Yn ogystal â thalu’ch cyflog, mae rhai cyflogwyr yn rhoi buddion eraill i chi fel car cwmni, yswiriant iechyd neu gynllun deintyddol tra yr ydych yn gweithio iddynt. Mae rhai o’r rhain yn fuddion trethadwy a rhai yn ddi-dreth. Bydd y canllaw hwn yn rhoi help i chi ddeall ym mha gategori mae pob budd yn perthyn iddo.
Buddion trethadwy a di-dreth
Mae llawer o wahanol fathau o fuddion cyflogeion, ac ni fydd rhaid i chi dalu treth ar rai ohonynt.
Os ydych yn cael budd ac mae'n drethadwy, fel arfer bydd yn effeithio ar y treth sy'n cael ei diddynnu o'ch slipiau cyflog a chewch cofnod gan eich cyflogwr ar ddiwedd pob blwyddyn treth yn rhestru gwerth trethadwy pob budd.
Gallwch wirio â'ch cyflogwr os nad ydych yn sicr.
Darllenwch fwy am dalu treth ar fuddion cyflogeion ar wefan HMRC
Newidiadau i’ch buddion cyflogeion
Os dechreuwch gael buddion cyflogeion, neu os cawsoch rhai eisoes ond bod hyn bellach wedi dod i ben, mae angen i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM (HMRC).
Gallant newid eich cod treth wedyn i sicrhau eich bod yn talu’r cyfanswm cywir o dreth.
Dywedwch wrth HMRC am unrhyw newidiadau i’ch buddion cyflogai
Dim ond tra byddwch yn gyflogedig y cewch y buddion
Os ydych yn ystyried gadael gwaith, mae'n werth cofio y bydd rhaid i chi roi'r gorau i fuddion cyflogeion pan fyddwch yn gadael.
Cofiwch ystyried cost unrhyw fuddion cyflogeion a gewch efallai, fel car neu yswiriant bywyd, pan fyddwch yn penderfynu sut i gynnal eich materion ariannol yn dilyn gadael swydd.
Mathau o fuddion cyflogeion
Mae gwahanol gwmnïau yn delio â buddion mewn ffyrdd gwahanol. Mae’r adran hon yn trafod y mathau cyffredin o fuddion a roddir gan sefydliadau.
Buddion craidd a hyblyg
- Buddion craidd – cynigir i bawb yn y cwmni sy’n gymwys i’w cael. Mae’n gwneud synnwyr bob amser i gymryd buddion craidd.
- Buddion hyblyg -yn golygu bod y cyflogwr yn cynnig detholiad o fuddion a gallwch ddewis pa rai sydd fwyaf defnyddiol i chi. Er enghraifft, os oes gennych deulu gallech ddewis buddion gofal plant, tra byddai person sengl yn dewis yswiriant iechyd personol efallai. Mae rhai cwmnïau yn cynnig buddion craidd a hyblyg.
- Arian parod yn hytrach na buddion - dewis arall y gallai’ch cyflogwr ei gynnig. Astudiwch y dewisiadau a’r blaenoriaethau cyn penderfynu, gan ystyried eich partner neu deulu os yw hynny’n berthnasol. Byddwch yn ymwybodol y bydd buddion sy’n cael eu cyfnewid am arian parod yn rhwym i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn union fel tâl cyffredin.
Peidiwch â chymryd yr un buddion dwywaith
Os dechreuwch gael buddion o’r gwaith, gwiriwch nad ydych chi a’ch partner yn talu am y pethau hyn yn bersonol eisoes.
Er enghraifft, mae’n bosib y bydd gennych bolisi yswiriant bywyd personol, ond yna byddwch yn dechrau swydd lle mae’r pecyn yn cynnwys yswiriant bywyd, sy’n golygu y gallech fod yn talu am fwy o sicrwydd nag sydd ei angen arnoch.
Yn nodweddiadol mae swm yswiriant bywyd trwy waith yn dwy neu bedair gwaith cyfanswm eich cyflog blynyddol.
Efallai yr hoffech ychwanegu ato ag ychydig o yswiriant personol – ond nid cymaint.
Rhestr o fuddion cyffredin i weithwyr
Rydym wedi rhestru rhai o’r mathau mwyaf cyffredin o fuddion gweithwyr, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn ag a oes angen i chi dalu treth arnynt neu eu datgan i HMRC.
