Os yw’r busnes lle rydych yn gweithio’n cael amser tawel, efallai bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi weithio llai o oriau bob wythnos (sef gweithio amser byr) neu gymryd diwrnodau cyfan i ffwrdd o’r gwaith (sef terfynu cyflogaeth dros dro).
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Terfynu cyflogaeth dros dro
- Cam 1 – Cael cyngor
- Cam 2 – Darllen eich contract
- Cam 3 – Hawlio’r hyn sydd ar gael i chi
- Cam 4 – Hawlio unrhyw fudd-daliadau a chredydau treth
- Beth i’w ystyried os byddwch yn wynebu llai o oriau
- Am ba hyd y gellir eich rhoi ar oriau llai?
- Newidiadau yn eich contract
- Beth petaech chi a’ch cyflogwr yn anghytuno?
Gweithio amser byr
Mae gennych yr hawl i gael tâl llawn oni bai bod eich cytundeb yn dweud y gellir gofyn i chi gymryd absenoldeb heb dâl neu derfynu eich cyflogaeth dros dro â llai o gyflog.
Mae hyn yn golygu bydd eich cyflogwr yn cwtogi’ch oriau gweithio, neu’r nifer o ddyddiau a weithiwch bob wythnos, ar dâl is.
Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi weithio dri diwrnod yr wythnos yn hytrach na phum diwrnod.
Terfynu cyflogaeth dros dro
Os nad oes digon o waith i chi, gallai’ch cyflogwr ofyn i chi beidio â dod i’r gwaith, neu gymryd absenoldeb heb dâl.
Terfynu cyflogaeth dros dro yw pan fyddwch i ffwrdd o’r gwaith am isafswm o un diwrnod gwaith.
Darganfyddwch fwy am derfynu cyflogaeth dros dro, gweithio amser byr, tâl gwarant a’ch hawliau ar wefan GOV.UK
Cam 1 – Cael cyngor
Mae’n bwysig peidio â gwneud unrhyw benderfyniadau byrbwyll. Os oes gennych un, trafodwch eich dewisiadau â’ch cynrychiolydd cyflogeion neu’ch undeb. A rhowch amser o’r neilltu i drafod y peth â’ch teulu – gan bydd yn effeithio arnynt hefyd.
I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth edrychwch ar workSMART, canllaw’r TUC i bob agwedd ar eich hawliau cyflogaeth
Cam 2 – Darllen eich contract
A all eich cyflogwr gwtogi’ch oriau, neu derfynu eich cyflogaeth dros dro? Yr ateb syml yw – dim ond os yw’ch contract cyflogaeth yn caniatáu hynny.
Os na, bydd rhaid i’ch cyflogwr negodi newid yn eich contract.
Yn nodweddiadol, bydd hyn yn cynnwys llawer o aelodau staff. Bydd rhaid iddynt hwy, neu eu hundeb, gytuno i’r trefniant newydd.
Dylech hefyd holi a yw’ch contract yn eich caniatáu i dderbyn swydd arall â thâl tra byddwch yn gweithio llai o oriau.
Cam 3 – Hawlio’r hyn sydd ar gael i chi
Tâl gwarant statudol yw’r lleiafswm cyfreithiol y mae rhaid i’ch cyflogwr ei dalu os bydd eich cyflogaeth yn cael ei therfynu dros dro.
Mae’n cael ei dalu am fwyafswm o bum diwrnod mewn unrhyw gyfnod tri mis, ac mae’n cael ei gapio ar £30 y dydd am 5 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 3 mis - felly uchafswm o £150.
Fodd bynnag, gallech gael mwy na hynny os yw wedi’i nodi yn eich contract cyflogaeth.
Cam 4 – Hawlio unrhyw fudd-daliadau a chredydau treth
Credyd Cynhwysol
Efallai gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gweithio amser byr neu os terfynwyd eich cyflogaeth dros dro.
Os oes angen help arnoch â phethau fel costau tai neu fagu plant, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw
Esbonio Credyd Cynhwysol
Credydau treth
Os ydych yn cael credydau treth, mae rhaid i chi gysylltu â Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0345 300 3900 os yw eich incwm neu’ch oriau gwaith wedi cael eu heffeithio.
Os yw hwn yn ostyngiad dros dro o hyd at bedair wythnos, ni ddylai effeithio ar eich credydau treth.
Gallwch ddarganfod mwy am sut mae newidiadau'n effeithio ar eich credydau treth ar wefan GOV.UK
Beth i’w ystyried os byddwch yn wynebu llai o oriau
Yn ôl pob tebyg, arian fydd ar frig eich rhestr. Sut bydd llai o oriau’n effeithio ar incwm eich cartref?
Os oes swyddi eraill ar gael lle rydych yn byw, efallai byddwch yn cael eich temtio i adael – hyd yn oed am ychydig llai o arian.
Ond cofiwch, os byddwch yn gadael o’ch gwirfodd, gallech golli hawliau dileu swydd gwerthfawr.
Am ba hyd y gellir eich rhoi ar oriau llai?
Gan ddibynnu ar eich contract, nid oes terfynau ar yr amser y gallwch fod yn gweithio oriau byr neu y gall eich cyflogaeth gael ei therfynu dros dro.
Fodd bynnag, os ydych wedi bod yn y sefyllfa hon am bedair wythnos yn olynol (neu chwe wythnos heb fod yn olynol mewn cyfnod o 13 wythnos), dylech fod yn gallu hawlio tâl dileu swydd os penderfynwch eich bod wedi cael llond bol.
Newidiadau yn eich contract
Efallai bydd eich cyflogwr am newid y telerau yn eich contract, fel torri’ch tâl neu newid i weithio rhan-amser, ond ni all wneud hynny heb eich caniatâd.
Cyn cytuno i newid, holwch eich cyflogwr sut byddai’n effeithio ar unrhyw hawliau a buddion cysylltiedig â thâl y gallwch eu hawlio, fel
- tâl salwch
- tâl diswyddo yn y dyfodol, a
- cyfraniadau pensiwn y cyflogwr
Beth petaech chi a’ch cyflogwr yn anghytuno?
Ni all eich cyflogwr gyflwyno newid yn eich contract heb eich bod yn cytuno.
Fodd bynnag os byddant yn gwneud newidiadau a na fyddwch yn gwneud nac yn dweud dim, efallai caiff ei weld fel eich bod yn derbyn y newidiadau.
Mae’n bwysig gwybod eich hawliau felly siaradwch â’ch cynrychiolydd undeb llafur, os oes un gennych. Neu cysylltwch ag un o’r gwasanaethau cynghori gweithle:
- Ffoniwch Linell Gymorth Acas ar 0300 123 1100 neu fynd i wefan Acas (Cymru, Lloegr, a’r Alban).
- Ffoniwch y Labour Relations Agency Helpline ar 028 9032 1442 neu fynd i wefan y Labour Relations Agency (Gogledd Iwerddon).