Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Canllaw i Daliadau Costau Byw DWP 2023-24

Cyhoeddwyd ar:

Mae'r llywodraeth yn gwneud taliadau i rai cartrefi i helpu gyda'r prisiau ynni uchel a'r costau byw hanfodol. Mae'n werth darganfod a ydych yn gymwys ar gyfer y Taliadau Costau Byw hyn a'r hyn y gallech ei gael.

Beth yw Taliadau Costau Byw

Er mwyn eich helpu i fforddio biliau bwyd a chadw'r goleuadau ymlaen wrth i brisiau barhau i godi, mae'r llywodraeth yn gwneud taliadau uniongyrchol i filiynau o gyfrifon pobl.

Os ydych ar incwm isel ac ar fudd-daliadau prawf modd, rhoddir yr arian yn awtomatig yn eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Bydd rhai pobl ar fudd-daliadau prawf modd yn derbyn taliadau hyd at £900, a delir mewn tri rhandaliad yn y gwanwyn, yr hydref a gwanwyn 2024.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer:

  • £300 os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth ar ben eich Taliad Tanwydd Gaeaf arferol.
  • £150 i bobl ar rai budd-daliadau anabledd a delir yn yr haf.

Pwy sy'n gymwys i gael Taliadau Costau Byw 2023

Efallai y bydd gennych hawl i hyd at dri Thaliad Costau Byw os ydych yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r credydau treth canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith.

Dyddiadau allweddol ar gyfer Taliadau Costau Byw 2023

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â hawl i gael y taliad yn cael:

  • £301 wedi’i dalu rhwng 25 Ebrill 2023 a 17 Mai 2023 os ydych ar fudd-daliadau DWP
  • £301 wedi’i dalu rhwng 2 a 9 Mai 2023 os ydych yn cael credydau treth yn unig
  • £300 wedi'i dalu rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd os ydych yn cael budd-daliadau DWP
  • £300 wedi'i dalu rhwng 10 a 19 Tachwedd os mai dim ond credydau treth a gewch
  • £299 wedi’i dalu yn ystod gwanwyn 2024.

 

Pethau eraill i ofalu amdanynt

Os ydych yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith, byddwch yn derbyn Taliad Costau Byw am Gredyd Treth Plant yn unig, a fydd yn cael ei dalu gan CThEF.

Os ydych yn cael credydau treth gan CThEF a budd-dal incwm isel gan DWP, ni allwch gael Taliad Costau Byw gan CThEF a'r DWP. Fel arfer byddwch yn cael eich talu gan DWP yn unig.

Gwiriwch eich hawliau

Os ydych yn cael trafferth gyda chostau byw ac ar incwm isel, mae'n werth gwirio nad ydych yn colli allan ar unrhyw fudd-daliadau sy'n gymwys ar gyfer Taliadau Costau Byw gan y gellir eu hôl-ddyddio.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i gyfrifo'n gyflym beth allech chi ei hawlio.

Tagiau
Budd-daliadau Pob postiadau blog Biliau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.