Mae gan bron pob gweithiwr yn y DU hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf, neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol os ydych yn 23 oed neu'n hŷn. Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau eich bod yn cael y gyfradd gywir, ac yn gwybod beth i'w wneud os nad ydych yn meddwl eich bod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol?
- Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer 2021/22
- Prentisiaid a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- A oes gennyf hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?
- Sut cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol
- Isafswm cyflog am wahanol fathau o waith – a beth sy’n cael ei gynnwys fel amser gwaith
- Llety a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- Pethau nad ydynt yn cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
- Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir
- Beth yw’r Cyflog Byw?
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw?
Beth yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol?
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r tâl lleiaf fesul yr awr y mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU hawl cyfreithiol iddo.
Mae’r swm yn amrywio gan ddibynnu ar eich oed ac a ydych yn brentis.
Mae rhaid talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol i’r rhan fwyaf o bobl 23 oed neu’n hŷn. Dyma’r cyfradd uchaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol ar gyfer 2021/22
Oedran | Isafswm cyfradd fesul awr 2021/22 |
---|---|
25 oed a hŷn |
£8.91 |
21 i 24 |
£8.36 |
18 i 20 |
£6.56 |
16 i 17 |
£4.62 |
Prentis |
£4.30 |
Prentisiaid a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Mae gan brentisiaid hawl i gael y gyfradd brentisiaeth o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydynt un ai:
- dan 19 oed
- yn 19 oed neu’n hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth.
Mae gan brentisiaid sy’n hŷn na 19 oed ac sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eu prentisiaeth hawl i gael yr Isafwm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoed.
A oes gennyf hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol?
Mae gan bron pob gweithiwr hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan gynnwys:
- gweithwyr achlysurol
- gweithwyr dros dro
- gweithwyr rhan amser.
Ond os ydych yn hunangyflogedig neu’n gyfarwyddwr cwmni, ni allwch hawlio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mae rhai mathau eraill o weithwyr hefyd nad ydynt yn gymwys.
Gwelwch y rhestr lawn o bwy sydd â hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar wefan GOV.UK
Mae rhaid i chi fod o oedran gadael ysgol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Oedran gadael ysgol yw'r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol rydych yn cyrraedd 16 oed.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Sut cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol
Didyniadau o’ch cyflog cyn y cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
A ydych wedi talu am rai pethau sy’n gysylltiedig â’ch swydd allan o’ch cyflog? Dylai’ch cyflogwr ddidynnu’r taliadau hyn cyn cyfrifo a ydych wedi cael y taliad isafswm cyflog cywir.
Mae’r taliadau hyn ar gyfer:
- defnydd neu fudd personol y cyflogwr – er enghraifft, os ydych wedi talu am deithio rhwng safleoedd gwaith
- pethau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwaith ond ni chewch ad-daliad ar eu cyfer – fel teclynnau, gwisg neu offer.
Dylai pob taliad arall a dynnir o’ch cyflog, fel treth neu Yswiriant Gwladol, gael eu cynnwys pan fydd eich cyflogwr yn cyfrifo a yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol wedi’i dalu i chi.
I wirio a ydych yn cael yr isafswm cyflog , defnyddiwch y cyfrifiannell isafswm cyflog ar wefan GOV.UK
Isafswm cyflog am wahanol fathau o waith – a beth sy’n cael ei gynnwys fel amser gwaith
Cyfrifir yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel cyfradd fesul awr, ond mae’n berthnasol hyd yn oed os nad ydych yn cael eich talu fesul yr awr.
Darganfyddwch fwy am hyn, a beth sy’n cyfrif fel amser gweithio, ar wefan GOV.UK
Llety a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
A yw’ch cyflogwr yn darparu llety? Gall ystyried gwerth hynny wrth gyfrifo’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Nid oes yr un budd cwmni arall – fel talebau gofal plant, prydau bwyd, neu gar - yn cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol.
Darganfyddwch fwy am lety a'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar wefan GOV.UK
Pethau nad ydynt yn cyfrif tuag at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Gallech gael eich talu ar gyfradd uwch na’ch cyfradd tâl arferol ar gyfer peth o’r gwaith a wnewch. Er enghraifft am weithio:
- goramser, ar benwythnos neu sifftiau nos
- ar wyliau banc
- mwy na nifer penodol o oriau.