Am fwy o wybodaeth, darllenwch am dreth ac Yswiriant Gwladol ar fuddion cwmni ar wefan HMRC
Yswiriant iechyd personol
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Ydych. Fel arfer bydd rhaid i chi dalu treth ar gost premiymau yswiriant os ydynt yn cael eu talu gan eich cyflogwr. Gallwch gael rhai buddion meddygol yn ddi-dreth, er enghraifft, gwiriadau iechyd blynyddol, profion llygaid sy'n ofynnol oherwydd eich bod yn defnyddio cyfrifiadur yn y gwaith, neu os oes angen triniaeth arnoch pan fyddwch yn gweitho tramor.
Car cwmni
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Ydych, os ydych chi neu'ch teulu'n defnyddio car cwmni yn breifat, gan gynnwys teithio i'r gwaith. Bydd hyn yn seiliedig ar werth y car a'r math o danwydd y mae'n ei ddefnyddio. Bydd rhaid i chi hefyd dalu treth ar gost tanwydd y mae eich cyflogwr yn ei ddarparu ar gyfer y car os yw at ddefnydd preifat.
Benthyciad di-log
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Ydych, os yw’r swm yn uwch na £10,000 mewn blwyddyn. Talwch dreth ar y gwahaniaeth rhwng y gyfradd llog a dalwch i’ch cyflogwr a’r gyfradd llog swyddogol a osodir gan Fanc Lloegr.
Yswiriant bywyd
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Os yw eich cyflogwr yn darparu taliad ar farwolaeth fel rhan o’ch cynllun pensiwn, nid yw’n drethadwy.
Gofal plant
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Os yw eich cyflogwr yn darparu gofal plant (mewn crèche er enghraifft), nid oes angen i chi dalu dim. Os ydynt yn darparu talebau gofal plant ar eich cyfer neu yn cytundebu rhywun i ddarparu gofal plant, mae treth i’w thalu os yw gwerth y talebau yn fwy na chyfanswm penodol. Mae faint a gewch yn ddi-dreth yn dibynnu ar ba gyfradd treth rydych yn ei thalu.
Darllenwch ein canllaw Help â chostau gofal plant
Tocyn tymor i deithio
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Efallai. Mae gan fenthyciadau tocynnau tymor yr un rheolau â benthyciadau di-log (gwelwch uchod).
Darllenwch am dalu treth ar docynnau tymor a chostau teithio ar wefan GOV.UK
Cynlluniau cyfranddaliadau
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Os yw’n Gynllun Cyfranddaliadau Awdurdodedig, cewch fanteision treth penodol, fel cael rhai o’r cyfranddaliadau yn ddi-dreth.
Darllenwch fwy am Gynlluniau Cyfranddaliadau Cymeradwy ar wefan GOV.UK
Bwyd a diod am ddim neu gymorthdaledig
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Na, os yw’n ddiod boeth neu ddŵr, neu os darperir bwyd mewn ffreutur, sydd ar agor i holl staff. Mae rheolau gwahanol os yw bwyd a diod yn cael ei ddarparu y tu allan i’r gwaith.
Lleoedd preswyl (tŷ, fflat neu westy)
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Ydych, er mae eithriadau ar gyfer pobl sy’n cael llety wedi ei ddarparu gan eu cyflogwyr er mwyn iddynt fedru gwneud eu swydd, neu ei wneud yn well, fel gofalwyr neu weithwyr amaethyddol.
Cwnsela lles
A ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol?
Na, cyn belled nad oes gan y cwnsela unrhyw beth i’w wneud â materion ariannol (ar wahân i gyngor ar bensiynau sy’n werth £150 y flwyddyn a chyngor ar ddyled), materion cyfreithiol, triniaeth feddygol neu weithgareddau hamdden.
Darllenwch fwy am Gynlluniau Cyfranddaliadau Cymeradwy ar wefan GOV.UK
Newidiadau i fuddion gweithwyr o fis Ebrill 2021
Bydd cynlluniau buddion gweithwyr sy’n cynnwys ceir, llety a ffioedd ysgol yn cael eu diogelu tan fis Ebrill 2021.