Os yw eich incwm cartref yn cael ei wasgu, bydd y canllaw hwn yn dweud wrthych sut i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i gael, darganfod ffynonellau ychwanegol o incwm a deall y gefnogaeth sydd ar gael i’ch helpu reoli biliau cartref ac arbed arian.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Gwneud gwiriad budd-daliadau
- Cymorth gyda chostau nwy a thrydan
- Cymorth â chostau ffôn a band eang
- Cymorth gyda biliau a thaliadau eraill
- Beth allwch chi hawlio os yn gweithio ac ar incwm isel?
- Gwneud cais am grant elusennol
- Gwirio gorchudd yswiriant
- Gosod ystafell sbâr
- Cymorth i dalu am bethau hanfodol
- Cymorth ariannol yn ystod y pandemig Coronafeirws
- Blaenoriaethu eich lles corfforol a meddyliol
- Cysylltwch â'ch credydwyr
- Ble i gael cymorth a chyngor am ddim
Gwneud gwiriad budd-daliadau
Mae’n rhwydd meddwl eich bod yn ennill gormod i hawlio budd-daliadau. Neu os ydych yn cael budd-daliadau’n barod, efallai eich bod heb ddeall eich bod yn gymwys i gael cefnogaeth ychwanegol.
Ond nid yw tua £10 biliwn mewn budd-daliadau yn cael eu hawlio bob blwyddyn, felly mae o hyd yn werth cael golwg arall ar bethau.
Gwiriwch ein hadran budd-daliadau am beth allwch gael os ydych:
- yn wynebu cael eich gwneud yn ddiwaith neu os ydych wedi colli eich swydd am reswm arall
- yn hunangyflogedig neu’n gweithio ar incwm isel
- angen cymorth â chostau tai
- yn cael babi neu fagu plant
- yn sâl a methu gweithio neu ag anabledd neu gyflwr iechyd hir dymor
- yn ofalwr
- yn berson hyn.
Defnyddiwch y cyfrifannell budd-dal ar wefan Policy in Practice (Opens in a new window) am ddim i ddarganfod yn gyflym beth ydych â hawl iddynt a beth y gallech ei gael
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau a chefnogaeth ariannol allech fod â hawl iddynt yn nidirect (Opens in a new window)
Cymorth gyda chostau nwy a thrydan
Gwyliwch rhag newid
Mae prisiau ynni yn uchel iawn ar hyn o bryd. Mae llawer o bobl yn edrych i ddod o hyd i fargen ratach, fodd bynnag, mae’n debygol mai cyfradd tariff diofyn safonol eich cyflenwr a osodwyd ar y cap ar brisiau ynni gan y rheolydd Ofgem fydd y gyfradd rhataf sydd ar gael.
Mae hyn yn golygu na fydd y cartref cyffredin yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn talu mwy na £1,971 y flwyddyn (£2,017 os ydych ar dariff rhagdalu) ar dariff diofyn eu darparwr nwy a thrydan (a elwir hefyd yn amrywiol safonol).
Cofiwch y gallech dalu mwy neu lai na hyn os yw eich defnydd o ynni yn fwy neu'n is.
Os ydych chi ar dariff cyfradd sefydlog ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud i dariff amrywiol safonol eich darparwr pan ddaw’r cyfnod penodol i ben. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw dariffau ynni cyfradd sefydlog newydd sy'n rhatach na'r cap ar brisiau ynni.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i'w wneud os ydych chi'n poeni bod eich biliau ynni'n codi
Grantiau Ynni Effeithlon
Os ydych eisiau gwneud rhai newidiadau i’ch cartref i dorri eich biliau pwer, gallwch fynd yn wyrdd a lleihau y swm o ynni yr ydych yn ei ddefnyddio. Fe allwch gael cymorth tuag at y costau.
