellir ei wneud ar gov.uk o’r diwrnod ar ôl cofrestru genedigaeth y plentyn. (Cofiwch, nid yw byth yn rhy hwyr: gallwch wneud cais amdanynt ar unrhyw oedran hyd at 16, neu 20 os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant llawn amser cymeradwy).
Mewngofnodwch gyda’ch cyfrif Porth y Llywodraeth neu cofrestrwch ymhen ychydig funudau os nad oes gennych un yn barod.
Yna bydd angen:
- tystysgrif geni neu fabwysiadu eich plentyn
- manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- rhif Yswiriant Gwladol eich partner, os oes gennych un
Gallwch wneud cais trwy'r post neu dros y ffôn hefyd, ond bydd y broses yn hirach.
Os nad yw gennych chi eisoes, gallwch hefyd lawrlwytho ap CThEFYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch weld a rheoli eich cais am Fudd-dal Plant a dod o hyd i lawer o wasanaethau eraill i reoli eich treth, Yswiriant Gwladol, credydau treth a budd-daliadau eraill.
Ydych chi wedi hawlio eich Budd-dal Plant?
Gallwch hawlio dros £1,248 y flwyddyn ar gyfer eich plentyn cyntaf a bron £827 ar gyfer unrhyw blant eraill.
Dim ond 3 mis y gellir ôl-ddyddio Budd-dal Plant. Peidiwch â cholli'r cyfle - anfonwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Hyd yn oed os yw eich incwm chi neu’ch partner dros £50,000 y flwyddyn, dylech wneud cais ar-lein o hyd gan y byddwch yn ennill credydau Yswiriant Gwladol a all helpu i ddiogelu eich hawl i bensiwn y wladwriaeth a gall fod yn werth chweil yn ariannol o hyd.
Mae mwy o gymorth gan y llywodraeth ar gael i'ch helpu gyda chostau byw ac arbed arian drwy Help for HouseholdsYn agor mewn ffenestr newydd
Opens in a new window
Budd-dal plant: nodyn atgoffa cryno
Mae Budd-dal Plant yn fudd-dal nad yw’n fudd-dal prawf modd sy’n daladwy ar gyfer pob plentyn nes ei fod yn 16 oed neu hyd at 20 oed os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant. Gall unrhyw un hawlio budd-dal plant heb ots am faint y maent yn ei ennill. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl budd-dal plant os ydych chi neu'ch partner yn ennill £50,000 neu fwy'n flynyddol. Drwy hawlio Budd-dal Plant, gallwch gael lwfans ar gyfer pob plentyn – byddwch fel arfer yn ei gael bob pedair wythnos.
Mae derbyn budd-daliadau plant hefyd yn sicrhau credydau yswiriant gwladol, sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth, a rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer eich plentyn heb iddynt orfod gwneud cais am un – fel arfer byddant yn cael y rhif ychydig cyn iddynt droi’n 16 oed.
I wneud cais neu am help a gwybodaeth, gweler ein tudalen Budd-dal Plant.