Os yw eich landlord yn cynyddu eich rhent neu rydych yn poeni am fynd i ôl-ddyledion rhent neu os yw'ch landlord yn gwerthu ac mae angen i chi ddod o hyd i rywle newydd, mae'r canllaw hwn yn eich helpu i ddod o hyd i gymorth i dalu'r costau.
Cael help i dalu eich rhent
Help os yw eich rhent yn cynyddu
Darganfyddwch am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel tenant os yw eich landlord yn cynyddu eich rhent, sut i herio neu leihau codiadau rhent a chael help ychwanegol i dalu eich rhent.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwiriwch eich cytundeb tenantiaeth
Rhaid i landlordiaid ddilyn rhai rheolau os ydynt am gynyddu rhent. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â chynnydd rhent yn dibynnu ar:
- faint yw'r cynnydd rhent
- os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban
- os ydych mewn tenantiaeth cyfnod penodol neu gontract treigl.
Dylai eich cytundeb tenantiaeth gynnwys sut a phryd y bydd y rhent yn cael ei adolygu. Mae'n bwysig darllen trwy eich cytundeb tenantiaeth a gwirio pa fath o denantiaeth sydd gennych.
Gwiriwch Shelter ar gyfer Cymru Yn agor mewn ffenestr newyddLloegr Yn agor mewn ffenestr newydd yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd neu NI DirectYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer Gogledd Iwerddon am fwy o wybodaeth.
Siaradwch â'ch landlord
Pan fydd eich landlord yn rhoi rhybudd i chi bod eich rhent yn cynyddu, gallwch geisio siarad â nhw i wneud y cynnydd yn fwy fforddiadwy.
Efallai y byddant yn barod i gyfaddawdu i'ch cadwfel tenant. Er enghraifft, pe byddent yn gofyn am gynyddu eich rhent o £100 y mis, gallech gwrdd yn y canol a chytuno ar gynnydd o £50. Mae'n werth edrych ar eiddo tebyg gerllaw i weld beth yw rhent 'cyfradd y farchnad', os ydych yn meddwl bod yr hyn maent yn gofyn amdano yn annheg.
Yn yr Alban, mae'r rhan fwyaf o denantiaid yn dod o dan y cap rhentYn agor mewn ffenestr newydd, sy'n golygu na all eich rhent gynyddu mwy na 3% y flwyddyn fel arfer, mae hyn yn para tan ddiwedd mis Medi 2023 o leiaf.
Os na fydd eich landlord yn dod i gytundeb â chi a'ch bod yn credu bod y cynnydd yn annheg, efallai y byddwch yn dewis mynd â'r cynnydd rhent i dribiwnlys.
Darganfyddwch sut mae hyn yn gweithio yn Cyngor ar Bopeth Yn agor mewn ffenestr newydd
Mae rheolau rhentu wedi newid os ydych chi'n byw yng Nghymru Yn agor mewn ffenestr newydd Darganfyddwch fwy yn Cyngor ar Bopeth.
Gwnewch gyllideb
Bydd angen i chi edrych yn fanwl ar gyllideb eich cartref i weithio allan lle gallwch dorri'n ôl i weld a allwch ymdopi â’r cynnydd.
Mae ein hadran byw ar incwm gwasgedig yn llawn awgrymiadau i'ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o leihau biliau cartref a chostau byw eraill, yn ogystal â sut y gallwch roi hwb i'ch incwm.
Defnyddiwch ein Cynllunydd Cyllideb i'ch helpu i gael gwell trosolwg o'ch gwariant, fel y gallwch weld ble y gallech wneud arbedion.
Darganfyddwch fudd-daliadau i'ch helpu i dalu eich rhent
Darganfyddwch fudd-daliadau i'ch helpu i dalu eich rhent
Os ydych yn cael trafferth talu'ch rhent, mae pethau y gallwch eu gwneud i gael help.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwnewch wiriad budd-daliadau
Os yw'r cynnydd mewn costau byw yn gwasgu cyllid eich cartref, mae'n werth gwirio pa fudd-daliadau y gallwch eu cael i helpu gyda chostau tai. Efallai y gallwch gael arian ychwanegol i'ch helpu i dalu'ch rhent.
Mae ein Cyfrifiannell Budd-daliadau ond yn cymryd ychydig funudau i'w gwblhau.
Gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau ond nad yw eich rhent yn cael ei gwmpasu gan yr hyn a gewch, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliadau Tai Dewisol gan eich cyngor lleol.
Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gellir hawlio'r taliadau hyn am nifer o fisoedd ac nid oes angen eu had-dalu.