Darganfyddwch am grantiau arbed-ynni a chynigion ar wefan yr Energy Saving Trust (Opens in a new window) neu yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau cartref
Cymorth â chostau ffôn a band eang
Mae ffôn a band eang yn hanfodol os ydych yn edrych am waith neu ond eisiau edrych am y bargeinion gorau i’ch helpu i arbed arian, gan fod cynigion ar-lein fel arfer yn rhatach, a gallwch ddefnyddio safleoedd cymharu i wirio tariffau a phrisiau.
l’ch helpu i aros yn gysylltiedig yn ddigidol, mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost-isel os ydych yn cael rhai budd-daliadau seiliedig ar incwm, gan gynnwys:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Darganfyddwch pwy sydd yn cynnig tariffau cost-isel a sut all darparwyr eich helpu i fynd ar y cynllun gorau ar gyfer eich anghenion yn ein arweiniad Help os ydych yn cael trafferth i dalu am linell dir, ffôn symudol neu fand eang.
Darganfyddwch sut i arbed arian yn ein canllawiau:
Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
Sut i leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd
Mae yna nifer o gontractau SIM yn unig sydd â data symudol, allai fod yn werth gwell na phecyn band eang ac maent fel arfer yn cynnig cysylltiadau cyflymach.
Cymorth gyda biliau a thaliadau eraill
Mae o hyd yn syniad dda i adolygu eich holl filiau a thaliadau i weld os allwch arbed arian drwy newid darparwyr neu symud i gynllun rhatach.
Gweler ein canllaw ar Sut i arbed arian ar filiau cartref
Beth allwch chi hawlio os yn gweithio ac ar incwm isel?
Gwiriwch eich slip cyflog
Os ydych yn gyflogedig, gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio eich slip cyflog i weld eich bod ar y cod treth cywir ac yn cael eich talu unai ar neu uwchben yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Darganfyddwch mwy am godau treth yn ein canllaw Deall eich slip cyflog
Gwiriwch eich bod yn cael eich talu yn gywir a darganfyddwch beth i wneud os ydych yn cael eich talu'n llai na beth dylech yn ein harweiniad ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Cymryd ymlaen gwaith arall
Os rydych yn gallu cymryd ymlaen oriau ychwanegol, gallwch ennill arian o ail swydd.
Darllenwch bob dim rydych angen yn ein canllaw Treth a Chyflog Ail Swydd
Cerdyn Disgownt Teithio Canolfan Byd Gwaith
Pam rydych wedi bod yn hawlio budd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm penodol – gan gynnwys Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol – am dri mis, byddwch â hawl i Gerdyn Disgownt Teithio Canolfan Byd Gwaith.
Gallwch gael tocynnau trên hanner pris a disgownt ar wasanaethau bws penodol am chwe mis (pobl 18-24 mlwydd oed) neu naw mis (dros 25 oed).
Gwnewch gais am Gerdyn Disgownt Teithio Canolfan Byd Gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol. Darganfyddwch fwy drwy gysylltu â'ch Canolfan Byd Gwaith lleol yn GOV.UK (Opens in a new window)
Y Gronfa Cymorth Hyblyg
Efallai y gallwch ddefnyddio y Gronfa Cymorth Hyblyg i’ch helpu â chostau teithio i gyfweliadau neu hyfforddiant neu â chostau ychwanegol y gallwch fod ganddo yn y misoedd cyntaf o gychwyn swydd newydd.
Gallwch hefyd wneud cais i dalu am gostau o flaen llaw os ydych angen sicrhau lle gofal plant.
Darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth Hyblyg ar wefan Turn2us (Opens in a new window)
Gwneud cais am grant elusennol
Mae llawer o elusennau a sefydliadau proffesiynol, crefyddol a rhai eraill lleol yn cynnig grantiau. Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu yr arian nôl.
I ddarganfod os ydych yn gymwys defnyddiwch y teclyn ‘Edrych am grantiau’ ar wefan Turn2us (Opens in a new window)
Gwirio gorchudd yswiriant
Os ydych wedi colli eich swydd neu methu gweithio yn sgil iechyd gwael neu ddamwain fe allwch fod gan orchudd yswiriant rydych wedi anghofio amdano a all gynnig diogelwch incwm.
