Mae rhaid i bob cyflogwr ymrestru gweithwyr cymwys yn awtomatig i gynllun pensiwn gweithle bellach a chyfrannu ato. Mae hon yn ffordd hawdd o ddechrau cynilo ar gyfer ymddeol. Darganfyddwch beth i'w ddisgwyl gan ymrestru awtomatig.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Mae’n debygol y bydd eich cyflogwr yn eich ymrestru mewn cynllun pensiwn gweithle
- Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd
- Pa gyfraniadau y bydd angen i mi eu talu?
- Beth sy’n digwydd nesaf
- Mae rhaid i’ch cyflogwr ganiatáu i chi optio allan os dymunwch
- Beth na all eich cyflogwr ei wneud
- Beth os nad yw fy nghyflogwr yn dilyn y rheolau?
Mae’n debygol y bydd eich cyflogwr yn eich ymrestru mewn cynllun pensiwn gweithle
Mae’n ofyniad cyfreithiol i’ch cyflogwr eich ymrestru mewn cynllun pensiwn gweithle a gwneud cyfraniadau ato, os ydych:
- yn gweithio yn y DU
- rhwng 22 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn
- heb fod yn rhan o gynllun pensiwn addas eisoes.
Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys ar gyfer ymrestru awtomatig, y mae gennych yr hawl i ymuno â chynllun pensiwn gweithle o hyd, os gofynnwch.
Ac, yn dibynnu ar eich enillion, efallai y bydd angen i’ch cyflogwr gyfrannu ato o hyd.
Darganfyddwch fwy am gofrestru awtomatig os ydych yn ennill £10,000 neu lai y flwyddyn
Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd
Pan fyddwch yn ymuno, bydd eich cyflogwr yn darparu esboniad ysgrifenedig o sut yn union fydd ymrestru awtomatig yn effeithio arnoch.
Bydd hyn yn aml mewn llythyr, ond gallai rhai cyflogwyr ddefnyddio dulliau eraill – ebost, er enghraifft.
Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych:
- pa fath o bensiwn ydyw
- pan gewch eich ymrestru
- pwy sy’n gweithredu’r pensiwn rydych yn cael eich ymrestru ar ei gyfer
- sut i optio allan os nad ydych am ymuno â’r cynllun
- lefel y cyfraniadau y byddwch chi a’ch cyflogwr yn talu i’r pensiwn.
Os nad ydych yn bodloni’r holl feini prawf i gael eich ymrestru’n awtomatig, bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi:
- fod gennych yr hawl i ymuno
- a fydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau i’ch pensiwn neu beidio.
Pa gyfraniadau y bydd angen i mi eu talu?
Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych pa gyfraniadau y bydd angen i chi eu talu os ydych wedi ymrestru'n awtomatig neu'n dewis optio i mewn.
Mae lleiafswm y mae rhaid i'ch cyflogwr ei dalu i mewn i'r cynllun. Mae'r rhain yn dibynnu ar y diffiniad o enillion y mae'ch cyflogwr yn eu defnyddio i seilio cyfraniadau arno. Byddant fel arfer yn tynnu rhai o'r rhain o'ch enillion.
Wrth sefydlu cynlluniau pensiwn, mae cyflogwyr fel arfer yn seilio cyfraniadau ar ‘enillion cymwys’. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau ymrestru awtomatig. Bob blwyddyn dreth, adolygir y ffigurau enillion. Y ffigurau ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24 yw enillion rhwng £6,240 a £50,270.
Gan dybio bod eich cyflogwr yn defnyddio enillion cymwys i gyfrifo cyfraniadau, mae'r cyfraddau isaf fel a ganlyn:
Isafswm cyfraniadau yn seiliedig ar enillion cymwys | % |
---|---|
Cyflogwr |
3% |
Gweithiwr |
4% |
Rhyddhad treth gan y llywodraeth |
1% |
Cyfanswm |
8%
|
Bydd eich cyflogwr yn gosod y canrannau y mae angen i chi eu talu – gan ystyried yr isafsymiau canran a nodir uchod. Ond gallant osod lefel uwch – bydd angen i chi wirio â'ch cyflogwr .
Efallai y bydd eich cyflogwr yn defnyddio diffiniad gwahanol o enillion, a all arwain at gyfraddau cyfrannu gwahanol. Unwaith eto, bydd angen i chi wirio â'ch cyflogwr.
A fyddaf yn cael rhyddhad treth ar fy nghyfraniadau?
A ydych yn ennill llai na'r lwfans personol (£12,570 yn y flwyddyn dreth 2023/24) – ac felly ddim yn talu treth? Yna ni chewch ryddhad treth os yw eich cyflogwr yn gweithredu cynllun ‘tâl net’.
Os yw eich cynllun gweithle yn gweithredu o dan ‘rhyddhad yn y ffynhonnell’, cewch ryddhad treth sylfaenol (20%) ar eich cyfraniadau. Mae hyn waeth beth yw lefel eich cyflog – er y bydd angen i drethdalwyr cyfradd uwch hawlio unrhyw ryddhad treth ychwanegol.
Os yw hyn yn effeithio arnoch, gallwch wirio â'ch cyflogwr pa fath o gynllun y mae'n ei gynnig ac a fyddent yn barod i newid i gynllun rhyddhad yn y ffynhonnell. Byddwch yn ymwybodol bod rhaid i'ch cyflogwr ddefnyddio'r un dull ar gyfer holl weithwyr y cynllun.
