Gall gweithio i asiantaeth gweithwyr dros dro fod yn ffordd dda o ennill rhywfaint o arian. Ond mae’n bwysig gwybod beth yw eich hawliau gweithiwr asiantaeth a thalu’r swm priodol o dreth.
Eich statws cyflogaeth
Rydych yn weithiwr dros dro neu yn weithiwr asiantaeth:
- os nad ydych yn hunangyflogedig
- os oes gennych gytundeb ag asiantaeth cyflogaeth, ond yn gweithio o ddydd i ddydd i gyflogwr
- os yw eich cyflogwr, nid yr asiantaeth, yn dweud wrthych beth i’w wneud
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
Eich hawliau fel gweithiwr dros dro neu weithiwr asiantaeth
Er nad ydych yn gyflogedig yn uniongyrchol gan y bobl rydych yn gweithio iddynt, mae gennych hawliau o hyd fel cyflogai.
Cyfrifoldeb un ai yr asiantaeth sy’n eich cyflogi neu’r cwmni cleient lle rydych wedi eich lleoli, yw hyn.
Mae eich hawliau gweithiwr asiantaeth yn rhoi hawl i chi gael:
- dyddiau gwyliau â thâl
- isafswm cyflog
- Tâl Salwch Statudol (SSP)
- gwyliau rhiant (di-dâl), ag amodau
- dim gwahaniaethu ar sail oed, hil, rhywioldeb, anabledd
- defnydd o gyfleusterau’r gweithle i staff, fel ffreutur, crèche neu feithrinfa
- ar ôl 12 wythnos – amser o’r gwaith â thâl ar gyfer gofal cynenedigol os ydych yn feichiog.
- ar ôl 12 wythnos – yr un tâl sylfaenol ac amodau gweithio â staff parhaol os oes unrhyw un yn gwneud yr un math o waith â chi.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau fel gweithiwr dros dro neu asiantaeth ar wefan Cyngor ar Bopeth
Yng Ngogledd Iwerddon dylech fynd i wefan Advice NI
Talu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich cyflog
Bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol a threth os ydych yn ennill mwy na chyfanswm penodol ac rydych o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth.
- Os ydych yn gweithio fel cyflogai i’r asiantaeth: bydd rhaid iddynt gymryd eich treth a’ch Yswiriant Gwladol allan o’ch tâl trwy’r system TWE (Talu Wrth Ennill), ynghyd ag unrhyw ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr sy’n ddyledus gennych. Mae rhaid iddynt roi slipiau cyflog i chi hefyd fydd yn dangos sut mae’r arian a gewch yn cael ei gyfrifo.
- Os ydych yn stopio gweithio iddynt: bydd rhaid i’r asiantaeth roi ffurflen P45 i chi i’w throsglwyddo i’ch swydd nesaf. Os ydych yn gyflogedig ar ddiwedd y flwyddyn dreth, dylech gael ffurflen P60 hefyd â manylion eich cod treth a faint o dreth rydych wedi ei thalu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Sut mae Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn gweithio
Sut mae Yswiriant Gwladol yn gweithio ac a ddylech fod yn ei dalu?
Swyddi arian parod
Os yw eich cyflogwr yn talu arian parod i chi heb dynnu treth ac Yswiriant Gwladol, mae’n anghyfreithlon.
Mae rhai cyflogwyr yn gwneud hyn er mwyn lleihau eu biliau cyflog. Ond os ydych yn gweithio fel hyn ni fyddwch yn cael yr hawliau arferol, fel Lwfans Ceisio Gwaith a thâl salwch.
Gallech orfod talu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol yn ôl eich hun hefyd, gan dalu dirwyon a chael cofnod troseddol hyd yn oed.
Os ydych yn credu bod eich cyflogwr yn talu arian parod i chi i osgoi tynnu treth ac Yswiriant Gwladol, gallwch ddweud wrth CThEM yn gyfrinachol.
Rhowch wybod i CThEM am gyflogwyr sy’n osgoi talu treth ar wefan GOV.UK
Cael mwy nag un swydd
Gall gwneud mwy nag un swydd ar yr un pryd fod yn ffordd dda o ennill mwy o arian, ond gall wneud eich sefyllfa dreth yn fwy cymhleth.
I osgoi talu gormod o dreth, neu beidio â thalu digon, bydd angen i chi sicrhau fod gennych y codau treth cywir a bod gan CThEM y wybodaeth gywir am eich gwaith.