Y lwfans oes yw'r terfyn ar faint y gallwch ei gronni mewn buddion pensiwn dros eich oes, tra’n parhau i fwynhau’r buddion treth llawn. Darganfyddwch beth mae'r newid diweddar yn ei olygu i chi.
Faint yw’r lwfans oes?
I’r rhan fwyaf o bobl, £1,073,100 yw’r lwfans oes ar gyfer y flwyddyn dreth 2023/24. Mewn blynyddoedd blaenorol, byddech wedi talu tâl lwfans oes ar unrhyw gynilion pensiynau dros y swm hwn. Ond o 6 Ebrill 2023 mae'r tâl hwnnw wedi cael ei dynnu. Yn lle, bydd rhai cyfandaliadau a fyddai wedi bod yn destun tâl lwfans oes yn destun Treth Incwm ar gyfradd ymylol y derbynnydd. Disgwylir i'r lwfans oes gael ei ddiddymu ym mis Ebrill 2024.
Disgwylir canllawiau swyddogol pellach ar y newidiadau hyn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023. Mae'n bwysig, lle mae gennych gyfanswm buddion pensiwn sy'n fwy na'r lwfans oes, eich bod yn gwirio sut mae'r newidiadau'n berthnasol i chi. Gallwch siarad â'ch darparwr pensiwn, ymgynghorydd ariannol rheoledig neu ein ffonio ar 0800 011 3797.
Mae’r lwfans yn berthnasol i’r cyfanswm o bensiynau sydd gennych, gan gynnwys gwerth pensiynau sydd gennych drwy:
- unrhyw gynlluniau buddion wedi’u diffinio (cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa) rydych yn aelod ohonynt,
- unrhyw gynilion sydd gennych mewn pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
- ond heb gynnwys eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Pryd y mae’n berthnasol?
Nid oes cyfyngiad ar faint rydych yn cronni mewn buddion pensiwn. Ond cynhelir gwiriadau ar adegau penodol i weld a yw gwerth eich buddion pensiwn yn fwy na'r lwfans oes.
Os ydych wedi cronni mwy na gwerth y lwfans oes pan gynhelir gwiriad, efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm - gwelwch yr adran isod Ffioedd a threthi os ydych yn mynd dros y lwfans oes sy'n esbonio pa daliadau sy'n destun i dreth.
Gwneir gwiriadau fel rheol:
- pan fyddwch yn dechrau cymryd pensiwn buddion wedi’u diffinio
- pan gymerwch incwm neu gyfandaliad o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (gwelwch yr enghreifftiau isod)
- os ydych yn trosglwyddo pensiwn dramor cyn 75 oed
- os byddwch yn cyrraedd eich pen-blwydd yn 75 oed a bod gennych bensiwn wedi’i dynnu i lawr neu nad ydych wedi cyffwrdd ag ef
- os byddwch farw cyn 75 oed a bod gennych bensiynau nad ydych wedi cyffwrdd â hwy
Ar ôl 75 oed, yn gyffredinol nid oes unrhyw wiriadau pellach yn erbyn y lwfans oes.
Gweithio allan a yw’n berthnasol i chi
Bob tro y byddwch yn dechrau cymryd arian o’ch cynlluniau, caiff ei werth ei gymharu yn erbyn y lwfans oes sydd gennych yn weddill i weld a oes treth ychwanegol i’w thalu.
Gallwch weithio allan a ydych yn debygol o gael eich effeithio drwy gyfrifo gwerth disgwyliedig eich pensiynau i weld a yw’n debygol iddynt fynd dros y lwfans oes.
Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol mai'r hyn sy'n bwysig yw gwerth eich pensiynau ar yr adeg y cynhelir y gwiriadau. Felly efallai y bydd angen i chi ystyried sut y gallai gwerth eich pensiynau newid rhwng nawr a'r amser rydych yn disgwyl i wiriad gael ei gynnal.
Er enghraifft, os ydych yn 55 nawr, ond ddim yn disgwyl dechrau tynnu unrhyw arian nes eich bod yn 60 oed, mae angen ystyried a allai gwerth eich pensiynau gynyddu rhwng nawr a phryd hynny. Os ydyw, bydd hyn yn defnyddio mwy o'r lwfans oes sydd ar gael i chi.