Ni allaf fforddio fy nghyfraniadau 5% - a gaf ddewis lleihau fy nghyfraniadau?
Mae p'un a yw'r opsiwn hwn ar gael yn dibynnu ar eich trefniant unigol. Bydd angen i chi drafod hyn â'ch cyflogwr.
Os ydych yn gallu lleihau eich cyfraniadau a bod cyfanswm y cyfraniadau yn disgyn o dan 8% - ni fyddwch bellach mewn cynllun ymrestru awtomatig cymwys. Bydd hyn yn sbarduno'r broses ailymrestru .
Mae hyn yn golygu bod rhaid i'ch cyflogwr eich ailymrestru yn awtomatig os ydych yn weithiwr cymwys. Mae hyn yn digwydd oddeutu bob tair blynedd os nad ydych yn aelod o gynllun cymwys.
Beth sy’n digwydd nesaf
Os ydych yn cael eich ymrestru’n awtomatig, oni bai eich bod am optio allan nid oes angen i chi wneud dim.
Bydd rhaid i’ch cyflogwr wneud o leiaf y cyfraniadau lleiaf sydd eu hangen at eich pensiwn.
Fel arfer bydd rhaid i chi dalu i mewn hefyd – cesglir eich cyfraniadau o’ch pecyn cyflog.
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer ymrestru awtomatig, bydd rhaid i chi benderfynu ar y camau nesaf. Os ydych am ymuno â chynllun pensiwn gweithle – dywedwch wrth eich cyflogwr. Ni all wrthod eich cais.
Mae rhaid i’ch cyflogwr ganiatáu i chi optio allan os dymunwch
Os ydych yn cael eich ymrestru’n awtomatig, bydd y llythyr a dderbyniwch gan eich cyflogwr yn egluro sut i optio allan o’r pensiwn.
Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen i wneud hyn. Ond mae rhai cynlluniau pensiwn yn caniatáu i chi optio allan ar-lein neu ar y ffôn .
Bydd eich cyflogwr yn dweud wrthych pwy sydd angen i chi gysylltu â hwy. Ond ni chaniateir iddo ddelio â’r broses ar eich rhan – er enghraifft, trwy roi ffurflen optio allan i chi.
Mae hyn er mwyn atal cyflogwyr rhag annog eu gweithwyr i optio allan.
Os byddwch yn optio allan o fewn un mis o ymuno, bydd eich cyflogwr yn ad-dalu unrhyw arian rydych wedi’i dalu i mewn i’r cynllun pensiwn.
Os byddwch yn optio allan yn nes ymlaen, fel arfer bydd yr arian yn aros yn y cynllun pensiwn tan y byddwch yn ymddeol.
Os byddwch yn optio allan, mae angen i’ch cyflogwr eich ymrestru’n awtomatig i’w cynllun eto bob tair blynedd, os ydych yn dal i fod yn gymwys ar gyfer ymrestru awtomatig bryd hynny
Beth na all eich cyflogwr ei wneud
Ni all eich cyflogwr optio allan o’i ddyletswyddau ymrestru awtomatig. Yn ogystal, er bod gennych yr hawl i optio allan o’ch cynllun pensiwn gweithle, ni all eich cyflogwr:
- eich gorfodi neu’ch annog i optio allan, neu
- eich trin yn anffafriol am beidio ag optio allan.
Mae’r un egwyddor yn gymwys yn ystod y broses recriwtio.
Os ydych yn ymgeisio am swydd, ni all eich cyflogwr newydd posibl awgrymu eich bod yn fwy tebygol o gael eich cyflogi os ydych yn optio allan o’i gynllun pensiwn.
Beth os nad yw fy nghyflogwr yn dilyn y rheolau?
Y Rheoleiddiwr Pensiynau
Darganfyddwch fwy ar wefan Y Rheoleiddiwr Pensiynau Neu ffoniwch hwy ar 0345 600 7060
Mae'ch cyflogwr yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau cyfreithiol ymrestru'n awtomatig. Os na wnânt hynny, gallant wynebu camau gorfodi a dirwyon.
A yw'ch cyflogwr yn hwyr yn delio â'i ddyletswyddau ymrestru awtomatig? Yna mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn disgwyl iddynt wneud iawn am unrhyw gyfraniadau a gollwyd. Bydd hyn yn eich rhoi yn y sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe byddent wedi cydymffurfio mewn pryd. Mae hyn yn cynnwys ôl-ddyddio cyfraniadau i'r diwrnod y gwnaethoch fodloni'r meini prawf gyntaf i'w rhoi mewn cynllun.
Wrth ôl-ddyddio cyfraniadau, mae rhaid i'ch cyflogwr dalu'r holl gyfraniadau cyflogwr di-dâl ac mae rhaid i chi dalu'ch un chi. Mae hyn oni bai bod eich cyflogwr yn dewis eu talu ar eich rhan.
Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn delio â phensiynau gweithle yn y DU. Gallant ymchwilio i bryderon os nad yw'ch cyflogwr yn dilyn y rheolau neu os ydych yn colli cyfraniadau oddi wrthynt.
Os oes gennych bryderon, y peth gorau fydd siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf. Os ydych yn teimlo y gallwch – ceisiwch ddatrys y mater â hwy'n uniongyrchol .
Os ydych wedi rhoi cynnig ar hynny a'ch bod yn dal i bryderu, mae gan y Rheoleiddiwr Pensiynau gwasanaeth cyhuddo.
Coronafeirws a’ch pensiwn
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am goronafeirws yn ein canllaw Coronafeirws a’ch pensiwn.