Mulod arian – beth ydynt a phwy all fod yn ddioddefwr?
28 Mehefin 2021
Mae troseddwyr yn targedu pobl ifanc trwy Snapchat ac Instagram gan addo gallent ennill cannoedd o bunnoedd mewn munudau trwy ddod yn ful arian.
Er gall gwn ymddangos fel cynllun dod yn gyfoethog yn gyflym heb straen, mae gweithio fel mul arian yn anghyfreithiol a gall ariannu troseddau difrifol, a’i wneud yn anodd i chi cael mynediad i gredyd yn y dyfodol.
Pam fod poblyn chwilio am fulod arian?
Dull o wyngalchu arian yw defnyddio mul arian. Mae’n ffordd i droseddwyr gwneud eu henillion yn anodd ei olrhain. Fel arfer mae’n gweithio trwy ful arian yn cytuno i rannu eu manylion banc i alluogi arian cael ei roi yn y cyfrif fel ei bod yn gallu dilyn cyfarwyddiadau ac anfon yr arian i gyfrif banc arall. Mae twyllwyr yn aml yn targedu pobl heb hanes o droseddau i wneud y trosglwyddiad arian ymddangos yn llai amheus i fanciau. Ni fyddwch yn gwybod o ble mae’r arian yn dod, nac i ble mae’n mynd, ond gall cael ei ddefnyddio i ariannu cyffuriau, masnachu mewn plant neu hyd yn oed terfysgaeth.
Pwy sydd mewnperyg?
Yn ôl Sky News, mae pobl o dan 25 oed chwe gwaith mwy tebygol i ddioddef o droseddwyr yn defnyddio llwyfan cyfryngau cymdeithasol na phobl dros 50 oed. Yn erthygl BBCYn agor mewn ffenestr newydd mae “Holly” yn cyfaddef gwnaeth rhywun cysylltu â hi trwy Instagram a Snapchat i fod yn ful arian pan roedd hi ond yn 17 oed. Mae hi’n dweud roedd gweithio fel mul arian wedi cael ei normaleiddio cymaint yn ei chylch ffrindiau anghofiodd ei fod yn anghyfreithlon.
Yn 2017 darganfuwyd banciau’r DU 8,500 cyfrif mul arian a oedd wedi’u perchen gan bobl o dan 21 oed - gyda rhai wedi’u perchen gan bobl mor ifanc â 14 oed, yn ôl Cifas. Mae pobl ifanc yn dargedau perffaith i dwyllwyr, gan fod eu cyfrifon yn “lan” heb hanes o weithred troseddgar, ac efallai nad ydynt yn deall yr ôl-effeithiau posibl o gymryd rhan mewn sgâm fel hon.
Dywedodd un dioddefwr y cysylltwyd â hi i fod yn ful arian yn 15 oed “Doedd dim byd gen i yn fy nghyfrif banc, roeddwn i’n meddwl nad oedd gen i unrhyw beth i’w golli. Doedd dim modd iddynt ddwyn fy arian - doedd dim gen i.” Ond, ar ôl i’r banc sylweddoli’r trosglwyddiad mul arian cafodd ei chyfrif ei gau lawr, gwelodd hi ddim o’r arian ac roedd heb gerdyn debyd am fisoedd.
Beth ydy’r sgamwyr yn addo?
I gael pobl i gytuno i fod yn fulod arian, gall twyllwyr eich tynnu i mewn gyda’r addewid o arian hawdd gydag ychydig iawn o ymdrech.
Weithiau mae sgamwyr yn defnyddio hysbysiad swydd “gwneud arian o’ch cartref” amheus i hysbysu dod yn ful arian. Beth nad yw mulod arian yn clywed, yw pa mor hawdd yw hi i drosglwyddiad o’r fath gael ei ddal gan eich banc, a’r ôl-effeithiau posibl o gael eich dal yn ceisio gwyngalchu arian.
Sut ydych yn cael eich dal?
Mae’r gallu gyda’ch banc i dal eich cyfrif os ydynt yn sylwi ar unrhyw beth anarferol yn cymryd lle, sef beth ddigwyddodd i Holly pan geisiodd cwblhau ei throsglwyddiad mul arian. Roedd hi mewn cangen banc yn ceisio codi arian y sgamiwr pan ofynnodd staff y banc am fwy o wybodaeth am y cwmni a roddodd yr arian yn ei chyfrif.
Pan nad oedd hi’n gallu argyhoeddi staff y banc bod y trosglwyddiad yn ddilys roedd rhaid iddi adael y banc yn waglaw. Gan dargedu pobl ifanc i weithio fel mulod arian, gall troseddwyr fod yn ymbaratoi am fethiant gan roi symiau amheus o fawr i gyfrifon sydd fel arfer heb lawer o arian ynddynt. Caiff gweithgareddau fel hyn eu nodi’n awtomatig gan system adnabod twyll y banc a chaiff y cyfrif ei ddal.
Beth allddigwydd os cewch eich dal?
Os ydych yn caniatáu eich manylion personol i gael eu defnyddio am dwyll yn fwriadol gallech wynebu dedfryd carchar o 14 blynedd. Ond, mae’r Heddlu Metropolitanaidd wedi nodi maent yn ffocysu ar ddod o hyd i ac erlyn y rhai sy’n defnyddio mulod arian yn hytrach na’r rhai sy’n cael eu twyllo i ddod yn un.
Mae canlyniadau am weithio fel mul arian. Mae cyn mulod arian wedi cael eu cyfrifon banc wedi’u cau lawr, ac wedi ei chael yn anodd agor rhai newydd. Pan maent yn mynd i agor cyfrif newydd, trefnu benthyciad neu gael cerdyn credyd gall y cwmni gweld baner wrth eu henw a gall hwn ddylanwadu ar eu penderfyniad i’ch galluogi i gael mynediad at gredyd neu gyfrif newydd.
Beth ddylech eiwneud os yw rhywunyn ceisio eichdefnyddio fel mul arian?
Os yw rhywun yn cysylltu â chi trwy gyfryngau cymdeithasol, rhowch wybod bod y cyfrif yn gweithredu’n anghyfreithlon yn syth, a gobeithio bydd hwn yn osgoi rhywun arall yn ddioddef yn y dyfodol. Gallwch hefyd rhoi gwybod am weithgaredd troseddol a amheuir i ActionFraud. Beth bynnag byddwch yn ei wneud, peidiwch rannu manylion eich cyfrif gydag unrhyw un nad ydych yn ymddiried ynddynt.
Edrychwch ar Academi ScamYn agor mewn ffenestr newydd Financial Fraud Action UK i ddysgu mwy am y mathau o sgamiau, a sut i’w hosgoi.