Use Buy Now Pay Later agreements wisely
Buy Now Pay Later (BNPL) can seem like the easiest way to pay for your purchases. However, lots of people don’t realise they are a form of credit. So there are things you need to watch out for, especially if you’re starting to use these products to cope with the increased cost of living.
Follow these steps to work out what you need to do
Give yourself time to think before you buy
BNPL is often presented as the easiest way to pay at the checkout, allowing you to buy something with just one or two clicks.
The transaction may be so seamless you are not even aware you have chosen to pay in this way. Or you may be encouraged to choose BNPL over other payment methods. For example, you’ll be offered a further discount if you choose to pay using BNPL.
This means you might not give yourself enough time to think about whether you need what you’re buying and how you’re paying for it, or you may be tempted by discounts to buy something you don’t really need.
Think carefully about using BNPL by reading our guide on how these agreements work
Check the terms and conditions
The small print about what you’re signing up for could be buried somewhere else on the website. It may be hard to work out what repayment plan you’ve taken out or whether it’s best for your needs.
It’s important to make sure you check the terms and conditions rather than simply tick a box without reading them.
Things to watch out for include:
- penalties or late fees if you miss a payment
- what the repayment terms are (they can differ between products)
- what your provider will do if you can’t afford to pay
- whether your provider does a hard or soft credit check before you take out credit
- whether your provider reports your purchases and any missed payments to a credit reference agency.
Before borrowing, read our guide on how to work out a repayment plan
Keep track of your BNPL purchases
Keeping a record of how much you’ve spent and when your payments are due is vital to avoid additional charges on BNPL agreements, particularly if you have more than one agreement on the go.
Make sure you include this payment in your budget to keep track and ensure you pay on time.
Some BNPL providers offer you access to your account via their website or an app to help you keep track.
Track your repayments with the help of our Budget Planner
Stay on top of payments
Providers should contact you before payment is due, most will do this but because they aren’t regulated by the Financial Conduct Authority, they don’t have to.
Check your payment card is in date until the last payment is made. If it expires while you’re paying off a BNPL purchase, you will miss a payment. It’s up to you to tell your provider about your new card details.
Use your debit card to make repayments. Making repayments with a credit card means you will only push the debt further down the line. This is a problem if you can’t afford it and a sign you could be heading towards problem debt.
Use our bill prioritiser to get the help you need before you miss a payment
What to do if you’re going to miss a payment
If you don’t keep up with your repayments, you can be charged a penalty fee (for example, LayBuy, ClearPay, PayPal Pay in 3) or the payment can be rolled into the next one (Klarna).
If you are still unable to make payments, some BNPL providers will pass your debt on to a debt collection agency to collect payments.
It’s important you talk to your BNPL provider before you miss a payment.
Steps to take as soon as you think you may fall behind on your Buy Now Pay Later repayments
Find out what to do if you’re borrowing from family or friends
Defnyddio cytundebau Prynu Nawr Talu Wedyn yn ddoeth
Gall Prynu Nawr Talu Wedyn (BNPL) ymddangos fel y ffordd hawsaf i dalu am eich pryniannau. Fodd bynnag, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli eu bod yn fath o gredyd. Felly mae yna bethau y mae angen i chi fod yn ofalus ohono, yn enwedig os ydych yn dechrau defnyddio’r cynhyrchion hyn i ymdopi â'r costau byw cynyddol.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud
Rhowch amser i chi eich hun feddwl cyn prynu
Cyflwynir BNPL yn aml fel y ffordd hawsaf i dalu wrth y ddesg dalu, gan ganiatáu i chi brynu rhywbeth gyda dim ond un neu ddau glic.
Gall y trafodiad fod mor ddi-dor nad ydych hyd yn oed yn ymwybodol eich bod wedi dewis talu fel hyn. Neu efallai y byddwch yn cael eich annog i ddewis BNPL dros ddulliau talu eraill. Er enghraifft, byddwch yn cael cynnig gostyngiad pellach os ydych yn dewis talu gan ddefnyddio BNPL.
Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn rhoi digon o amser i chi'ch hun i feddwl a oes angen yr hyn rydych yn ei brynu a sut rydych yn talu amdano, neu efallai y byddwch yn cael eich temtio gan ostyngiadau i brynu rhywbeth nad oes wir ei angen arnoch.
Meddyliwch yn ofalus am ddefnyddio BNPL drwy ddarllen ein canllaw ar sut mae'r cytundebau hyn yn gweithio
Gwirio'r telerau ac amodau
Gallai'r print bach am yr hyn rydych yn cofrestru ar ei gyfer fod yn rhywle arall ar y wefan. Efallai y bydd yn anodd gweithio allan pa gynllun ad-dalu rydych wedi'i gymryd allan neu os mai hwn yw’r peth gorau am eich anghenion.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gwirio'r telerau ac amodau yn hytrach na dim ond ticio blwch heb eu darllen.
Y pethau i'w gwylio amdanynt yw:
- cosbau neu ffioedd hwyr os ydych yn colli taliad
- beth yw'r telerau ad-dalu (gallant fod yn wahanol rhwng cynhyrchion)
- beth fydd eich darparwr yn ei wneud os na allwch fforddio talu
- a yw eich darparwr yn gwneud gwiriad credyd caled neu feddal cyn i chi gymryd credyd
- a yw eich darparwr yn adrodd am eich pryniannau ac unrhyw daliadau a fethwyd i asiantaeth cyfeirio credyd.
Cyn benthyca, darllenwch ein canllaw ar sut i weithio allan cynllun ad-dalu
Cadw golwg ar eich pryniannau BNPL
Mae cadw cofnod o faint rydych wedi'i wario a phryd fydd angen talu yn hanfodol er mwyn osgoi taliadau ychwanegol ar gytundebau BNPL, yn enwedig os oes gennych fwy nag un cytundeb ar yr un pryd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y taliad hwn yn eich cyllideb i gadw golwg a sicrhau eich bod yn talu ar amser.
Mae rhai darparwyr BNPL yn cynnig mynediad i'ch cyfrif drwy eu gwefan neu ap i'ch helpu i gadw cofnod.
Cadw golwg ar eich ad-daliadau gyda chymorth ein Cynllunydd Cyllideb
Cadw ar ben Taliadau
Dylai darparwyr gysylltu â chi cyn y bydd y taliad yn ddyledus, bydd y rhan fwyaf yn gwneud hyn ond oherwydd nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, nid oes rhaid iddynt wneud hynny.
Gwiriwch fod eich cerdyn talu o fewn dyddiad tan i'r taliad olaf gael ei wneud. Os yw'n dod i ben tra eich bod yn talu pryniant BNPL, byddwch yn colli taliad. Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth eich darparwr am fanylion eich cerdyn newydd.
Defnyddiwch eich cerdyn debyd i wneud ad-daliadau. Mae gwneud ad-daliadau gyda cherdyn credyd yn golygu y byddwch ond yn cymryd hirach i dalu’r ddyled. Mae hyn yn broblem os na allwch ei fforddio ac yn arwydd y gallai eich arwain at broblem ddyled.
Defnyddiwch ein blaenoriaethwr biliau i gael yr help sydd ei angen arnoch cyn i chi fethu taliad
Beth i'w wneud os ydych yn mynd i fethu taliad
Os nad ydych yn cadw i fyny â'ch ad-daliadau, gellir codi ffi gosb arnoch (er enghraifft, LayBuy, ClearPay, PayPal Pay yn 3) neu gellir cyfuno'r taliad â'r un nesaf (Klarna).
Os nad ydych yn gallu gwneud taliadau o hyd, bydd rhai darparwyr BNPL yn trosglwyddo eich dyled i asiantaeth casglu dyledion i gasglu taliadau.
Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch darparwr BNPL cyn i chi fethu taliad.
Camau i'w cymryd cyn gynted ag y credwch y gallwch ddisgyn ar ei hôl hi ar eich ad-daliadau Prynu Nawr Talu Wedyn
Darganfyddwch beth i'w wneud os ydych yn benthyg gan deulu neu ffrindiau