Nes y cyfnewidir contractau, gall prynwr a gwerthwr y cartref dynnu allan o’r cytundeb heb wynebu unrhyw gostau difrifol. Darganfyddwch fwy am gamau olaf prynu eiddo.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cyn i chi gyfnewid contractau
Mae cyfnewid contractau yn rhwymol gyfreithiol, felly rhaid bod yn sicr eich bod eisiau bwrw ymlaen cyn llofnodi unrhyw beth.
Defnyddiwch ein rhestr wirio ddefnyddiol i sicrhau nad ydych wedi methu cam:
- gwiriwch fod y chwiliadau wedi eu cwblhau
- gwiriwch fod gennych eich cynnig morgais ar bapur
- gwiriwch fod gennych y cronfeydd ar gyfer blaendal eich morgais
- gwnewch yn siŵr eich bod wedi cytuno ar ddyddiad cwblhau ar gyfer y gwerthiant
- gwiriwch y contract fydd eich cyfreithiwr yn anfon atoch cyn ei lofnodi a’i ddychwelyd
- gofynnwch i’ch cyfreithiwr esbonio unrhyw amodau neu dermau nad ydych yn eu deall
- cadwch mewn cyswllt rheolaidd i atal unrhyw oedi wrth brosesu gwaith papur
- gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi ei gynnwys yn y cynnig, e.e. gosodiadau a ffitiadau, a’i gael ar bapur
- gwiriwch fod gennych gronfeydd ar gyfer blaendal daliant neu gontract os yw’r gwerthwr yn gofyn am un (fel arfer £500 i £1,000)
- os yw’r gwerthwr yn tynnu allan cyn i chi gyfnewid contractau, nid oes gennych unrhyw hawl cyfreithiol i adfer unrhyw gostau ganddo, er y gallwch gymryd yswiriant indemniad i dalu am unrhyw gostau a wastraffwyd – gall eich cyfreithiwr eich cynghori am hyn
- gwiriwch y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich cartref newydd - mae hyn yn graddio effeithlonrwydd ynni eich adeilad.
- os bydd gwerthwyr yn ceisio ail-drafod y pris prynu yn ystod y cam hwn, mynnwch gyngor gan eich cyfreithiwr a gofyn iddo eich helpu gyda’r trafodaethau
- trefnwch yswiriant adeiladau a gwnewch yn siŵr ei fod yn ddilys o’ch dyddiad cwblhau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Diogelu eich hun a’ch cartref
Cyfnewid contractau
Wrth gyfnewid contractau bydd y cyfreithiwr neu drawsgludwr yn darllen y contractau dros y ffôn mewn sgwrs wedi ei recordio.
Byddant yn sicrhau bod y contractau’r un fath ac yna’n eu postio i’w gilydd.
Unwaith y bydd contractau wedi eu cyfnewid, rydych wedi’ch rhwymo’n gyfreithiol i brynu’r eiddo. Y camau nesaf fydd:
- I roi gwybod i’r rhydd-ddeiliad (os yw’n eiddo prydlesol) mai chi yw’r perchennog newydd.
- Gwirio bod y cyfreithiwr/trawsgludwr wedi cofrestru trosglwyddiad perchnogaeth gyda’r gofrestrfa dir.
- Os yw’n bwrcasiad rhan o rydd-ddeiliad, bydd y cyfreithiwr yn trefnu cyhoeddi tystysgrif newydd.
Darllenwch ein canllaw ar sut i Chwilio am y cyfreithiwr neu drawsgludwr priodol
Dyddiad cwblhau
Dyma’r dyddiad pan fyddwch yn gallu symud i mewn i’ch cartref newydd.
Mae’r gwerthwr eiddo’n debygol o gadw’r allweddi i chi eu casglu.
- Ar y diwrnod cwblhau, bydd eich cyfreithiwr yn trefnu i drosglwyddo’r arian i gyfreithiwr y gwerthwr.
- Yn ddelfrydol, mae’r holl brynwyr a gwerthwyr yn y gadwyn yn cwblhau ar yr un diwrnod, fel arall efallai y bydd rhaid i chi aros i’r gwerthwr gwblhau prynu ei gartref newydd cyn y gallwch symud i mewn.
- Os oes gennych ran o rydd-ddaliad, gofynnwch i’ch cyfreithiwr neu drawsgludwr sut i gofrestru eich enw ar gofrestr y cwmni.
Faint o amser rhwng cyfnewid a chwblhau?
Prynu eiddo yn yr Alban
Os ydych yn prynu yn yr Alban, darllenwch ein llinell amser am brynu eiddo yn yr Alban.
Y prynwr a’r gwerthwr sy’n penderfynu ar faint o amser sydd angen rhwng cyfnewid a chwblhau. Mae’n wythnos fel rheol.
Weithiau bydd partïon eraill yn y gadwyn yn effeithio ar hyn. Er enghraifft, os yw’r gwerthwr yn aros i’r tŷ mae’n ei brynu ei hun fynd trwodd cyn symud allan.
Awgrymiadau ar gyfer paratoi i symud
- Gofynnwch i’r Post Brenhinol anfon eich post i’ch cyfeiriad newydd os ydych chi eisiau.
- Hysbyswch bawb eich bod wedi newid cyfeiriad – trwydded yrru, banciau, cwmni pensiwn, gwaith, cwmni ffôn symudol, ac ati.
- Cofrestrwch gyda chwmnïau gwasanaethau, cyflenwyr band eang, cyflenwyr dŵr ac ar gyfer y dreth gyngor.
- Cyn symud i mewn, gofynnwch i’r gwerthwyr ble mae’r prif dap cau a mesuryddion ynni a gwirio fod y gosodiadau a ffitiadau yn eu lle (os yn berthnasol).
- Gofynnwch am y llawlyfr cyfarwyddiadau ar gyfer unrhyw nwyddau trydanol maent yn gadael ar eu holau.
- Byddwch hefyd angen allweddi i’r drysau a’r ffenestri.
- Casglwch allweddi a glanhau’r eiddo cyn i’r cwmni symud gyrraedd.
- Os oes gennych blant ifanc ac anifeiliaid anwes, trefnwch i rywun eu gwarchod ar y diwrnod symud.
- Cadwch eitemau gwerthfawr, megis gemwaith, gyda chi.
- Paciwch flwch o hanfodion ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn eich cartref newydd. Gallai hyn gynnwys tegell, mygiau, coffi/te, papur tŷ bach, brwshys dannedd a phast dannedd.