Data personol yw unrhyw wybodaeth sy’n gallu cael ei defnyddio i adnabod unigolyn byw. Mae hyn yn cynnwys enwau, manylion danfon, cyfeiriadau IP, neu ddata Adnoddau Dynol fel manylion cyflogres. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn defnyddio data personol yn eu gweithrediadau dyddiol. Rydym wedi rhoi sylw i rai o’r newidiadau i’r ffordd mae data personol yn cael eu rhannu o’r EEA i’r DU, fel yr amlinellir ar wefan y Llywodraeth isod. Rydym hefyd wedi edrych ar sgamiau posibl mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt.
Rwyf wedi bod yn derbyn e-byst am Brexit, mae’n debyg gan y llywodraeth, yn gofyn am fy manylion personol. A yw hyn yn sgam?
Mae sawl sgam e-bost am Brexit sy’n aml yn esgus i fod o’r llywodraeth yn gofyn am fanylion personol.
Nid yw’r llywodraeth yn anfon unrhyw e-byst am Brexit yn y ffordd hon. Os byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi glicio dolen neu’n holi am fanylion personol, dilëwch ef neu ei anwybyddu. Mae bron yn sicr o fod yn sgam.
Byddwch yn ofalus wrth gymryd neu dderbyn galwadau, e-byst a negeseuon testun annisgwyl.
Cofiwch na fydd eich banc byth yn gofyn i chi ddatgelu eich PIN llawn na chyfrinair na’n gofyn i chi symud arian i gyfrif arall.
Os ydych yn bryderus, gwiriwch â’ch darparwr gan ddefnyddio rhif rydych yn gwybod sy’n ddilys. Er enghraifft, defnyddiwch y rhif ar gefn eich cerdyn neu o’ch datganiad blynyddol neu ddogfennau polisi.
Os mai adran lywodraethol yw hi, fel CThEM neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), chwiliwch ar-lein am fanylion cyswllt neu edrychwch ar unrhyw gyfatebiaeth swyddogol yr ydych wedi’i dderbyn.
Rydych yn gwirio os yw cwmni gwasanaethau ariannol wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) trwy wirio’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol ar wefan FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Canllaw i ddechreuwyr i sgamiau
Mathau o sgamiau
Beth am ddiogelu data personol data ar ôl Brexit?
Nid oes newidiadau ar unwaith i reolau diogelu data’r DU nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a bod y cyfnod gweithredu wedi dod i ben.
Bydd cyfraith diogelu data’r DU yn parhau i fod yn gyflin â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR).
Mae’r DU yn aros yn ymrwymedig i safonau diogelu data uchel.
Darganfyddwch fwy ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
A yw cyfarwyddyd GDPR Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn berthnasol o hyd?
Bydd cyfraith diogelu data’r DU yn parhau yn gyflin â Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data’r UE (GDPR). Mae hyn yn golygu na fydd newidiadau arwyddocaol i drefn diogelu data’r DU oherwydd bod llywodraeth y DU yn dod â GDPR yr UE a Chyfarwyddebau Gorfodi Cyfraith yn uniongyrchol i gyfraith ddomestig y DU.
Gallai fod newidiadau hefyd i’r ffordd mae data yn cael eu rhannu o’r UE i’r DU.
Mae busnesau a sefydliadau yn gallu adolygu a allent gael eu heffeithio a’r diweddariadau diweddaraf gan y llywodraeth trwy wirio’r cyfarwyddyd diweddaraf sydd ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd GwybodaethYn agor mewn ffenestr newydd