Mae prentisiaeth yn swydd go iawn â hyfforddiant, fel y gallwch ennill cyflog wrth i chi ddysgu a chael eich hyfforddi’n llawn yn eich dewis o alwedigaeth erbyn diwedd y brentisiaeth. Maent yn galluogi i chi wella eich sgiliau a symud ymlaen yn eich gyrfa.
Beth yw prentisiaeth?
- ar gael i unrhyw un dros 16 oed, sydd heb gofrestru mewn addysg llawn amser
- ar gael mewn dros 170 o ddiwydiannau, yn cynnwys awyrofod, cyllid a ffasiwn
- yn cymryd rhwng un i bum mlynedd i gwblhau yn ddibynnol ar: oed, sgiliau a sector
- yn cyfuno hyfforddiant ymarferol ‘yn y gwaith’ â gwaith astudio academaidd a gallech weithio tuag at gymhwyster.
Peidiwch â thybio eich bod yn rhy hen. Mae prentisiaethau ar gyfer pobl sydd dros 25 oed yn gynyddol gyffredin, ac efallai mai dyna'r ffordd berffaith i chi newid eich gyrfa.
Enw | Lefel | Lefel addysgol gyfwerth |
---|---|---|
Intermediate |
2 |
TGAU |
Advanced |
3 |
Lefel A |
Higher |
4, 5, 6 a 7 |
Gradd sylfaen ac uwch |
Degree |
6 a 7 |
Gradd Baglor neu Feistr |
I gael eich derbyn ar brentisiaeth, mae rhaid i chi fodloni unrhyw ofynion mynediad
Beth fyddwn yn ei ddysgu?
Mae pob prentis yn dilyn rhaglen o astudio gymeradwy, a gynllunwyd ar gyfer y swydd y maent yn hyfforddi ar ei chyfer.
Bydd eich cyflogwr yn penderfynu strwythur eich hyfforddiant, ond yn gyffredinol mae prentisiaethau'n cyfuno:
- cynllun hyfforddiant manwl
- adolygiadau cynnydd rheolaidd
- hyfforddiant ymarferol yn y swydd
- astudio damcaniaethol mewn coleg
- profion asesu mewn cyfleuster hyfforddiant
- mentora a chefnogaeth trwy gydol eich prentisiaeth.
Erbyn diwedd y cwrs, dylech fod wedi sicrhau’r cymwysterau, sgiliau a phrofiad sy’n ofynnol gan gyflogwyr posibl yn y maes.
Faint o oriau fyddwn yn eu gweithio yr wythnos?
Dylai prentisiaid weithio am isafswm o 30 awr yr wythnos ac uchafswm o 40.
Mae amser a dreulir oddi wrth y swydd yn y coleg neu’n hyfforddi wedi ei gynnwys yn yr oriau hyn.
Gellir dod i gytundeb ar brentisiaethau rhan amser â’ch cyflogwr, ar isafswm o 16 awr yr wythnos, er enghraifft ble mae gan brentisiaid ddyletswyddau gofal.
Darganfyddwch fwy am brentisiaethau ar wefan GOV.UK
Cyflogau i Brentisiaid
Un o brif fanteision prentisiaeth yw y gallwch ennill cyflog tra rydych yn gweithio ac astudio.
Mae cyflog prentis yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- y math o brentisiaeth y byddwch yn gwneud cais amdani
- eich oed, profiad a chymwysterau cyfredol
- y sector rydych yn gweithio ynddi, er enghraifft peirianneg, manwerthu neu gyllid.
Isafswm cyflog
Mae isafswm cyflog ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd wedi cofrestru ar brentisiaethau.
Mae faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich oed a pha mor hir rydych wedi bod yn gwneud y brentisiaeth:
- Os ydych yn 16-18 oed, neu yn eich blwyddyn gyntaf a dros 19 oed, byddwch yn ennill o leiaf £4.30 yr awr (ar gyfer 2021-22).
- Os ydych wedi cwblhau eich blwyddyn gyntaf a dros 19 oed, byddwch yn ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, sy’n amrywio yn ddibynnol ar eich oed.
Gall rhai cyflogwyr ddewis talu mwy na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Fel prentis, efallai bydd rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar eich enillion.
Mae gennych hawl i slip cyflog a fydd yn dangos faint y byddwch yn ei ennill a pa ddidyniadau sydd wedi cael eu gwneud.
Darganfyddwch fwy am y wybodaeth sydd wedi’i gynnwys ar eich slip cyflog yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
Darganfyddwch fwy am Treth Incwm a’r Lwfans Personol yn ein canllaw Sut mae Treth Incwm, Yswiriant Gwladol a'r Lwfans Personol yn gweithio
Dysgwch fwy am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Prentisiaethau yn ystod yr achos o goronafeirws
Fel prentis, mae gennych hawl i’r un gefnogaeth â gweithiwr cyflogedig.
Os cawsoch eich rhoi ar absenoldeb di-dâl ar neu cyn 28 Chwefror 2020, gallwch gael eich rhoi ar ffyrlo ar 80 y cant o’ch cyflog. Ni allwch weithio tra’ch bod ar ffyrlo, ond gallwch barhau â’ch hyfforddiant.
Darganfyddwch fwy am y Coronafeirws os ydych yn weithiwr cyflogedig
Os gofynnwyd i chi gymryd cyfnod o wyliau di-dâl os, er enghraifft, nad yw’n bosibl i chi weithio o gartref neu bod bellhau cymdeithasol yn golygu nad yw eich prentisiaeth yn bosibl ar hyn o bryd, gallwch gymryd ‘seibiant mewn dysgu’ a ailddechrau yn ddiweddarach
Buddion prentis
Mae gan brentisiaid sy’n gweithio dros 33 awr yr wythnos yr hawl i’r un buddion â phawb arall yn y gweithle.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- hawl i dâl salwch
- o leiaf 20 niwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn
- Tâl Mamolaeth/Tadolaeth Statudol ac absenoldeb mamolaeth/tadolaeth.
Efallai y bydd gennych hefyd hawl i wneud cais am Gredyd Cynhwysol ac elfennau i gwmpasu costau eraill fel tai neu fagu plant.
Darganfyddwch fwy am wneud cais yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Prentisiaethau a phensiynau gweithle
Fel prentis, byddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig mewn pensiwn gweithle cyn belled â’ch bod yn cwrdd â’r meini prawf cymhwysedd - gan gynnwys bod o leiaf 22 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig - cyflwyniad
Os ydych o dan 22 oed, ni fyddwch yn cael eich ymrestru’n awtomatig, ond gallwch ddewis optio i mewn i’r cynllun.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig os ydych yn 21 oed neu is
Ble i gael gwybod mwy
Mae prentisiaethau’n gweithio’n wahanol yn dibynnu ar ble rydych yn byw. I ddarganfod mwy ewch i:
- Cymru: Gyrfa Cymru
- Lloegr: GOV.UK
- Yr Alban: apprenticeships.scot
- Gogledd Iwerddon: nidirect