Mae'n bwysig bod gan eich darparwr y wybodaeth gywir amdanoch chi a'ch bod yn deall beth maent yn ei ddweud wrthych chi. Darganfyddwch beth rydych angen gwybod a phryd i ofyn cwestiynau am eich pensiwn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Deall eich pensiwn
Dylai darparwr eich cynllun pensiwn roi'r wybodaeth rydych ei hangen i ddeall eich pensiwn.
Ond gall pensiynau fod yn gymhleth. Felly os ydych yn ansicr am rywbeth, mae'n well gofyn am esboniad ysgrifenedig bob amser.
Mae angen i ddarparwyr pensiwn ddal llawer o wybodaeth i redeg eich cynllun pensiwn. Weithiau maent yn dibynnu ar sefydliadau eraill am y wybodaeth honno - er enghraifft, eich cyflogwr. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud camgymeriadau weithiau.
Dyma restr wirio ddefnyddiol wrth ddelio â gwybodaeth am eich pensiwn:
- Gallant fod yn gymhleth - felly peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau.
- Darllenwch y wybodaeth a anfonwyd atoch - gallai fod yn gyfle gwerthfawr i atal camgymeriad.
- Gallwch gael help gan eich darparwr pensiwn - a gennym ni - os ydych yn ansicr beth mae rhywbeth yn ei olygu.
- Os ydych yn gwneud cynlluniau sy'n effeithio ar, neu sy’n dibynnu ar, eich pensiwn - gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan eich darparwr pensiwn.
- Os ydych am i'ch darparwr pensiwn wneud unrhyw newidiadau - byddwch yn glir beth rydych am iddynt ei wneud a phryd. Mae'n bwysig dilyn i fyny, er mwyn sicrhau ei fod wedi ei wneud.
- Diweddarwch eich darparwr pensiwn neu gynllun pensiwn os oes unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt.
- Efallai y bydd adegau pan anfonir llawer o wybodaeth ar yr un pryd i chi. Mae yna resymau am hyn, ac mae llawer o'r hyn a anfonir atoch yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Eich pensiwn chi ydyw, felly mae angen i chi ddarllen yr hyn a anfonwyd atoch. Ond gallwn eich helpu i weithio allan beth mae'n ei olygu a pham mae'r darparwr wedi ei anfon atoch.
- Darllenwch y print mân bob amser.
- Cofiwch, nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion.
Gwneud cynlluniau
Ydych chi'n cynllunio'ch cyllid o amgylch eich cronfa bensiwn? Yna byddwch yn ymwybodol ei bod yn bwysig peidio â chymryd yn ganiataol mai'r wybodaeth a roddwyd i chi at bwrpas arall yw'r cyfan rydych ei angen i wneud eich cynlluniau. Er enghraifft, gwybodaeth a gawsoch pan ymunoch â'r cynllun neu yn eich datganiad blynyddol.
Mae hyn yn arbennig o wir o ran pethau y dywedwyd wrthych flynyddoedd yn ôl. Er enghraifft, canllaw y cynllun a gawsoch pan ymunoch, neu unrhyw ragamcanion buddsoddi a roddwyd i chi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth eich cynllun pensiwn neu'ch darparwr pensiwn beth rydych yn bwriadu ei wneud. Bydd hyn yn golygu y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf ganddynt yn ysgrifenedig sy'n berthnasol i'ch penderfyniad.
Er enghraifft, os gwnaethoch adael cynllun pensiwn cwmni beth amser yn ôl a'ch bod am dynnu ar y pensiwn yn gynnar. Yna bydd angen i chi gael dyfynbris ymddeol yn gynnar ar gyfer y dyddiad sydd gennych mewn golwg. Mae hefyd yn bwysig eu diweddaru gydag unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt.
Gwneud newidiadau i’ch pensiwn
Pan fyddwch eisiau gwneud newidiadau i'ch pensiwn, mae'n bwysig sicrhau bod eich darparwr yn glir beth rydych am ei wneud. Ac y byddant yn gallu gwneud yr hyn rydych yn ei ofyn o fewn amser rhesymol.
Er enghraifft, os ydych am newid eich buddsoddiadau, mae'n debyg y bydd angen i chi fod yn glir ynghylch enw'r gronfa fuddsoddi rydych am ei defnyddio. Bydd eich darparwr yn gallu rhoi rhestr i chi o'r cronfeydd y gallwch chi roi eich arian ynddynt gyda hwy.
Bydd angen i chi fod yn glir a ydych am symud arian sydd eisoes wedi'i fuddsoddi yn eich cronfa i'r gronfa newydd – neu ond eich taliadau yn y dyfodol i'r gronfa.
Neu, os ydych yn uno gwahanol gronfeydd i mewn i un - mae'n bwysig dweud wrth eich cwmnïau pensiwn am unrhyw derfynau amser mae angen iddynt eu cwrdd.
Gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn mynd ar drywydd eich darparwr pensiwn i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn rydych angen iddynt ei wneud. Mae'n syniad da eu cael i gadarnhau pan maent wedi cwblhau'r dasg. Gall eich ymgynghorydd ariannol, os ydych yn defnyddio un, eich helpu gyda hyn.
Gwybodaeth mae eich darparwr yn ei hanfon atoch
Bydd adegau pan fydd eich cynllun pensiwn neu ddarparwr yn anfon gwybodaeth atoch am eich pensiwn. Dyma gyfle i chi dynnu sylw at unrhyw gamgymeriadau.
Er enghraifft, bydd datganiad blynyddol fel arfer yn nodi gwybodaeth bersonol amdanoch chi - fel eich dyddiad geni. Gall camgymeriad gyda'r wybodaeth honno arwain at ganlyniadau mawr i'ch pensiwn.
Bydd manylion eich taliadau misol fel arfer ar eich datganiad blynyddol. Chwiliwch am unrhyw daliadau coll i'ch pensiwn - neu newidiadau i'r swm nad oeddech chi'n ei ddisgwyl.
Os credwch fod unrhyw un o'r manylion yn anghywir, cysylltwch â'ch cyflogwr neu weinyddwr y cynllun pensiwn cyn gynted ag y byddwch yn eu gweld.