Gall colli swydd gynnig cyfleoedd newydd, gan gynnwys y cyfle i ail-hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd. Yn y canllaw hwn, cewch wybod ble i gael cymorth a chyngor ariannol yn ogystal â’ch dewisiadau pan ddaw’n amser i ail-hyfforddi. Efallai’n wir y gwelwch fod colli’ch swydd yn agor y drws i yrfa newydd sbon.
Cael cyngor ar yrfaoedd, ail-hyfforddi a chyllid
Mae ychwanegu at eich sgiliau presennol neu gael cymwysterau mewn maes newydd yn ffyrdd da o wella’ch gobeithion o gael swydd arall.
Gallent hefyd roi hwb i’ch hyder y mae mawr ei angen.
Gwelwch fod llawer o ddewisiadau ail-hyfforddi ar gael i chi pan fydd eich swydd wedi’i dileu, o brentisiaethau i interniaethau i gyrsiau astudio rhan-amser neu amser llawn neu gyrsiau astudio o bell yn y coleg neu’r brifysgol.
Mae llawer o gymorth ariannol ar gael hefyd.
Dolenni defnyddiol a manylion cyswllt
- Cymru – Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 028 4844
- Lloegr – Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol neu ffoniwch 0800 100 900
- Yr Alban – Skills Development Scotland neu ffoniwch 0800 917 8000
- Gogledd Iwerddon – nidirect
Sgiliau cyfrifiadurol ac ar-lein
Ewch i Rwydwaith Canolfannau Ar-lein y Deyrnas Unedig yn ukonlinecentres.org i ddarganfod eich canolfan hyfforddiant agosaf.
Mae Learn My Way yn cynnig cwrs am ddim ar ddefnyddio cyfrifiadur, pori’r we a chanfod gwaith ar-lein ar learnmyway.com
Cyllido’ch hyfforddiant, eich astudiaethau neu’ch prentisiaeth
Mae’n bosibl na chewch daliad terfynol enfawr pan gollwch eich swydd, ond nid yw hynny’n golygu na allwch fforddio ail-hyfforddi.
Mae gwahanol ffyrdd o gyllido newid gyrfa, gan ddibynnu ar y rhaglen hyfforddi neu’r cwrs astudio yr hoffech ei ddilyn - a chan ddibynnu hefyd ar unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Ystyriwch pa ddewis sy’n addas i chi - benthyciad (bydd rhaid i chi ei dalu’n ôl), grantiau neu fwrsariaethau (ni fydd rhaid i chi dalu’r rhain yn ôl) neu brentisiaethau (byddwch yn ennill arian wrth ddysgu).
Benthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa
Mae benthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith.
Sut maent yn gweithio:
- Benthyca ar gyfraddau cymharol rad.
- Benthyca unrhyw beth rhwng £300 a £10,000, waeth faint yw’ch cynilion neu’ch incwm
- Ni fyddwch yn dechrau ei ad-dalu hyd nes i chi orffen eich cwrs.
- Bydd banciau angen rhwng chwe wythnos a thri mis i brosesu’ch cytundeb, felly peidiwch â’i adael tan y funud olaf.
Darganfyddwch fwy am fenthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa ar wefan GOV.UK
Benthyciadau myfyrwyr
Mae dros hanner y bobl sy’n astudio ar gyfer cyrsiau gradd yn y DU dros 21 - nid yw byth yn rhy hwyr i fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Neu’n wir, i fynd yn ôl!
Darganfyddwch sut i gael cyllid myfyrwyr ar wefan GOV.UK
Grantiau a bwrsariaethau
Maent ar gael fel arfer gan y llywodraeth, elusennau, neu’r coleg neu’r brifysgol lle rydych yn bwriadu mynd, ond mae angen i chi chwilio amdanynt.
Chwiliwch am grantiau hyfforddi ar wefan Turn2Us
Os ydych dros 16, ar incwm isel ac yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am y rhaglen ‘pay to learn’ ar wefan My World of Work
Prentisiaethau
Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, gall prentisiaeth fod yn ffordd dda o symud i yrfa newydd.
Byddwch yn ennill tra byddwch yn dysgu, a dylai fod gennych well gobaith o gael swydd.
Darganfyddwch fwy am brentisiaeth ar wefan GOV.UK
Hawlio budd-daliadau tra byddwch yn ail-hyfforddi
Cyn gynted ag y byddwch wedi cael eich diswyddo, mae angen i chi wneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
A phan fyddwch yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth neu gwrs astudio, cofiwch wneud cais am unrhyw gymorth ychwanegol fel arian tuag at ofal plant.