Gallwch gyfrifo gwerth pensiynau yn wahanol yn dibynnu ar y math o gynllun rydych ynddo:
Cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio
- Ar gyfer cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio, fel arfer rydych yn cyfrifo cyfanswm y gwerth trwy luosi'ch pensiwn blynyddol disgwyliedig ag 20.
- Mae angen i chi hefyd ychwanegu swm unrhyw gyfandaliad arian parod di-dreth ar wahân.
Er enghraifft, os yw'r pensiwn blynyddol y byddwch yn ei dderbyn yn £15,000 y flwyddyn ac y byddwch hefyd yn cael cyfandaliad di-dreth o £30,000 hefyd, gwerth y pensiwn hwnnw at ddibenion lwfans oes yw £330,000 (20 x £15,000 + £30,000).
Cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
- Ar gyfer cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, gan gynnwys yr holl bensiynau personol, y gwerth fydd y cyfanswm yn eich cronfeydd pensiwn.
- Os ydych mewn pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, mae nifer o ffyrdd i ddefnyddio'ch cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol. Cynhelir prawf bob tro y byddwch yn cael gafael ar arian o gronfa bensiwn nad ydych wedi ei gyffwrdd eto. Er enghraifft, fel rheol, gallwch gymryd hyd at 25% o'ch cronfa bensiwn fel cyfandaliad di-dreth. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r balans i brynu incwm gwarantedig neu'n sefydlu incwm ymddeol hyblyg. Mae hyn yn golygu y bydd gwiriad yn cael ei wneud yn erbyn cyfanswm gwerth y cronfa bensiwn rydych yn bwriadu ei gyrchu. Felly, os oedd y gronfa pensiwn yn £100,000 a'ch bod wedi cymryd 25% fel cyfandaliad di-dreth, dyna'r £100,000 cyfan sydd wedi'i brofi.
- Os cymerwch nifer o gyfandaliadau o’ch pensiwn, a elwir yn ‘Uncrystallised Funds Pension Lump Sum’, cyfanswm gwerth y cyfandaliad rydych yn ei dynnu’n ôl sy’n cael ei brofi yn hytrach na’r cronfa pensiwn cyfan. Felly, pe bai'r cronfa pensiwn yn £100,000 a'ch bod wedi cymryd cyfandaliad o £10,000 lle mae 25% yn ddi-dreth a'r 75% arall yn cael ei drethu fel enillion, dim ond y £10,000 fyddai'n cael ei brofi ar y pwynt hwn. Byddai'r £90,000 arall yn cael ei wirio'n ddiweddarach.
- Os ydych yn defnyddio'ch arian i sefydlu incwm ymddeol hyblyg (a elwir yn tynnu i lawr pensiwn), bydd unrhyw arian sydd gennych yn y pensiwn pan gyrhaeddwch 75 oed yn cael ei wirio eto. Os yw'r arian wedi tyfu felly mae'n fwy na'r hyn a oedd gennych pan wnaethoch symud i mewn i dynnu i lawr pensiwn (gan anwybyddu unrhyw gyfandaliadau di-dreth a gymerwyd gennych ar y pryd), bydd hyn yn defnyddio mwy o'ch lwfans oes.
Pensiynau sydd eisoes yn talu allan i chi
- Os ydych wedi cymryd unrhyw fuddion pensiwn cyn 6 Ebrill 2006, bydd angen ystyried y rhain y tro cyntaf y bydd gwiriad yn cael ei wneud yn erbyn y lwfans oes ar ôl 6 Ebrill 2006. Bydd hyn yn lleihau eich lwfans oes sydd ar gael. Am gynlluniau buddion wedi’u diffinio, byddwch fel arfer yn cyfrifo'r cyfanswm gwerth trwy luosi eich pensiwn blynyddol (ar adeg y gwiriad) â 25.
- Ar gyfer cynlluniau buddion wedi’u diffinio, fel arfer rydych yn cyfrifo cyfanswm y gwerth trwy luosi'ch pensiwn blynyddol (ar yr adeg y cynhelir y gwiriad) â 25.
- Os oes gennych arian mewn pensiwn tynnu i lawr wedi’i gapio, mae’n 80% neu 25 gwaith eich terfyn tynnu i lawr blynyddol cyfredol. Os ydych wedi trosi i bensiwn tynnu i lawr mynediad hyblyg dull newydd, bydd y cyfrifiad yn fwy cymhleth. Dylech gysylltu â’ch darparwr i gadarnhau’r swm.
- Os oes gennych fwy nag un pensiwn, byddwch yn defnyddio lwfans oes yn y drefn rydych yn eu cymryd. Y lwfans oes y bydd angen i chi ei ddefnyddio wrth gyfrifo yw'r lwfans yn y flwyddyn dreth y cymerwch yr incwm pensiwn neu'r cyfandaliad ynddo.
- Mae rhai buddion cyfandaliad di-dreth a delir i'ch goroeswyr os byddwch farw cyn 75 oed hefyd yn defnyddio lwfans oes.
- Pryd bynnag y byddwch yn dechrau cymryd arian o'ch pensiwn, dylai datganiad o'ch cynllun ddweud wrthych faint o'ch lwfans oes rydych yn ei ddefnyddio.
Ffioedd a threth os ydych yn mynd dros y lwfans oes
Os yw cyfanswm gwerth eich buddion pensiwn a gymerwyd hyd yma yn fwy na'r lwfans oes pan wneir gwiriad, hyd at 5 Ebrill 2023 roedd tâl treth lwfans oes i’w dalu ar y gormodedd ynghyd â Threth Incwm ar unrhyw incwm ychwanegol a gawsoch. Gelwir hyn yn dâl lwfans oes.
O 6 Ebrill 2023 nid oes angen i chi dalu tâl lwfans oes. Ond mae taliadau penodol a fydd wedi bod yn destun i dâl lwfans oes ar 55% yn flaenorol bellach yn cael eu trethu ar gyfradd ymylol y Dreth Incwm lle mae wedi mynd dros y lwfans oes:
- Cyfandaliad afiechyd difrifol – lle mae eich disgwyliad oes yn cael ei leihau i lai na blwyddyn oherwydd salwch, ac mae eich darparwr pensiwn yn talu'ch cronfa bensiwn gyfan fel cyfandaliad arian parod.
- Cyfandaliad mynd dros lwfans oes – lle rydych o dan 75 oed ac yn derbyn y swm dros y lwfans oes fel cyfandaliad
- Budd-dal marwolaeth cyfandaliad cronfa digrisial – lle mae gwerth cronfa bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn cael ei dalu fel cyfandaliad ar farwolaeth
- Budd-dal marwolaeth cyfandaliad budd-dal wedi’i ddiffinio – lle mae cyfandaliad yn cael ei dalu ar farwolaeth aelod o raglen budd-dal pensiwn wedi’i ddiffinio
O ganlyniad i ddileu'r lwfans oes, bydd yr uchafswm y gallwch ei gymryd fel arian di-dreth fel arfer yn cael ei rewi ar £268,275, sy'n chwarter (25%) o'r lwfans oes o £1,073,100. Fodd bynnag, os ydych wedi gwneud cais am ddiogelwch o’r blaen (gweler isod) ac roedd gennych hawl i gyfandaliad di-dreth uwch ar 5 Ebrill 2023 byddwch yn parhau i fod â hawl i'r swm uwch hwn.
Os ydych yn gwneud cais am Amddiffyniad Sefydlog 2016 ar neu ar ôl 15 Mawrth 2023 efallai y byddwch hefyd yn gymwys i swm uwch o arian parod di-dreth. Bydd angen i chi gwrdd ag amodau penodol i barhau i fod yn gymwys iddo.
Y tâl lwfans oes - sut y gweithiodd:
Roedd y ffordd yr oedd y tâl yn berthnasol tan 5 Ebrill 2023 yn dibynnu ar a gymewyd y swm dros ben fel cyfandaliad neu fel incwm.
Cyfandaliadau
Os wnaethoch gymryd y gormodedd fel cyfandaliad, cafodd ei drethu ar 55%.
Bydd eich darparwr pensiwn neu weinyddwr wedi didynnu'r dreth o'ch cronfa a'i thalu i Gyllid a Thollau EM (HMRC), gan dalu'r balans i chi.
Incwm
Os gymeroch incwm o'r gweddill - naill ai'n hyblyg (pensiwn tynnu i lawr), fel incwm gwarantedig (blwydd-dal), neu fel pensiwn cynllun - roedd ffi treth o 25% yn syth.
Roedd hyn ar ben unrhyw Dreth Incwm a dalwyd gennych ar yr incwm pan wnaethoch ei dderbyn.
Ar gyfer cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio, bydd eich cynllun pensiwn fel arfer wedi talu'r dreth 25% ar eich rhan a'i hadennill gennych trwy leihau eich pensiwn.
Ar gyfer cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, bydd eich gweinyddwr cynllun pensiwn dalu'r dreth 25% i HMRC allan o'ch cronfa bensiwn, gan eich gadael â'r 75% sy'n weddill i'w ddefnyddio tuag at eich incwm ymddeol.
Er enghraifft, mae rhywun sy'n talu treth ar y gyfradd uwch yn disgwyl cael £1,000 y flwyddyn fel incwm ond gostyngodd y tâl lwfans oes o 25% hyn i £750 y flwyddyn. Ar ôl Treth Incwm ar 40%, byddent yn cael eu gadael gyda £450 y flwyddyn.
Mae hyn yn golygu bod y tâl lwfans oes a'r Dreth Incwm gyda'i gilydd wedi lleihau eu hincwm 55% – yr un peth â'r tâl lwfans oes pe baent wedi cymryd eu budd-daliadau fel cyfandaliad yn hytrach nag incwm.
Diogelu eich lwfans oes
Os oes gennych bensiynau fawr, gallwch ystyried gwneud cais am ddiogelwch os oes disgwyl i'ch cynilion pensiwn fod yn uwch na'r trothwy lwfans oes.
Roedd, ac mae dal i fod fathau o ddiogelwch a all eich helpu i osgoi tâl treth trwy roi lwfans oes uwch i chi.
Gallwch wirio a oes gennych ddiogelwch eisoes ond bydd angen cyfrif arnoch ar gyfer gwasanaethau ar-lein HMRC.
Os nad oes gennych gyfrif gallwch greu un.
Mewngofnodwch i Porth y LLywodraeth ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae dau gynllun diogelu y gallwch wneud cais amdanynt o hyd - Diogelu Unigol 2016 a Diogelu Sefydlog 2016.
Mae'r amddiffyniadau hyn yn golygu efallai y gallwch dderbyn cyfandaliad di-dreth yn uwch na'r terfyn cyfredol o £268,275.
Diogelu Unigol 2016
Argaeledd
Mae Diogelu Unigol 2016 (IP2016) ar gael dim ond os oedd gwerth eich cynilion pensiwn ar 5 Ebrill 2016 dros £1 miliwn.
Mae IP2016 hefyd ar gael i bobl sydd eisoes â diogelwch o dan gynlluniau Diogelu Uwch, Diogelu Sefydlog 2012, Diogelu Sefydlog 2014 neu Ddiogelu Sefydlog 2016.
Nid yw IP2016 ar gael i bobl sydd eisoes â Diogelwch Cynradd (boed yn weithredol neu wedi gorffen) neu sydd â Diogelwch Unigol 2014.
Darganfyddwch fwy am Diogelu'ch lwfans oes pensiwn ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Lefel y diogelwch
Mae hyn yn rhoi lwfans oes personol i chi sy'n gyfartal â gwerth eich pensiynau ar 5 Ebrill 2016, y diwrnod cyn cyflwyno'r lwfans is - (yn amodol ar uchafswm o £1.25m).
Mae'r rheolau diogelu’n gymhleth. Ac mae'r ffyrdd y gellir colli'r diogelwch yn wahanol yn dibynnu a yw eich incwm ymddeol (gan gynnwys cyfandaliadau) yn dod o gyfraniad wedi’u diffinio neu gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio.
Darganfyddwch fwy am sut y mae’r lwfans oes yn gweithio ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Efallai hoffech gael cyngor ariannol proffesiynol neu siarad â'ch darparwr pensiwn neu weinyddwr wrth benderfynu a ddylech wneud cais am ddiogelu a gweithio allan pryd a sut i gymryd buddion o'ch cynllun pensiwn.
I ddarganfod mwy am y gwahanol fathau o gyngor sydd ar gael, gwelwch ein canllaw Ymddeoliad - pam ddylwn i gael cyngor?
A allwch barhau i gynilo i mewn i bensiwn?
Gyda Diogelwch Unigolyn 2016 gallwch barhau i gynilo i mewn i bensiwn. Ond bydd unrhyw gynilion pensiwn sy'n uwch na lefel eich lwfans oes gwarchodedig yn atebol am dreth ar y gormodedd.
Diogelwch Sefydlog 2016
Argaeledd
Nid oes angen isafswm gwerth pensiwn i wneud cais am Ddiogelwch Sefydlog 2016 (FP2016).
Yn wahanol i IP2016, nid yw FP2016 ar gael i unrhyw un sy'n dal Diogelwch Sylfaenol, Diogelwch Uwch neu Ddiogelwch Sefydlog 2012/2014.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Lefel y diogelwch
Mae hyn yn rhoi lwfans oes o £1.25m i chi, gyda’r potensial i gymryd hyd at £312,500 (25% o’r lwfans oes sydd wedi’i ddiogelu) fel cyfandaliad di-dreth. Mae'n bosibl colli'r diogelwch hwn mewn rhai amgylchiadau. Os na wnaethoch gais am y diogelwch hwn cyn 15 Mawrth 2023, er mwyn osgoi colli'r diogelwch hwn, mae rhaid i chi:
- gwneud yn siŵr eich bod yn optio allan o ymrestru awtomatig yn gyflym – fel arfer mae gennych un mis yn unig i wneud hyn a chael ad-daliad o'ch cyfraniad
- peidio â gwneud mwy o daliadau i unrhyw gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio ar ôl 5 Ebrill 2016 – os gwnewch hynny, byddwch yn colli'ch diofelwch yn awtomatig ac yn dychwelyd i'r terfyn lwfans oes safonol cyfredol
- meddyliwch yn ofalus cyn parhau fel aelod gweithredol o gynllun buddion wedi’u diffinio – mae optio allan o aelodaeth weithredol a dod yn aelod gohiriedig yn lleihau'r risg o golli'ch diogelwch yn sylweddol. Efallai yr hoffech drafod eich opsiynau ag ymgynghorydd ariannol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol wedi’i rheoleiddio
A allwch barhau i gynilo i mewn i bensiwn?
Os ydych yn gwneud cais am ddiogelwch sefydlog ar 15 Mawrth 2023 neu’n hwyrach, bydd rhaid eich bod wedi stopio cynilo i mewn i bensiwn neu gronni buddion o 6 Ebrill 2016. Os gwnaethoch gais am ddiogelwch sefydlog cyn 15 Mawrth 2023, yna o 6 Ebrill 2023 ac ymlaen gallwch adeiladu buddion pensiwn newydd, ymuno â chynlluniau pensiwn newydd neu drosglwyddo i gynllun pensiwn arall heb golli’r diogelwch hwn.
Sut i wneud cais am y mathau hyn o ddiogelwch
Os na allwch ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein, gallwch ffonio llinell gymorth Pensiynau HMRC ar gyfer ceisiadau ar 0300 123 1079.
Nid oes dyddiad cau ar gyfer ymgeisio i wneud cais am y rhain.
Fodd bynnag, i ddibynnu ar y diogelwch, mae rhaid eich bod wedi gwneud cais a derbyn cyfeirnod gan HMRC cyn i'ch pensiwn gael ei brofi yn erbyn y lwfans oes.
Mae hwn yn faes cymhleth. Os ydych yn credu bod eich pensiynau'n debygol o fynd y tu hwnt i'r lwfans oes, mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd ariannol rheoledig neu gael cyngor treth arbenigol.