Mae ymrestru awtomatig yn ffordd ardderchog o ddechrau cynilo mewn i bensiwn. Ond wrth i chi nesáu at ymddeol, mae’r effaith y mae hyn yn debygol o’i gael ar eich incwm yn ystod eich ymddeoliad yn lleihau. Gall fod amgylchiadau ble byddai’n gwneud synnwyr i ystyried eithrio allan.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Cynilion, dyled a budd-daliadau’r Wladwriaeth
Ydych chi o fewn rhyw ddwy flynedd i ymddeol? Yna mae dau reswm posibl dros feddwl ddwywaith ynglŷn ag ymuno â phensiwn gweithle eich cyflogwr.
Y cyntaf yw unrhyw ddyledion nad ydych wedi eu had-dalu eto. Mae hyn oherwydd ni fydd unrhyw arian a roddwch mewn pensiwn yn cael amser i dyfu cyn i chi ymddeol. Felly efallai y byddai'n well gwario'ch arian yn talu dyledion - yn enwedig y rhai â chyfraddau llog uchel.
Yr ail ffactor i’w ystyried yw a yw eich amgylchiadau ariannol yn golygu’ch bod yn debygol o fod â hawl i fudd-daliadau’r wladwriaeth sy’n dibynnu ar brawf modd ar ôl i chi ymddeol – er enghraifft gostyngiad treth cyngor. Os felly, yna gall manteision cymryd incwm pensiwn rydych chi wedi cronni gael eu gostwng
Ond os gallwch gymryd eich pensiwn fel cyfandaliad yn lle hynny ac rydych yn ei ddefnyddio i ad-dalu’ch dyledion, efallai ni fydd hynny’n effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau
Yna gallwch chi benderfynu a fyddai'n well i chi dalu unrhyw ddyledion yn lle cyfrannu at eich pensiwn gweithle ar hyn o bryd.