Sut dwi’n siarad â fy mhlant am y cynnydd yng nghostau byw
Last updated:
11 Tachwedd 2022
Mae Ricky yn flogiwr sydd wedi ennill sawl gwobr sy’n rhedeg y wefan arbed arian, ynghyd â’i wraig Naomi Willis, Skint Dad – lle maent yn dysgu eu dilynwyr sut y gallant wneud i bob ceiniog gyfrif.
Blog arian: Skint DadYn agor mewn ffenestr newydd
“Talwch amdano ar eich cerdyn, Dadi,” awgrymodd fy merch ieuengaf pan ddywedais nad oedd gen i’r arian i dalu am beth bynnag yr oedd hi ei eisiau.
Wrth ystyried bod y rhan fwyaf o bryniadau nawr yn golygu trosglwyddo rhifau o un cyfrifiadur i un arall, ac rydych yn anaml yn gweld arian yn diflannu o’ch pwrs, nid yw’n hawdd dangos plant pa mor gyflym mae arian yn mynd.
Dal, rydw i’n ffeindio bod adegau fel hyn yn amser perffaith i siarad am arian gyda phlant. Mae’n rhoi enghreifftiau bywyd go iawn iddynt i atal gorwario, sut i gyllidebu neu hyd yn oed y gwahaniaethau rhwng arian parod a chredyd.
Ac mae bob tro rhywbeth yn digwydd na allwn ni rheoli o gwmpas arian a chyllid, yn benodol nawr gyda chostau byw yn dod yn uwch ac yn uwch. Mae sôn am ryfel a’i effaith ar brisiau bwyd a thanwydd dros y newyddion i gyd.
Mae hwn yn eich galluogi i siarad am filiau ynni a’i wneud yn berthnasol i bethau maent wedi eu gweld. Yn dibynnu ar eu hoedran, gallwn drafod sut mae debyd uniongyrchol yn gweithio, debyd a chredyd ar filiau yn ystod gwahanol amseroedd o’r flwyddyn, yn ogystal â sut i dorri’n ôl ar ddefnydd (fel bod gennym fwy o arian yn weddill i brynu losin (yn bendant yn bwysig i’r ieuengaf!).
Gyda siopa bwyd, rydym yn gofyn iddynt feddwl am syniadau am brydau teulu , gosod cyllideb, ac adio i fyny faint rydym yn ei wario. Nid oes rhaid iddo gymryd lle mewn archfarchnad hyd yn oed. Gall cael plant i helpu gyda siop ar-lein neu ddefnyddio teclynnau cymharu fel trolley.co.uk eu helpu i weld sut i siopa am fargeinion. Rydw i wedi ffeindio ei fod yn haws i gael plant iau i gynllunio un hoff bryd o fwyd gan fod llai iddynt siopa amdano a llai i adio i fyny. Wedyn, mis ar ôl, rydym yn prynu’r un bwydydd a’n gwirio derbynebau i weld faint mae prisiau’n newid.
Gall dod ag arian i fyny ar hap mewn sgwrs fod ychydig yn rhyfedd, ond gallwch godi sgyrsiau i’w dysgu ar hyd y ffordd. Mae hyd yn oed gan Monopoly fersiwn digidol nawr lle rydych yn defnyddio cerdyn banc yn lle arian parod i brynu eiddo, sydd yn eu barn nhw’n fwy perthnasol i sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwario arian heddiw.
Tra gallwn wneud pethau ymarferol i ddangos ein plant sut i gyllidebu a bod yn ddoeth ag arian, rydym yn gweld bod cael sgyrsiau â phlant yn rheolaidd yn helpu i dorri lawr unrhyw dabŵ mor gynnar â phosibl.