Gwiriwch a ydych yn gymwys am grantiau neu gyllid
Os ydych ar incwm isel iawn, efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan elusennau a sefydliadau lleol, na fydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Gallwch ddefnyddio Chwiliwr Grantiau Turn2UsYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i gyllid nad oes angen ei dalu'n ôl.
Gwnewch cais i’r Gronfa Gymorth i Aelwydydd
Gall cynghorau lleol hefyd ddarparu cymorth gyda'r Gronfa Gymorth i Aelwydydd. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gall y Gronfa Gymorth i Aelwydydd eich helpu i gael:
- hanfodion i gadw'n gynnes ac yn lân
- offer fel oergelloedd, rhewgelloedd, poptai neu bopty araf
- mesurau effeithlonrwydd ynni neu osod inswleiddio
- eich biliau band eang neu ffôn wedi'u cynnwys
- costau cludiant hanfodol, fel trwsio ceir neu dalu am betrol
- talebau bwyd i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol.
Darganfyddwch Help os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Help os oes gennych ôl-ddyledion rhent
Os ydych wedi methu taliad rhent neu wedi cwympo ar ei hôl hi gyda thaliadau, mae'n bwysig gweithredu'n gyflym.
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwiriwch faint o rent sy'n ddyledus gennych
Gwnewch yn siŵr bod y rhent y mae eich landlord yn dweud bod arnoch yn y swm cywir. Edrychwch ar eich:
- cyfriflenni banc, neu
- derbynebau.
Os ydych yn cael unrhyw fudd-daliadau a delir yn uniongyrchol i'ch landlord, gwiriwch gyda'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod faint sydd wedi cael ei dalu i’ch landlord.
Os ydych wedi cadw cofnod o'ch holl daliadau rhent, gwnewch yn siŵr eu bod yn dod i’r swm cywir. Os nad ydych wedi cadw cofnod, gofynnwch i'ch landlord am ddatganiad o faint o rent rydych wedi'i dalu.
Siaradwch â'ch landlord
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, nid yw o reidrwydd yn golygu y cewch eich troi allan. Siaradwch â'ch landlord i:
- esbonio eich sefyllfa
- dweud beth rydychyn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem
- awgrymu dyddiad newydd i dalu'ch rhent sy'n weddill neu gynllun ad-dalu
- cael unrhyw gytundeb wedi'i gadarnhau yn ysgrifenedig.
Os ydych yn byw mewn tai cymdeithasol neu'n denant cymdeithas dai, gall eich swyddog tenantiaeth helpu i reoli taliadau, cyllidebu a gwirio eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo. Os yw talu eich rhent yn debygol o fod yn broblem hirdymor, efallai y cewch gynnig eiddo llai i helpu i wneud eich rhent misol yn fwy fforddiadwy yn y dyfodol.
Darganfyddwch beth i'w wneud os ydych yn cael problemau wrth dalu eich rhent yn ein canllaw Help gydag ôl-ddyledion rhent a phroblemau gyda thalu eich rhent.
Darganfyddwch eich Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gall y Gwasanaeth Cynghori Atal Colli Tai helpu os ydych mewn perygl o gael eich troi allan o eiddo rhent.
Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i gael cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol am ddim yn y llys o'r eiliad y byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig gan eich landlord.
Bydd arbenigwr tai a ariennir gan y llywodraeth yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion. Efallai y byddant yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi ar:
- troi allan anghyfreithlon
- diffyg atgyweirio a phroblemau eraill gydag amodau tai
- ôl-ddyledion rhent
- taliadau budd-daliadau lles
- dyled.
Gallwch ddod o hyd i'ch darparwr Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai agosaf drwy deipio eich cod post a ticio'r blwch 'Gwasanaeth Cyngor Atal Colli Tai' yn find-legal-advice.justice.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd.
Cael cyngor ar ddyledion
Os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, efallai y bydd biliau eraill rydych hefyd yn cael trafferth gyda hwy.
Gall ymgynghorydd dyledion eich helpu i wneud synnwyr o'r hyn sy'n ddyledus gennych a mynd trwy'ch opsiynau gyda chi'n gyfrinachol.
Mae cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim a gall eich helpu i reoli eich ad-daliadau a siarad â'ch credydwyr.
Ydych chi wedi methu mwy nag un taliad? Defnyddiwch ein Lleolydd Cyngor ar Ddyled i ddod o hyd i ymgynghorydd.
Darganfyddwch Beth i'w wneud os oes rhaid i chi symud
Beth i'w wneud os oes rhaid i chi symud
Darganfyddwch eich hawliau am gael eich blaendal yn ôl, cael help i ddod o hyd i rywle arall i fyw ac mae cyngor os ydych yn poeni am ddod yn ddigartref..
Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich blaendal yn ôl
Pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben, dylech gael eich blaendal yn ôl oni bai eich bod wedi difrodi'r eiddo, neu os oes arnoch chi ddyled i'ch landlord.
Gofynnwch i'ch landlord pryd maent yn bwriadu dychwelyd eich blaendal.
Mae'n syniad da tynnu lluniau o gyflwr yr eiddo cyn i chi adael rhag ofn bod anghytundeb ynghylch faint o flaendal y dylech ei gael yn ôl..
Mae gan Gyngor ar Bopeth fwy o wybodaeth am sut i gael eich blaendal yn ôlYn agor mewn ffenestr newydd a beth i'w wneud os na fydd eich landlord yn ei dalu'n ôl i chi.
Gwiriwch eich bod yn gallu cael arian ychwanegol
Os ydych angen help i gael blaendal i ddod o hyd i rywle i fyw, gallwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd. Mae'r taliadau hyn yn benodol ar gyfer costau tai ac nid oes rhaid i chi eu talu’n ôl.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill sy'n seiliedig ar brawf modd, gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu i helpu gyda'ch blaendal. Mae'r rhain yn ddi-log ac mae ad-daliadau yn cael eu cymryd allan o'ch budd-daliadau..
Darganfyddwch sut mae'n gweithio, os ydych yn gymwys, a sut i wneud cais yn ein canllaw Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw.
Cael help i ddod o hyd i rywle i fyw
Os na allwch ddod o hyd i lety y gallwch ei fforddio sy'n addas i chi neu'ch teulu, efallai y bydd eich cyngor lleol yn gallu helpu. Darganfyddwch fwy am gael cartref cyngor yn Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych am rentu'n breifat, efallai y gallwch arbed arian os ydych yn rhentu'n uniongyrchol gan landlord yn hytrach na thrwy asiant gosod.
Os oes eiddo rhent y gallwch fforddio ac eisiau gwneud cais amdano ond na allwch oherwydd bod yr hysbyseb yn nodi na fyddant yn derbyn pobl ar fudd-daliadau, mae hyn yn wahaniaethu ar sail tai.
Os ydych yn poeni am ddod yn ddigartref
Cysylltwch â'ch cyngor lleol i:
- wirio a allwch gael tai brys gan eich cyngor lleol.
- gofyn am fanylion cyswllt hosteli, llochesi nos, llochesi a gwely a brecwast.
Mae gan Shelter rai canllawiau am yr hyn y gall y cyngor ei wneud yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd, LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ar AlbanYn agor mewn ffenestr newydd a gallwch ddarganfod cymorth os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ar Housing RightsYn agor mewn ffenestr newydd
Gall Cyngor ar Bopeth helpu gyda gwneud cais am gymorth digartref gan y cyngorYn agor mewn ffenestr newydd gan gynnwys gwneud cais.
Gwiriwch eich hawliau os ydych yn cael eich troi allan
Mae pethau y mae'n rhaid i'ch landlord eu gwneud i gyflwyno rhybudd ffurfiol. Mae'n rhaid iddynt:
- rhoi hysbysiad adran 21 neu adran 8 i chi
- cael gorchymyn meddiant gan y llys os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad ar yr hysbysiad adran 21 neu adran 8
- gwneud cais i'r llys am warant meddiant os nad ydych wedi gadael erbyn y dyddiad ar y gorchymyn meddiant.
Fel arfer mae'n cymryd ychydig fisoedd o gael eich hysbysiad a gorfod symud allan. Mae'r llinell amser yn dibynnu ar ba fath o rybudd rydych yn ei dderbyn.
Os yw'ch landlord yn ceisio meddiant, efallai y byddant yn hapus i'ch rhyddhau o'ch tenantiaeth cyn i'ch contract ganiatáu os byddwch yn dod o hyd i rywle arall i fyw.
Os ydych yncredu y gallai eich troi allan fod yn anghyfreithlon, mae ffyrdd o'i herio. Darganfyddwch sut y gallwch wneud hyn ar safle Shelter ar gyfer CymruYn agor mewn ffenestr newydd, LloegrYn agor mewn ffenestr newydd a’r AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ac ar y safle Housing Rights ar gyfer Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Ydych chi wedi methu taliad?
Os felly, nawr yw'r amser i gael cyngor ar ddyledion
-
Mae'n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol
-
Mae’n rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a'ch arian
-
Mae’n sicrhau eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir