Rydym wedi llunio atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am ymrestru awtomatig.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Rwyf yn hunangyflogedig. A yw ymrestru awtomatig yn berthnasol i mi?
- Fi yw unig gyfarwyddwr a chyflogai cwmni cyfyngedig. Sut mae ymrestru awtomatig yn effeithio arnaf i?
- Rwyf ar gontract dim oriau. Sut y byddaf yn cael fy nhrin?
- Nid oeddwn yn gymwys i ymrestru'n awtomatig oherwydd nid oeddwn yn ennill digon. Ond rwyf wedi cael codiad cyflog yn ôl-ddyddiedig sy'n fy ngwneud yn gymwys i ymrestru'n awtomatig. A ddylid ôl-ddyddio fy aelodaeth yn unol â'm codiad cyflog ôl-ddyddiedig?
- Ni wnaeth fy nghyflogwr fy nghofrestru ac mae bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. A oes gennyf hawl i gyfraniadau pensiwn?
- Sut mae tâl mamolaeth neu dadolaeth yn cael ei drin?
- Beth yw ailymrestru?
- A fyddaf yn cael rhyddhad treth ar fy nghyfraniadau?
- Ni allaf fforddio fy nghyfraniadau 5%. A allaf ddewis eu lleihau?
Rwyf yn hunangyflogedig. A yw ymrestru awtomatig yn berthnasol i mi?
Os ydych yn hunangyflogedig, nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ymrestru'ch hun mewn pensiwn gweithle. Ond mae'n syniad da meddwl pa incwm y bydd gennych i fyw arno pan fyddwch yn ymddeol.
Efallai hoffech gynllunio ar gyfer eich bywyd diweddarach os nad ydych eisoes – er enghraifft, cychwyn cynllun pensiwn.
Gallech ddewis:
Mae'r rhain i gyd ar gael gan amrywiaeth o ddarparwyr pensiwn.
Efallai y byddwch hefyd yn penderfynu ymuno â NEST (yr Ymddiriedolaeth Cynilion Cyflogaeth Genedlaethol) - corff annibynnol a sefydlwyd gan y llywodraeth i ddarparu cynllun pensiwn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiynau ar gyfer yr hunangyflogedig
Fi yw unig gyfarwyddwr a chyflogai cwmni cyfyngedig. Sut mae ymrestru awtomatig yn effeithio arnaf i?
Rydych yn un o'r ychydig ddosbarthiadau o weithwyr nad oes rhaid ymrestru'n awtomatig i gynllun pensiwn gweithle. Er hyn, gallwch barhau i benderfynu sefydlu un os ydych eisiau.
Mae'n bwysig meddwl pa incwm y bydd gennych i fyw arno pan fyddwch yn ymddeol - ac a oes angen i chi ddechrau, neu gynyddu cynilion ymddeol.
Rwyf ar gontract dim oriau. Sut y byddaf yn cael fy nhrin?
Byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig yn yr un modd â gweithwyr eraill os ydych yn ennill mwy na:
- £192 yr wythnos
- £833 y mis neu
- £10,000 y flwyddyn.
(ffigyrau 2023-24)
Mae angen i chi hefyd fodloni'r amodau ymuno eraill.
Nid oeddwn yn gymwys i ymrestru'n awtomatig oherwydd nid oeddwn yn ennill digon. Ond rwyf wedi cael codiad cyflog yn ôl-ddyddiedig sy'n fy ngwneud yn gymwys i ymrestru'n awtomatig. A ddylid ôl-ddyddio fy aelodaeth yn unol â'm codiad cyflog ôl-ddyddiedig?
Os ydych wedi derbyn codiad cyflog ôl-ddyddiedig sy'n mynd â chi dros y symiau trothwy enillion o £192 yr wythnos neu £833 y mis? Yna dylech gael eich ymrestru'n awtomatig pan fyddwch yn derbyn y codiad cyflog – ar yr amod eich bod yn cwrdd â'r amodau ymuno eraill.
Dylai'ch cyfraniad cyntaf fod yn uwch na'r rhai diweddarach, i adlewyrchu'r codiad cyflog ôl-ddyddiedig.
Ni wnaeth fy nghyflogwr fy nghofrestru ac mae bellach wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. A oes gennyf hawl i gyfraniadau pensiwn?
Os yw’ch cwmni wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, fel arfer penodir ymarferydd ansolfedd i drefnu pethau. Dylen nhw weithio gyda’r darparwyr cynllun pensiwn i adnabod cyfraniadau pensiwn sydd i’w talu.
Dylen nhw wedyn anfon cais i ‘Gronfa Yswiriant Gwladol’ y llywodraeth am daliad o’ch cyfraniadau pensiwn. Dim ond cyfraniadau di-dâl yn y 12 mis cyn i’ch cyflogwr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr all cael eu hawlio.
Efallai byddwch am gysylltu ag ymarferydd ansolfedd eich cyflogwr i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Rheoleiddiwr Pensiwn a rhoi gwybod am gyfraniadau di-dâl eich cyflogwr ar y ffôn ar 0845 600 7060, e-bost ar [email protected] neu trwy ddefnyddio’i ffurflen chwythwr chwibanYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein
Beth os nad oedd fy nghyflogwr wedi fy ymrestru’n awtomatig i bensiwn gwaith?
Os oeddech yn gymwys i ymuno â phensiwn gweithle eich cyflogwr ond am ryw reswm nad oedden nhw wedi eich ymrestru’n awtomatig, cysylltwch â Rheoleiddiwr Pensiwn mor fuan â phosibl.
Cysylltwch â’r Rheoleiddiwr Pensiwn ar y ffôn ar 0845 600 7060, e-bost ar [email protected] neu trwy ddefnyddio’i ffurflen chwythwr chwibanYn agor mewn ffenestr newydd ar-lein
Sut mae tâl mamolaeth neu dadolaeth yn cael ei drin?
Os ydych yn derbyn tâl mamolaeth neu dadolaeth, byddwch yn cael eich trin yn yr un modd â gweithwyr eraill.
Os ydych yn ennill mwy na £192 yr wythnos neu £833 y mis – ac yn cwrdd â'r amodau ymuno eraill – byddwch yn cael eich ymrestru'n awtomatig.
Beth yw ailymrestru?
Tua phob tair blynedd mae rhaid i'ch cyflogwr ailymrestru unrhyw weithwyr cymwys, sydd wedi eithrio allan o'r blaen, i gynllun pensiwn ymrestru awtomatig. Gelwir hyn yn ‘ailymrestru’. Mae ailymrestru ar y dyddiad a ddewiswyd yn ei hanfod yr un fath ag ymrestru ar y dyddiad cyntaf eich cyflogwr.
Ni all eich cyflogwr ddefnyddio gohiriad. Dyma pryd y gallant oedi cyn eich rhoi i mewn i gynllun pensiwn am hyd at dri mis.
Mae rhaid iddynt drefnu i aelodaeth cynllun pensiwn cymwys ddechrau o'r dyddiad ailgofrestru.
Gallwch barhau i eithrio allan os nad ydych am ddod yn aelod.
A fyddaf yn cael rhyddhad treth ar fy nghyfraniadau?
Yn gyffredinol, os ydych yn gyflogai sy'n ennill mwy na'r lwfans personol (£12,570 yn y flwyddyn dreth 2023/24), byddwch yn derbyn rhyddhad treth ar eich cyfraniadau.
Bydd angen i chi wirio â'ch cynllun sut mae hyn yn gweithio i chi ac a oes angen i chi wneud unrhyw beth i hawlio'r holl ryddhad treth y mae gennych hawl iddo.
Os ydych yn ennill llai na’r lwfans personol ac felly nad ydych yn talu treth, yna ni chewch ryddhad treth os yw eich cyflogwr yn gweithredu cynllun ‘tâl net’.
Os yw eich cynllun gweithle yn gweithredu o dan ‘rhyddhad yn y ffynhonnell’ - byddwch yn derbyn rhyddhad treth sylfaenol (20%) ar eich cyfraniadau. Mae hyn waeth beth yw lefel eich cyflog.
Os yw hyn yn effeithio arnoch, gallwch wirio â'ch cyflogwr pa fath o gynllun y maent yn ei gynnig ac a fyddent yn barod i newid i gynllun rhyddhad yn y ffynhonnell.
Byddwch yn ymwybodol bod rhaid i'ch cyflogwr ddefnyddio'r un dull ar gyfer yr holl weithwyr yn y cynllun.
Gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
Ni allaf fforddio fy nghyfraniadau 5%. A allaf ddewis eu lleihau?
Mae hyn yn dibynnu ar eich trefniant unigol. Felly bydd angen i chi drafod hyn â'ch cyflogwr.
Os ydych yn gallu lleihau eich cyfraniadau a bod cyfanswm y cyfraniadau yn disgyn o dan 8% - ni fyddwch bellach mewn cynllun ymrestru awtomatig cymwys.
Bydd hyn yn sbarduno'r broses ailymrestru.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i'ch cyflogwr eich ailymrestru'n awtomatig os ydych yn weithiwr cymwys. Mae hyn yn digwydd oddeutu bob tair blynedd os nad ydych yn aelod o gynllun cymwys.