Os oes gennych forgais, gwiriwch os wnaethoch dynnu allan unrhyw bolisiau i orchuddio taliadau. Hefyd, mae rhai cyfrifau banc yn cynnig pecynnau ychwanegol o ysiwiriant.
Fe all eich gweithle gynnig cefnogaeth os ydych wedi cael damwain neu gyflwr iechyd hir dymor. Gwiriwch eich llawlyfr gwaith staff i weld am hyn.
Gosod ystafell sbâr
Os oes gennych ystafell llofft sbâr yn eich cartref, efallai eich bod eisiau meddwl ei gosod allan o dan y Cynllun Gosod Ystafell, sydd yn caniatáu i chi ennill £7,500 y flwyddyn mewn incwm rhent heb dalu unrhyw dreth arno.
Does dim rhaid i chi fod yn berchennog cartref i gymryd mantais o’r cynllun. Os ydych yn rhentu gallwch hefyd osod allan ystafell i letywr, cyn belled a bod eich cytundeb tenantiaeth yn caniatáu i chi wneud hynny.
Os ydych ar Gredyd Cynhwysol gallwch ennill fyny at y terfyn o £7,500 heb iddo effeithio eich taliad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Gosod Ystafell sut mae’n gweithio a’r rheolau treth
Cymorth i dalu am bethau hanfodol
Taliad cyllidebu ymlaen llaw a benthyciad cyllidebu
Ydych chi’n cael budd-daliadau seiliedig ar incwm penodol ac angen cymorth i dalu bethau hanfodol fell dillad, dodrefn neu flaendal rhent? Yna efallai fe allwch wneud cais am Fenthyciad Cyllidebu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os ydych yn cael Credyd Cynhwysol.
Ond fe fyddwch angen wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis cyn allwch chi wneud cais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Cefnogaeth i’ch helpu drwy argyfwng
Os ydych yn wynebu argyfwng fel peiriant golchi yn torri lawr neu angen cymorth ar frys gyda’ch biliau ynni, neu bwyd, neu dillad ac yn fregus, fe allai fod help lleol ar gael.
Os ydych yn byw yn Lloegr, mae’r Gronfa Gymorth i Aelwydydd (a elwir hefyd yn Gynllun Cymorth Argyfwng Diamod neu Gymorth Lles Lleol) ar gael ar hyn o bryd i deuluoedd bregus neu os ydych ar incwm isel a gall cael ei ddefnyddio os ydych yn cael trafferth gyda biliau a chostau bob dydd fel:
- Biliau nwy neu drydan
- Band eang neu filiau ffôn
- Dillad
- Costau trafnidiaeth hanfodol megis trwsio car, prynu beic neu dalu am danwydd.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol i weld a oes ganddynt gynllun cyngor lles. Gallwch hefyd ddarganfod help sydd ar gael yn eich ardal ar wefan End Furniture PovertyYn agor mewn ffenestr newydd
Mae yna gynlluniau ar wahân ar gael os ydych yn byw yn Yr Alban, yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon.
- Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am Gronfa Lles yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban (Opens in a new window)
- Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth Dewisol ar wefan Llywodraeth Cymru (Opens in a new window)
- Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y newidiadau i’r Gronfa Gymdeithasol ar wefan nidirect (Opens in a new window)
Cymorth ariannol yn ystod y pandemig Coronafeirws
Taliad Cymorth Profi ac Olrhain
O 24 Chwefror 2022, nid yw’r Taliad Cymorth Profi ac Olrhain bellach ar gael os ydych yn byw yn Lloegr.
Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon a dywedir wrthych am hunanynysu, gallwch barhau i gael cymorth os na allwch weithio gartref ac rydych yn hawlio:
- Credyd Cynhwysol
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn, neu
- Budd-dal Tai.
Yn yr Alban, mae hwn yn cael ei alw’n Self-Isolation Support Grant ac mae'n werth £500.
