Mae'n ddefnyddiol gwybod sut mae LwfansPâr Priod a Phriodas yn gweithio. Maent fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn. Mae codiadau fel arfer yn berthnasol o ddechrau'r flwyddyn dreth (6 Ebrill).
Lwfans Priodas
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gall un ohonoch drosglwyddo hyd at £1,250 o'ch Lwfans Personol i'r llall.
Dyma 10% o'r Lwfans Personol sylfaenol o £12,500 ar gyfer blwyddyn dreth 2020/21. (Lwfans Personol Sylfaenol yw swm yr incwm nad oes yn rhaid i chi dalu treth arno.)
Darganfyddwch fwy am Lwfans Personol ar wefan GOV.UK
Mae'r trosglwyddiad hwn yn lleihau treth partner hyd at £250 yn y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).
Weithiau cyfeirir at Lwfans Priodas fel y Lwfans Treth Priodas.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Priodas:
- os ydych yn briod, neu mewn partneriaeth sifil ac nad ydych yn cael lwfans pâr priod
- os yw un ohonoch yn ennill llai na’r Lwfans Personol - felly nad ydych yn atebol i dreth neu’n atebol i’r cyfraddau uwch neu ychwanegol. Rhaid i’ch partner fod yn drethdalwr cyfradd sylfaenol gydag incwm o rhwng £12,501 a £50,000.
- os cawsoch eich geni ar ôl 6 Ebrill 1935. Os nad oeddech chi, efallai y gallech chi gael Lwfans Pâr Priod.
Mae Lwfans Priodas yn golygu y bydd y partner sy'n ennill mwy yn cael £1,250 wedi ei ychwanegu at ei Lwfans Personol sylfaenol.
O'r swm o arian a drosglwyddwyd i bartner fel rhan o'r Lwfans Priodas - rhoddir 20% fel gostyngiad yn eu bil treth. Mae hyn yn wahanol i'r Lwfans Personol - sy'n cael ei ddidynnu o incwm trethadwy cyn cyfrifo treth.
Dyma enghraifft.
Os ydych yn ennill £30,000 y flwyddyn (trethdalwr cyfradd sylfaenol) a bod eich partner yn ennill £8,000 y flwyddyn (trethdalwr heb gyfradd) fe allai eich cartref elwa o £250:
- | Heb Lwfans Priodas | Gan gynnwys Lwfans Priodas |
---|---|---|
Incwm |
£30,000 |
£30,000 |
Lwfans Personol |
£12,500 |
£13,750 |
Treth Incwm |
£3,630 |
£3,392 |
Arbed treth |
0 |
£250 |
Blank | Heb Lwfans Priodas | Gan gynnwys Lwfans Priodas |
---|---|---|
Incwm |
£8,000 |
£8,000 |
Lwfans Personol |
£12,500 |
£11,250 |
Treth Incwm |
£0 |
£0 |
Arbed treth |
0 |
£0 |
Yn yr enghraifft hon, pan fydd y sawl nad yw'n talu treth yn ennill dros £11,250 - mae'r Lwfans Priodas o lai o fudd. Mae hyn oherwydd y byddai'r sawl nad yw'n talu treth yn talu treth ar incwm dros £11,250 yn hytrach na £12,500 (swm y Lwfans Personol sylfaenol.
Bydd cod treth y partner sy’n cael y Lwfans Priodas fel arfer yn newid i ‘M’.
Mae hyn yn dangos eu bod yn cael Lwfans Priodas gan eu partner.
Os cyflogir y partner a drosglwyddodd ei Lwfans Personol, bydd ei god treth yn newid i ‘N’. Mae hyn yn dangos eu bod wedi dewis defnyddio'r Lwfans Priodas.
Sut i wneud cais am Lwfans Priodas
Gallwch ymgeisio ar-lein yn HMRC ar wefan GOV.UKY cyfan sydd ei angen arnoch yw eich rhifau Yswiriant Gwladol a cherdyn adnabod.
Gallwch hefyd ymgeisio ar y ffôn ar 0300 200 3300*.
* Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 6pm, Efallai y bydd taliadau galw. Gweler GOV.uk am fanylion
Hawlio Lwfans Priodas am flynyddoedd blaenorol
Rhaid i chi fodloni’r meini prawf ar gyfer pob blwyddyn yr ydych chi’n ymgeisio ar eu cyfer.
Cofiwch fod y trothwy ar gyfer rhai nad ydynt yn talu treth a threthdalwyr ar y gyfradd sylfaenol yn wahanol yn ôl y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei chyfer.
Gallwch ôl-ddyddio eich hawliad am hyd at bedair blynedd.
Gallai hyn fod yn werth hyd at £1,188, gan gynnwys yr arbediad o £250 ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol.
Gallwch wneud cais ar-lein i Gyllid a Thollau EM ar wefan GOV.UK
Hawlio Lwfans Priodas os yw’ch partner wedi marw
Os bu farw’ch partner ar ôl 2016, a’ch bod chi’n bodloni’r meini prawf eraill ar gyfer Lwfans Priodas, fe allech chi ymgeisio am y budd.
Byddwch chi’n ymgeisio i ôl-ddyddio’ch budd, felly fe fyddwch chi’n derbyn y budd fe pe bai chi wedi ymgeisio amdano o fis Ebrill 2016.
Bydd hyn werth £1,188, ond dim ond ar gyfer y blynyddoedd yr oedd y ddau ohonoch chi’n fyw y byddwch yn cael taliadau.
I wneud cais am Lwfans Priodas os yw’ch partner wedi marw trwy ffonio 0300 200 3300.*
** Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 8am i 6pm. Efallai y bydd taliadau galwad Gweler GOV.uk am fanylion
Lwfans Parau Priod
Yn lle’r Lwfans Priodas, gallai cyplau lle mae un partner neu’r ddau ohonynt wedi’u geni cyn 6 Ebrill 1935 hawlio lwfans mwy hael, o’r enw Lwfans Pâr Priod.
Ar gyfer priodasau cyn 5 Rhagfyr 2005, defnyddir incwm y gŵr i gyfrifo’r Lwfans Pâr Priod, er y gellir ei drosglwyddo i’r wraig.
Ar gyfer priodas a phartneriaethau sifil wedi’r dyddiad hwn, incwm yr un sy’n ennill y mwyaf sy’n cyfrif.
Rhoddir gostyngiad ar y dreth ar gyfer y Lwfans Pâr Priod ar y gyfradd o 10%. Mae hyn yn golygu bod y partner â’r enillion uchaf yn derbyn 10% oddi ar y dreth y maen nhw’n ei thalu.
Mae cyfyngiadau uchaf ac isaf i’r budd ar gyfer swm y dreth y gellir ei hawlio a faint y gellir ei ennill.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2020/21, gallai hyn leihau eich bil treth rhwng £351 a £907.50 y flwyddyn.