Os ydych chi'n byw ac yn gweithio yn y DU, mae yna dair prif ffordd y gallech chi adeiladu pensiwn a all helpu i roi incwm i chi pan fyddwch chi'n ymddeol. Rhain yw'r Pensiwn y Wladwriaeth, pensiynau gweithle a'r rhai a sefydlwyd gennych chi'ch hun.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pensiwn y Wladwriaeth
Mae hwn yn daliad rheolaidd gan y llywodraeth. Gallwch ei gymryd pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.
I gael mwy o wybodaeth am sut y mae Pensiwn y Wladwriaeth yn gweithio, a phryd y gallech ei gael, ar ein tudalen Pensiwn y Wladwriaeth.
Pensiynau gweithle
Mae pensiwn gweithle yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad a drefnwyd gan eich cyflogwr.
Mae gwahanol fathau o bensiynau yn y gweithle y mae cyflogwyr yn eu defnyddio.
Darganfyddwch fwy ar ein tudalen Pensiynau gweithle
Bellach mae'n rhaid i'r mwyafrif o gyflogwyr gynnig pensiwn i'w gweithwyr o dan eu dyletswyddau ymrestru awtomatig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig – cyflwyniad
Pensiynau rydych chi'n eu sefydlu i chi'ch hun
Os nad ydych yn gyflogedig - ac felly nad oes gennych bensiwn gweithle - gallwch sefydlu'ch pensiwn eich hun.
Gallwch chi wneud hyn hefyd os ydych chi am gynilo ar gyfer eich ymddeoliad ac mae gennych chi un neu fwy bensiwn gweithle eisoes.
Mathau o gynllun pensiwn
Yn gyffredinol, mae dau fath gwahanol o bensiwn y gellir eu sefydlu yn y DU – pensiynau buddion wedi’u diffinio a phensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio.
Pensiwn buddion wedi’u diffinio
Mae hyn yn talu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych chi wedi gweithio i'ch cyflogwr.
Ymhlith y rhain mae cynlluniau pensiwn ‘cyflog terfynol’ a ‘chyfartaledd gyrfa’.
Yn gyffredinol, dim ond o gynlluniau pensiwn gweithle hŷn neu yn y sector cyhoeddus y mae'r rhain ar gael erbyn hyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu gyflog terfynol) wedi'u hesbonio
Pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae'r math hwn o gynllun pensiwn yn cronni cronfa bensiwn a all gael ei ddefnyddio i dalu incwm ymddeol i chi yn seiliedig ar faint rydych chi neu'ch cyflogwr yn ei gyfrannu (neu'r ddau) a faint mae hyn yn tyfu.
Gelwir y rhain hefyd yn gynlluniau ‘prynu arian’. Gallant fod yn bensiynau gweithle a phersonol.