Os ydych wedi dioddef diswyddiad annheg, fel diswyddo deongliadol, bydd angen i chi wirio os oes gennych achos. Os ydych yn canfod nad yw’ch cyflogwr wedi dilyn y rheolau, efallai y gallech gwneud cais am ddiswyddo annheg.
Beth yw diswyddo?
Mae diswyddo yn digwydd pan fydd eich swydd yn diflannu. Nid yw’r un fath â chael eich diswyddo am resymau eraill.
Pan gewch eich diswyddo fel hyn, nid ydych wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac nid oes neb yn amau eich gallu i wneud eich swydd.
Y rhesymau mwyaf cyffredin i gyflogwyr ddiswyddo pobl yw’r angen iddynt:
- dorri costau
- cau lawr neu adleoli, neu
- oherwydd nad oes bellach angen y gwaith rydych yn ei wneud.
Beth yw proses diswyddo deg?
Os yw diswyddo gorfodol yn angenrheidiol, mae rhaid i’r cyflogwr fod yn deg wrth benderfynu pwy sy’n mynd i golli eu swyddi.
Wrth benderfynu, gallent ystyried rhai neu bob un o’r canlynol:
- safonau gwaith
- cofnodion presenoldeb a disgyblu
- unrhyw weithdrefn diswyddo y cytunwyd arni â'ch undeb, os oes gennych un
- sgiliau a phrofiad – gall hyn weithiau arwain at bobl yn gorfod ail-ymgeisio am eu swydd.
Mae rhaid i'ch cyflogwr hefyd:
- roi digon o rybudd i chi o’r hyn sy’n digwydd
- ymgynghori â chi am y rheswm rydych wedi eich dewis, ac
- ystyried rhywbeth amgenach na diswyddo, gan gynnwys swydd wahanol i chi os oes un ar gael.
Beth yw diswyddo yn annheg?
Mae diswyddo annheg yn digwydd pan nad yw'ch cyflogwr wedi dilyn proses ddiswyddo deg.
Dylai cyflogwyr bob amser siarad â chi’n uniongyrchol am y rheswm dros eich dewis ac edrych ar rywbeth amgenach na diswyddo.
Os nad yw hyn wedi digwydd, efallai eich bod wedi eich diswyddo’n annheg.
Yn ogystal, ni ddylai eich cyflogwr gael rheswm annheg dros eich dewis ar gyfer diswyddo, er enghraifft:
- oed
- hil
- rhyw
- crefydd
- anabledd
- beichiogrwydd
- cyfeiriadedd rhywiol
- bod yn aelod o undeb llafur
- gweithio’n rhan-amser neu ar gytundeb cyfnod penodedig.
A ydych yn credu nad yw eich cyflogwr wedi dilyn proses deg, neu rydych yn amau eich bod wedi eich dewis am reswm annheg? Yna, efallai y gallwch hawlio bod eich diswyddiad yn annheg mewn tribiwnlys.
Mewn sefyllfa o’r fath, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnig cytundeb cyfaddawdol.
Swm o arian yw hyn yn gyfnewid am ildio eich hawl i fynd at dribiwnlys.
Mae rhaid i’ch cyflogwr dalu i chi gael cyngor cyfreithiol annibynnol er mwyn i chi ddeall yn llwyr yr hawliau rydych yn eu hildio.
Am fwy o wybodaeth am ddiswyddo a sut y dylai eich cyflogwr fynd ati i gysylltu â chi, ewch i wefan GOV.UK
Sut i apelio yn erbyn diswyddo annheg
Cam 1 - Gwneud apêl ysgrifenedig
Os ydych yn credu bod eich diswyddo yn annheg, dylech yn gyntaf apelio yn erbyn penderfyniad eich cyflogwr.
Edrychwch ar eich cytundeb neu lyfryn staff am sut wneud hyn a sicrhewch eich bod yn cadw llygad am unrhyw derfynau amser.
Eglurwch pam rydych yn meddwl bod y ffordd rydych wedi eich dewis yn annheg a beth rydych am i’ch cyflogwr wneud i unioni’r sefyllfa.
Os oes gennych undeb llafur neu gynrychiolydd gweithwyr, gallwch ofyn iddynt eich helpu â hyn.
Cam 2 – Siarad â chynrychiolydd eich undeb llafur
Os nad ydych yn hapus ag ymateb eich cyflogwr, siaradwch â’ch undeb llafur neu eich cynrychiolydd gweithwyr, os oes gennych un.
Efallai y byddant yn well am ddadlau’r achos ar eich rhan.
Cam 3 – Cymodi cynnar
Os nad yw trafodaethau â’ch cyflogwr yn gweithio a’ch bod yn meddwl bod gennych achos da, gallwch wneud cais i dribiwnlys cyflogaeth.
Cyn y gallwch wneud hyn, mae rhaid i chi hysbysu Acas. Byddant yn cynnig mynd at eich cyflogwr a cheisio setlo’r achos trwy gymodi cynnar.
Nid oes rhaid i chi na’ch cyflogwr gytuno i hyn. Mae rhaid i chi hysbysu Acas cyn gynted â phosibl oherwydd mae cyfyngiadau amser llym i wneud cais.
Darganfyddwch fwy am gymodi cynnar ar wefan Acas
Cam 4 – Ystyried tribiwnlys cyflogaeth
Os na allwch setlo eich hawliad trwy gymodi cynnar, a’ch bod yn dal i feddwl bod gennych achos da, gallwch fynd â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth.
O fis Gorffennaf 2017, nid oes unrhyw ffioedd ar gyfer mynd i dribiwnlys cyflogaeth yn y Deyrnas Unedig.
Am gyngor ar hyn, siaradwch â’ch undeb llafur.
Am gyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ar yr holl faterion hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ewch i wefan Acas
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan y Labour Relations Agency
Staff i mewn, staff allan
Mae gan eich cyflogwr hawl gyfreithiol i gyflogi staff newydd, hyd yn oed os ydynt yn eich diswyddo chi.
Efallai y byddant yn cyflogi rhywun i wneud gwaith gwahanol ble rydych yn gweithio neu i wneud eich gwaith mewn lleoliad gwahanol.
Os ydych yn meddwl y dylai’r swydd fod wedi cael ei chynnig i chi, mynnwch gyngor gan gynrychiolydd eich undeb neu gan gyfreithiwr.
Am fwy o gyngor diswyddo
- Am gyngor diduedd, cyfrinachol am ddim ar yr holl faterion hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ewch i wefan Acas
- Os ydych byw yng Ngogledd Iwerddon, am gyngor diduedd a chyfrinachol ar gysylltiadau cyflogaeth, ewch i wefan Labour Relations Agency