Cyhoeddwyd ar:
22 Ebrill 2022
Os ydych yn newydd i’r DU o Wcráin, bydd angen agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn rheoli eich arian a thaliadau, hawlio budd-daliadau neu dderbyn cyflog os ydych yn dod o hyd i swydd. Bydd y canllaw hwn yn dangos sut i wneud hwn. Rydym yn deall gallech fod wedi eich llethu gyda llawer o wybodaeth newydd ar hyn o bryd, felly mae’r canllaw hwn i’ch helpu i ddeall sut i wneud cais am gyfrif banc a pha ddulliau adnabod (ID) byddwch angen.
Gyda’r rhan fwyaf o gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu, gallwch:
Pan geisiwch agor cyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu, byddant yn cynnig y math o gyfrif maent yn meddwl yw’r mwyaf addas.
Os na allwch agor cyfrif cyfredol safonol, efallai y gallwch agor cyfrif banc free-free sylfaenol yn lle.
Mae cyfrifon banc sylfaenol heb ffioedd yn cynnig llai o wasanaethau na chyfrif banc cyfredol safonol, ac nid oes modd defnyddio gorddrafft, a ni fyddwch yn cael llyfr siec.
Mae rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn caniatáu i chi gwneud cais uniongyrchol am gyfrif banc sylfaenol tra bod eraill dim ond yn cynnig cyfrif banc sylfaenol i gwsmeriaid nad ydynt yn gymwys am gyfrif banc cyfredol safonol.
Er ei fod yn ymddangos yn garedig, peidiwch â defnyddio cyfrif banc y DU neu gymdeithas adeiladu person arall, i arbed amser neu am reswm arall.
Yr unig ffordd i gael mynediad at eich arian i brynu beth rydych eisiau, pryd rydych eisiau, yw cael cyfrif banc eich hun.
Mae nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu'r DU bydd yn eich galluogi i agor cyfrif os ydych yn dod o Wcráin.
Dylech ddewis banc neu gymdeithas adeiladu sy’n addas ar eich cyfer. Pan rydych yn agor cyfrif banc, efallai bydd rhaid i chi ymweld mewn person, felly efallai y byddech am ffeindio banc neu gymdeithas adeiladu sydd gyda changen yn agos i le rydych yn byw dros-dro.
Os nad ydych yn siŵr gallwch ofyn i’ch noddwr eich helpu.
I agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, bydd rhaid i chi:
1. Sicrhau bod gennych gyfrif e-bost yn eich enw chi a rhif ffôn dilys er mwyn helpu’r banc i gyfathrebu gyda chi
2. Casglwch eich holl ddogfennau adnabod a fisa.
Bydd angen i chi darparu gwybodaeth bersonol. Dyma restr o’r hyn gall y banc neu gymdeithas adeiladu ofyn i weld:
Er mwyn agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU, bydd hefyd angen dangos tystiolaeth o ID. Efallai bydd y banc neu gymdeithas adeiladu yn gofyn i weld eich:
Y ffordd gyflymaf i brofi ID bydd eich pasbort a/neu eich trwydded breswylio biometreg (a anfonwyd gan Lywodraeth y DU). Gall rhai banciau a chymdeithasau adeiladu gofyn am dystiolaeth o’ch cyfeiriad.
Os nad oes gennych y dogfennau adnabod i gyd, cymerwch y wybodaeth sydd gyda chi i’r banc.
3. Gwneud cais am gyfrif mewn person mewn cangen banc neu gymdeithas adeiladu (efallai bydd angen trefnu apwyntiad), dros y ffôn, ar-lein neu trwy ap ffôn symudol y banc neu gymdeithas adeiladu. Os ydych yn mynd i mewn i gangen, dylech gymryd unrhyw ddogfennau perthnasol gyda chi. Efallai bydd angen lawrlwytho a llenwi ffurflen gais o wefan y banc neu gymdeithas adeiladu. Efallai y byddech am ofyn i’ch noddwr i’ch helpu i lenwi’r ffurflen a mynd gyda chi i’r banc neu gymdeithas adeiladu.
Dylai eich bod wedi derbyn canllaw croeso gan lywodraeth y DUYn agor mewn ffenestr newydd sydd yn esbonio sut i hawlio budd-daliadau, cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus hanfodol a gofal iechyd a mwy.
Gallwch hefyd lawrlwytho’r canllaw yma yn Saesneg, Wcreineg a RwsiegYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.