Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Coronafeirws, ffyrlo a bod yn cyflogai

Er bod y cynllun ffyrlo wedi dod i ben, mae cefnogaeth ar gael ichi o hyd os yw'ch swydd mewn perygl, eich bod yn sâl, neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu.

Os ydych yn poeni am golli eich swydd

Gall wynebu colli swydd fod yn amser llawn straen, ond mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i baratoi.

I fod â hawl i dâl diswyddo, fel rheol bydd angen i chi fod gyda chwmni am o leiaf dwy flynedd. Fodd bynnag, os oes gennych hawl i dâl diswyddo, gall hyn fod yn help nes eich bod yn ôl ar eich traed.

Os ydych yn wynebu cael eich diswyddo yn ystod eich prentisiaeth, mae'r llywodraeth wedi lansio gwasanaeth newydd sy'n cynnig cyngor am ddim ac a all eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd newydd.

Darganfyddwch fwy am gymorth diswyddo i brentisiaidYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Diswyddiadau, ffyrlo ac oriau llai

Os gofynnwyd i chi gymryd absenoldeb di-dâl, a bod eich contract yn caniatáu i chi fod yn ddi-dâl yn ystod y cyfnod hwn, efallai y gallwch hawlio Tâl Gwarant.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith dull newydd ac, os ydych angen help â chostau eraill, Credyd Cynhwysol.

Galluogodd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, neu gynllun ffyrlo, cyflogai nad oeddent yn gallu gweithio oherwydd y pandemig i barhau i dderbyn hyd at 80% o’u cyflog. Daeth y cynllun ffyrlo i ben ym mis Medi 2021.

Darganfyddwch fwy am ddiswyddiadau a gweithio amser byr ar wefan GOV.UK.

Os oes gennych hawl i dâl salwch

Mae eich hawl i Dâl Salwch Statudol (SSP) yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a’ch enillion.

Os ydych yn weithiwr cyflogedig ac yn ennill mwy na £123 yr wythnos

Os ydych yn weithiwr cyflogedig ac yn ennill o leiaf £123 yr wythnos, byddwch yn gallu cael £99.35 yr wythnos am hyd at 28 wythnos. Os yw’n gysylltiedig â choronafeirws neu unrhyw salwch arall, yna bydd yn cael ei dalu o’r pedwerydd diwrnod.

Os ydych wedi cael eich talu SSP yn yr wyth wythnos diwethaf a ddechreuodd ar ddiwrnod cyntaf eich salwch, byddwch yn cael eich talu o ddiwrnod cyntaf eich salwch.

Mae gan rai cyflogwyr gynlluniau tâl salwch cytundebol mwy hael. Mae’n werth gwirio’ch cytundeb, llawlyfr staff neu â’ch cyflogwr.

Os yw eich cyflogwr yn gwrthod talu SSP i chi

Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd yn talu costau SSP i gyflogwyr llai, felly ni ddylai gwneud cais amdano fod yn broblem. Os oes gennych broblem;

Cysylltwch â thîm anghydfod taliadau statudol Cyllid a Thollau EM:

Ffôn: 03000 560 630

Ffôn testun: 0300 200 3212

Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5pm, Dydd Gwener 8.30am 4.30pm.

Os ydych yn weithiwr cyflogedig ac yn ennill llai na £123 yr wythnos

Os ydych yn gyflogedig ond mae eich enillion yn rhy isel i hawlio SSP, efallai y gallech hawlio Credyd Cynhwysol os yw incwm eich cartref yn isel ac mae gennych chi a’ch partner gynilion o lai na £16,000. Gallwch wneud hyn ar-lein.

Peidiwch ag oedi cyn gwneud cais am fudd-daliadau, hyd yn oed os ydych yn meddwl y gallech fod wedi cael eich effeithio gan goronafeirws.

Fodd bynnag, os ydych eisoes yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol, ac mae angen arnoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol oherwydd coronafeirws, gwiriwch â gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth cyn gynted â phosibl.

  • Budd-dal Tai
  • Credydau Treth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Gallwch ddarganfod sut y gallent gael eu heffeithio ac i gael cyngor am eich sefyllfa. Os ydych eisiau gwneud cais am Gredyd Cynhwysol os yn byw yn yr Alban ewch i wefan Citizens Advice Scotland.

Darganfyddwch fwy am goronafeirws a’ch hawliau yn y gwaithYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan ACAS.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, dylech ymweld â’r Labour Relations AgencyYn agor mewn ffenestr newydd

 

Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu

Mae gennych hawl hefyd i gymryd amser i ffwrdd i ofalu am ddibynnydd. Nid oes unrhyw reolau am faint o amser y gallwch ei gymryd a dylech siarad â’ch cyflogwyr am eich opsiynau. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd amser i ffwrdd fel gwyliau.

Dysgwch fwy am gymryd amser i ffwrdd i ofalu am ddibynnyddYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan ACAS.

Darganfyddwch fwy am hawliau i ofalwyr ar sawl sy'n glinigol hynod fregusYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Working Families.

Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn am weithio hyblyg, fel lleihau neu newid eich oriau gwaith ac amser i ffwrdd os oes argyfwng.

Darganfyddwch fwy am eich hawliau os ydych yn ofalwrYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.

Mae’n bwysig eich bod yn dod i gytundeb â’ch cyflogwr cyn penderfynu peidio â throi i fyny i’r gwaith gan y gellir trin hyn fel absenoldeb heb ganiatâd.

Taliad Cymorth Profi ac Olrhain

O 24 Chwefror 2022, nid yw’r Taliad Cymorth Profi ac Olrhain bellach ar gael os ydych yn byw yn Lloegr.

Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon a dywedir wrthych am hunanynysu, gallwch barhau i gael cymorth os na allwch weithio gartref ac rydych yn hawlio:

  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn, neu
  • Budd-dal Tai.

Yn yr Alban, mae hwn yn cael ei alw’n Self-Isolation Support Grant ac mae'n werth £500.

Yng Nghymru, fe'i gelwir yn daliad hunanynysu ac mae'n werth £750.

Yng Ngogledd Iwerddon, fe'i gelwir yn Discretionary Support Self-Isolation Grant, a gallwch ddarganfod mwy amdano ar wefan NI Direct (Opens in a new window)

Eich awdurdod lleol fydd yn gwneud y taliad hwn.

Bydd rhaid i chi ddangos prawf o’ch cyflogaeth i fod yn gymwys, a bydd gwiriadau’n cael eu cynnal i gadarnhau nad ydych yn gallu gweithio gartref.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.