Yng Nghymru, fe'i gelwir yn daliad hunanynysu ac mae'n werth £750.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe'i gelwir yn Discretionary Support Self-Isolation Grant, a gallwch ddarganfod mwy amdano ar wefan NI Direct (Opens in a new window)
Eich awdurdod lleol fydd yn gwneud y taliad hwn.
Bydd rhaid i chi ddangos prawf o’ch cyflogaeth i fod yn gymwys a bydd gwiriadau’n cael eu cynnal i gadarnhau nad ydych yn gallu gweithio gartref.
Darganfyddwch fwy am y Cynllun Cymorth Prawf a Olrhain:
Os ydych yn byw yng Nghymru, ar gyfer y cynllun cymorth hunanynysu ewch i llyw.cymru (Opens in a new window)
Os ydych yn byw yn yr Alban, dewch i ddeall beth yw’r grant hunanynysu ar mygov.scot (Opens in a new window)
Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Fe allai ffoaduriaid fod yn gymwys i fenthyciad integreiddio i dalu am gostau tai, eitemau cartref, addysg a hyfforddiant gwaith.
Fe allai ceiswyr lloches hawlio cefnogaeth lloches ar gyfer tai, addysg a mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG).
Darganfyddwch fwy am gymorth lloches yn GOV.UK (Opens in a new window)
Mae’r Cyngor Ffoaduriaid yn cynnig cyngor am ddim a gwybodaeth ar gyfer ffoaduriaid a ceiswyr lloches yn y DU.
I ddarganfod help yn agos i chi defnyddiwch y cyfeirlyfr yn y Refugee Council (Opens in a new window)
Blaenoriaethu eich lles corfforol a meddyliol
Mae byw ar incwm isel, yn enwedig pan mae’n cael ei achosi gan sioc incwm megis colli swydd, profedigaeth neu berthynas yn torri lawr, yn gallu achosi hynod o straen ac effeithio ar eich gallu i ymdrin â phroblemau pan mae gymaint o bethau eraill yn mynd ymlaen yn eich bywyd.
Gall fynd drwy broblemau iechyd corfforol neu feddyliol efallai olygu eich bod yn cael trafferth rheoli eich arian.
Mae’n bwysig cofio fod llawer o help ar gael i reoli eich arian os ydych yn cael trafferth.
Gallwch ddarganfod awgrymiadau ymarferol ar sut i reoli eich arian a ble i gael cymorth arbenigol am ddim yn ein arweiniad Problemau ariannol a lles meddyliol
Cysylltwch â'ch credydwyr
Mae rhoi gwybod i’r pobl neu’r cwmnïau mae arnoch chi arian iddynt yn gynharach na’n hwyrach eich bod yn cael trafferthion yn eu galluogi i roi cefnogaeth mewn lle i chi.
Os ydych yn cael trafferthion ag arian neu’n pryderu am ddisgyn i mewn i ddyled, gall eich opsiynau gynnwys:
- Adolygu cynlluniau talu biliau, gan gynnwys unrhyw ddyled yr ydych yn ad-dalu mewn rhandaliadau
- Seibiannau talu, neu ostyngiad yn faint ydych yn talu
- Cael cyfnod hirach i ad-dalu beth sy’n ddyledus gennych
- Symud i dariff gwahanol
- Gostwng eich cap gwario
- Mynediad i gronfeydd caledi (mewn achosion eithriadol).
Ble i gael cymorth a chyngor am ddim
Os yw eich problem yn gymhleth, gall Advicelocal eich helpu i gael cyngor diduedd am ddim (Opens in a new window) yn eich ardal ar:
- Budd-daliadau
- Treth Cyngor
- Tai
- Cyflogaeth
- Anabledd a gofal cymdeithasol
- Lloches a mewnfudo.
Os ydych wedi methu taliadau ar filiau neu fenthyciadau, nawr yw’r amser i gael cyngor dyled am ddim.