Os felly, nid yw’r ‘elfen bremiwm cyflog’, nid yw'n cyfrif tuag at eich isafswm cyflog. Elfen bremiwm cyflog yw'r swm y mae'r gyfradd gyflog uwch yn fwy na'ch cyfradd sylfaenol.
Yn ogystal, ni all eich cyflogwr ystyried y canlynol i’w cyfrif tuag at eich isafswm tâl cyflog:
- tipiau neu arian rhodd
- taliadau gwasanaeth
- ffioedd gan gwsmeriaid.
Fodd bynnag, gall eich cyflogwr gynnwys taliadau ysgogiad neu fonws fel rhan o’ch cyflog sylfaenol.
Beth i’w wneud os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir
Os credwch eich bod wedi cael llai na’r isafswm cyflog cywir ar gyfer eich oedran, siaradwch â’ch cyflogwr.
Os na fydd hynny’n datrys y broblem, gallwch ofyn i gael gweld cofnodion eich taliadau a gwneud copïau ohonynt.
Neu, am gyngor cyfrinachol am ddim i'ch helpu i ddatrys eich anghydfod talu, gallwch gysylltu ag un o'r gwasanaethau cynghori hyn yn y gweithle:
- Ffoniwch Linell Gymorth Acas ar 0300 123 1100 neu ymwelwch â gwefan Acas (Cymru, Lloegr a’r Alban).
- Ffoniwch Linell Gymorth yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur ar 0289 032 1442 neu ymwelwch â wefan Labour Relations Agency (Gogledd Iwerddon).
Gallwch hefyd wneud cwyn i Gyllid a Thollau EM am eich cyflogwr.
Os yw CThEM yn canfod eich bod wedi cael eich talu’n anghywir, mae rhaid i’ch cyflogwr dalu unrhyw symiau sy’n ddyledus i chi a thalu dirwy i CThEM am dalu’n is na’r isafswm cyflog.
I gwyno am beidio â chael yr isafswm cyflog, defnyddiwch ffurflen gwynion CThEM ar wefan GOV.UK
Beth yw’r Cyflog Byw?
Pennir y Cyflog Byw gan Sefydliad y Cyflog Byw. Ceir cyfradd y DU a chyfradd Llundain.
Mae Cyflog Byw y DU yn £9.50 yr awr ac mae Cyflog Byw Llundain yn £10.85 yr awr ar gyfer 2021/22.
Mae’r Cyflog Byw yn seiliedig ar gostau byw.
Mae'r Resolution Foundation yn felin drafod sy'n ceisio gwella safonau byw teuluoedd incwm isel a chanolig. Maent yn cyfrifo'r cyfraddau, sy'n cael eu goruchwylio gan y Sefydliad y Cyflog Byw.
Sefydliad yn y DU yw'r Sefydliad Cyflog Byw sy'n ymgyrchu i gyflogwyr dalu'r Cyflog Byw.
Nid oes rhaid i gyflogwyr dalu’r Cyflog Byw, ond mae dros 3,600 o gyflogwyr yn dewis gwneud hynny.
Gallwch ddod o hyd i gyflogwyr sy'n talu'r Cyflog Byw yn agos atoch ar wefan Sefydliad y Cyflog Byw
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Cyflog Byw Cenedlaethol a’r Cyflog Byw?
Y Cyflog Byw Cenedlaethol:
- yw cyfradd uchaf yr isafswm cyflog cenedlaethol (£8.91 yr awr ar hyn o bryd).
- caiff ei bennu gan y llywodraeth
- mae rhaid ei dalu i bob gweithiwr dros 23 oed.
Y Cyflog Byw:
- caiff ei bennu gan Sefydliad y Cyflog Byw
- mae’n berthnasol i bob gweithiwr dros 18 oed
- mae’n wirfoddol – gall cyflogwyr ddewis a ydynt am ei dalu
- mae dwy gyfradd iddo – ceir cyfradd y DU (£9.50 yr awr) a chyfradd Llundain (£10.85 yr awr).